Jump to content

27 Mehefin 2018

Manteision hyfforddiant ar-lein

Manteision hyfforddiant ar-lein
Gan Lesley Smith - Swyddog Datblygu a Datblygu


Ar ôl gweithio yn y sector Dysgu a Datblygu ar hyd fy ngyrfa, roeddwn yn wrth fy modd cael y dasg o ddatblygu porth hyfforddiant ar-lein yn benodol ar gyfer aelodau CHC. Arweiniodd hyn at flwyddyn gyntaf ddiddorol iawn ac at bartneriaeth rhwng Online Housing Training a Cartrefi Cymunedol i lansio hyfforddiant tai ar-lein cyntaf Cymru.


P'un ai ydych angen darparu hyfforddiant i unigolion neu gynyddu sgiliau eich holl weithlu, mae Hyfforddiant Tai Ar-lein Cymru yn eich galluogi i fonitro cynnydd, mae ganddo ardystiad CPD ac mae ar gael am bris rhesymol.


Mae cyrsiau yn dechrau am ddim ond £15 y person a gallwch gael mwy o wybodaeth am yr hyn a gynigiwn yma.


Mae llawer o bobl wedi gofyn i mi pam y dylent roi cynnig ar hyfforddiant ar-lein a sut y gall weithio iddyn nhw. Felly rwyf wedi paratoi fy rhestr 10 uchaf o fanteision i droi at y rhyngrwyd ar gyfer hyfforddiant.
  1. Mae'n gyfleus: Gellir ei wneud unrhyw le, unrhyw amser. Cyhyd â bod gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gallwch wneud unrhyw fath o hyfforddiant ar-lein ar amser sy'n gweddu i chi ac mae hynny'n ei wneud yn ffordd effeithlon iawn i ddysgu. Os ydych eisiau eistedd yno a'i wneud yn eich crys nos, gwnewch e! Ni fydd neb yn gwybod ac ni fydd yn effeithio ar y ffordd y gweithiwch.

  2. Mae'n rhatach: Nid yw'n rhaid i chi boeni am deithio i'r ystafell ddosbarth neu, o ran hynny, wisgo amdanoch. Gwnewch baned i'ch hunan, eistedd a rydych yn barod i ddysgu heb orfod dod o hyd i arian ar gyfer tocyn bws neu drên.. Nid yw'n rhaid i chi wario ar lyfrau chwaith.

  3. Mae'n effeithlon: Gallwch ei wneud ar eich cyflymder eich hun, gan olygu y gallwch amsugno'r wybodaeth a symud ymlaen fel y mynnwch. Nid yw pawb ohonom mor gynhyrchiol ar yr un amser o'r dydd, felly mae dewis pryd sy'n gweddu i chi yn un o brif fanteision gwneud cwrs ar-lein.

  4. Mae'n gyson: Mae cyrsiau hyfforddiant ar-lein yn cyflwyno'n union yr un cynnwys i bawb. Dim athrawon gwael, dim dyddiau di-hwyl - bydd pawb yn derbyn gwybodaeth o'r un ansawdd.

  5. Mae'n gywir: Gall llyfrau fynd allan o ddyddiad o gyflym ond mae'n rhwydd cadw cyrsiau ar-lein yn hollol berthnasol. Mae hyfforddiant ar-lein yn esblygu'n barhaus, sy'n golygu y byddwch yn dysgu'r wybodaeth ddiweddaraf.

  6. Mae'n berthnasol: Gyda phob modiwl wedi cael sicrwydd ansawdd arbenigwyr o fewn y sector Tai Cymdeithasol yng Nghymru, gallwch fod yn sicr fod y cynnwys yn gyfoes, yn cydymffurfio ac yn berthnasol i'ch sefydliad.

  7. Mae'n gynyddol: Mae asesiadau ar-lein yn profi gallu heb y pwysau o gymryd arholiad go iawn a gellir ailsefyll rhai asesiadau a'u hailystyried os ydych eisiau gwneud yn well.

  8. Mae ganddo ardystiad CPD: Gellir cynnwys y dysgu yn eich cynllun CPD.

  9. Mae'n ddiddorol: Mae cyrsiau ar-lein yn helpu pobl i gadw a chofio gwybodaeth gyda delweddau deniadol, fideos, ffontiau darllenadwy, pytiau ffilm a disgrifiadau wedi'u hanimeiddio. Ac mae hynny'n hwyl!

  10. Mae'n gyfeillgar i'r amgylchedd: Nid oes angen papur gan y caiff y cyfan ei wneud o bell ar-lein ac nid oes unrhyw allyriadau carbon o geir neu drafnidiaeth gyhoeddus.


Byddai'n wych clywed gennych os hoffech ddysgu mwy a gallwn drafod eich gofynion chi fel unigolyn neu eich sefydliad.


Cysylltwch â fi yn Lesley-smith@chcymru.org.uk neu @lesley_chc