Jump to content

18 Mawrth 2019

Mae wefan Swyddi Tai Cymru nawr yn fyw!

Cafodd safle peiriant chwilio cyntaf Cymru ar gyfer swyddi tai cymdeithasol Swyddi Tai Cymru ei lansio heddiw.

Mae Swyddi Tai Cymru yn gynllun ar y cyd rhwng Charity Job Finder a Cartrefi Cymunedol Cymru, a bydd yn cynnwys ystod eang o swyddi tai cymdeithasol o swyddi crefftwyr i leoedd ar fyrddau.

Mae sector tai cymdeithasol Cymru, sy'n cefnogi 23,000 o weithwyr cyflogedig amser-llawn ar hyn o bryd, yn anelu i adeiladu 75,000 o gartrefi erbyn 2036 a gwneud cartref da yn hawl sylfaenol i bawb.

Gyda 85% o'r swyddi fydd eu hangen ar gyfer 2030 heb eu creu hyd yma, mae'r sector yn awyddus i gryfhau ei weithlu i gyflawni nodau, yn cynnwys dod yn fwy arloesol gyda mwy o ffocws digidol.

Bydd y wefan yn targedu pobl sy'n chwilio am swyddi sydd â'r sgiliau cywir fel y gwyddant am y cyfleoedd sydd ar gael. Comisiynnwyd ymchwil sy’n dangos fod diffyg ymwybyddiaeth ymysg rhai sy'n chwilio am swyddi, gyda 34% heb fod erioed wedi ystyried gyrfa mewn tai o'r blaen.

I fynd i'r afael â chamsyniadau a hysbysu pobl tu allan i'r sector, bydd y wefan hefyd yn rhannu straeon cyflogeion fel y gall pobl glywed o lygad y ffynnon sut beth yw gyrfa mewn tai cymdeithasol.

Mae gan y sector tai cymdeithasol stori deniadol i'w dweud - yn 2018/2019 cyfrannodd £1.2 biliwn i economi Cymru. Mae cyfartaledd rhwng y rhywiau hefyd yn galonogol gyda nifer gyfartal o ddynion a menywod yn y cohort yn Brif Swyddogion Gweithredol. Mae hyn yn cymharu gyda'r cyfartaledd cenedlaethol sy'n dangos mai dynion fel arfer yw 73% o Brif Swyddogion Gweithredol.

I nodi lansiad Swyddi Tai Cymru, caiff cymdeithasau tai Cymru gynnig cyfnod prawf o ddau fis am ddim o heddiw ymlaen.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn SwyddiTai.Cymru ac admin@housingjobs.wales.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd CHC:

“Rydym yn sector egnïol ac uchelgeisiol yn llawn o bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth. Mae cymdeithasau tai Cymru yn trawsnewid ac yn addasu'n barhaus i ddiwallu anghenion sy'n newid, gan wneud yn siŵr fod busnesau yn gydnerth ac yn medru ymdopi gyda gofynion y dyfodol. Eto mae'n parhau'n her i ateb y gwarged o sgiliau sydd eu hangen ar draws y sector - ac mae angen i ni fynd i'r afael â hyn os dymunwn gyflawni ein nodau.

“Gyda dros 100 o wahanol fathau o swyddi ar gael yn y sector, bydd Swyddi Tai Cymru yn rhoi cyfle i ni gyrraedd pobl nad ydynt efallai yn sylweddoli beth y gallai gyrfa mewn tai cymdeithasol ei gynnig iddynt. Rydym yn falch iawn i lansio'r wefan, ac edrychwn ymlaen at ei gweld yn tyfu."