Jump to content

05 Awst 2015

Mae tai yn ganolog i les economaidd a chymdeithasol

Heddiw (5 Awst) bydd Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), corff cynrychioli cymdeithasau tai yng Nghymru, yn cynnal dadl ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd pedwar gwleidydd blaenllaw o Gymru yn cymryd rhan ac yn trafod y pwnc: 'Mae tai yn ganolog i les economaidd a chymdeithasol.'

Bydd y ddadl yn canolbwyntio ar rôl cymdeithasau tai, ond mae CHC yn dymuno ehangu'r ddadl tu hwnt i dai cymdeithasol.

Esboniodd Sioned Hughes, Cyfarwyddydd Polisi a Materion Allanol: "Nid dim ond problem tai cymdeithasol yw prinder tai fforddiadwy. Mae llawer o bobl yn dymuno bod yn berchnogion eu cartrefi eu hunain, ond nid yw hyn bob amser yn opsiwn i lawer. Mae angen i ni sicrhau fod polisi tai yn rhoi amrywiaeth o opsiynau i bobl ar wahanol gyfnodau yn eu bywyd.

"Yn 2013, roedd mwy na chwarter pobl 20-34 oed yng Nghymru yn byw gyda'u rhieni[1]. Hefyd, yn y Deyrnas Unedig, mae perchentyaeth ymysg rhai 25-34 oed wedi gostwng gan draean yn y degawd diwethaf[2]. Yn 2004, roedd 675,500 o bobl 25-34 oed yn y Deyrnas Unedig yn denantiaid preifat ac roedd hyn wedi cynyddu i £1.6m yn 2013[3]. Mewn llawer o achosion, y gallu i fforddio yw'r rheswm.

“Efallai bod llawer o berchnogion tai yn meddwl nad yw problemau tai yn effeithio arnyn nhw, ond beth am broblemau tai ar gyfer eu plant a’u hwyrion? Beth am broblemau tai wrth iddynt heneiddio a'u cartrefi efallai'n dod yn anaddas iddynt? Rydym eisiau cael y ddadl fel bod y rhai sy'n mynychu'r Eisteddfod yn sylweddoli y gall prinder tai fforddiadwy effeithio ar bawb yng Nghymru."

Mae CHC yn credu'n gryf fod polisi tai yn ganolog i'r economi ac y dylid gweld tai fel ysgogydd economaidd allweddol.

Ychwanegodd Sioned: "Mae buddsoddi mewn tai am gymaint mwy na brics a morter. Y llynedd cyfrannodd ein sector £1027m i'r economi, a chadwyd 80 y cant o'r gwariant yma yng Nghymru. Ers 2008, mae cymdeithasau tai Cymru wedi ysgogi gwariant cyfunol o £5.66bn a gwario bron £3bn ar brosiectau adfywio. Mae buddsoddi mewn tai yn creu swyddi; roedd y sector yn cyflogi 8,400 o bobl cyfwerth ag amser-llawn yn uniongyrchol y llynedd. Mae hyn yn gynnydd sylweddol o ffigur 2008 o 3,300 o bobl ac am bob un person llawn-amser a gyflogir yn y sector, caiff un a hanner o swyddi pellach eu cefnogi o fewn economi Cymru”.[4]

Mae aelodau'r panel yn cynnwys Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Gymunedau a Threchu Tlodi, Mark Isherwood AC (Ceidwadwyr Cymreig),Aled Roberts AC (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) a Simon Thomas AC (Blaid Cymru).

Ychwanegodd Sioned: "Rydym yn edrych ymlaen at glywed barn ein panelwyr am sut mae polisi tai yn allweddol i les economaidd a chymdeithasol a'u sylwadau ar y rôl y gall ein sector ei chwarae wrth adeiladu Cymru gryfach."

[1] Swyddfa Ystadegau Gwladol, ffigur Cymru:27% http://www.ons.gov.uk/ons/rel/family-demography/young-adults-living-with-parents/2013/info-young-adults.html
[2] Shelter http://www.theguardian.com/business/2015/may/22/housing-crisis-halve-young-homeowners
[3] Shelter http://www.theguardian.com/business/2015/may/22/housing-crisis-halve-young-homeowners
[4] WERU (Uned Ymchwil i Economi Cymru) {filedir_7}Measuring_the_Economic_Impact_of_Welsh_Housing_Associations.pdf