Jump to content

08 Mawrth 2017

Mae PwyntTeulu Cymru yma i chi!

Llun o'r logo PwyntTeulu


Ceisio cefnogi teuluoedd gyda phroblemau cymhleth? Dim syniad ble i'w cyfeirio? Chwilota'r rhyngrwyd am help ond ar goll?


Dim digon o amser i ddarganfod datrysiad i anghenion teuluoedd? Mae PwyntTeulu Cymru yma i chi!


Mae yna lawer o wasanaethau da i deuluoedd yng Nghymru, ond o siarad â rhieni a gofalwyr mae llawer ohonynt yn ymdrechu ar ben eu hunain heb wybod pa gymorth sy'n agored iddynt. Rydym hefyd wedi siarad â gweithwyr proffesiynol a darganfod nad oes ganddynt yr amser na'r arbenigedd o reidrwydd i ymdrin yn effeithiol â'r holl broblemau cyflwynir gan deuluoedd.


Mae PwyntTeulu Cymru yn llinell gymorth ddwyieithog, ffynhonnell newyddion a gwybodaeth, ac yn llwyfan i rieni a gofalwyr gael llais. Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r agenda Trechu Tlodi, ei fwriad ydy sicrhau nad yw'r teuluoedd sydd â'r angen mwyaf yn colli allan ar wasanaethau a chefnogaeth hanfodol.


Mae'r wefan yn cyfuno gwasanaethau allweddol Llywodraeth Cymru a sefydliadau sydd yn cynnig gwasanaethau cefnogol i gyd mewn un lle, yn ei wneud yn haws darganfod y pethau rydych ei angen. Pa un ai a ydych chi'n chwilio am wybodaeth tai, iechyd neu arian gellir darganfod cysylltiadau, oriau agor a manylion amdanynt ar eich tudalen sir leol.


Mae'r erthyglau yn canolbwyntio ar y pethau mae teuluoedd yn dweud maent ei angen. Popeth o esbonio'r Credyd Cynhwysol a Chyfrifoldeb Rhieniol i awgrymiadau sut i arbed arian ar wyliau, gweithgareddau teulu, syniadau partïon a phicnic rhad. Mae rhieni yn gyrru straeon personol atom ac yn cynnig cyngor cyfoed i gyfoed. Mae'r holl wybodaeth ac erthyglau yn ddwyieithog, mewn iaith sy'n gyfeillgar i deuluoedd. Rydym yn defnyddio fideos a delweddau i wneud gwybodaeth gymhleth yn fwy hygyrch.


Gall cael mynediad i linell gymorth PwyntTeulu Cymru ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein. Gall rhieni hefyd ysgrifennu at 'Rhannu'r Baich...' am gyngor. Bydd cynghorwyr y llinell gymorth, wedi'u hyfforddi mewn eiriolaeth, yn asesu'r broblem, yn penderfynu beth sydd ei angen a'u cyfarwyddo at y gefnogaeth sy'n agored iddynt. Gall gweithwyr proffesiynol gysylltu â'n llinell gymorth hefyd os ydynt yn chwilio am wybodaeth i riant neu ofalwr.


Rydym yn ymwybodol o'r amser gall ei gymryd i ddarganfod y ffynhonnell gwybodaeth a chefnogaeth gywir. Dyma bwrpas PwyntTeulu, mae gennym amser i wrando ar deuluoedd, adnabod eu hanghenion a'u rhoi ar y llwybr cywir.


I ddarganfod mwy, ymwelwch â www.pwyntteulu.cymru, e-bostiwch gwyb@pwyntteulu.cymru neu cysylltwch â'r llinell gymorth: ffôn – 0300 222 5757 / testun - 07860 052905