Jump to content

02 Rhagfyr 2016

Mae prentisiaid yn helpu adeiladu dyfodol tai ar gyfer y genhedlaeth nesaf

Bu sêr ifanc y dyfodol yn y sector tai yn helpu i greu'r naratif ar gyfer #ybennodnesaf i gymdeithasau tai Cymru, fel rhan o Her Prentisiaid Cymru Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC).

Aeth pymtheg prentis o gymdeithasau tai o bob rhan o Gymru 'yn ôl i'r dyfodol' pan ddaethant ynghyd mewn timau o bump yng nghynhadledd flynyddol CHC yn Stadiwm Principality, Caerdydd ar 1-2 Rhagfyr.

Lansiwyd prosiect Gorwelion Tai CHC yn ystod y gynhadledd a hyn oedd sail her eleni. Gofynnwyd i brentisiaid lamu i'r dyfodol i 2036 a meddwl sut le fydd cartref cymdeithas tai, pwy fydd y tenantiaid, y mathau o bobl a'r sgiliau y byddant yn gweithio wrth eu hochr yn 2036, pa effaith a gaiff cymdeithas tai ar y gymuned, a sut y byddai arweinydd cymdeithasau tai yn y dyfodol yn eu hysbrydoli a'u cymell.

Cafodd y prentisiaid eu helpu yn eu her gan chwe mentor o'r sector tai yng Nghymru, yn cynnwys tri a gymerodd ran yn her prentisiaid y llynedd ynghyd â thri o gyn Sêr Newydd CIH. Daeth prentisiaid her eleni o wahanol feysydd ac roeddent yn cynnwys trydanwyr, plymiwr, plastrwr, gweinyddydd busnes a gweinyddydd eiddo.

Galwyd timau eleni y Daffs a'r Drags, y Rhyfelwyr a'r Dreigiau.

Rhoddodd pob tîm gyflwyniad deng munud i'r gynhadledd, yn seiliedig ar rith ymweliad i gymdeithas tai yn 2036 yn dilyn sefyllfa o gyfarfod tenant newydd ac ymweld â swyddfa cymdeithas tai a chwrdd â'r prif weithredwr.

I wneud hyn, yn ystod y deuddydd buont yn casglu llawer o wybodaeth ddefnyddiol a fyddai'n rhoi cipolwg gwerthfawr iddynt ar y sector. Roedd hyn yn cynnwys siarad gyda chynrychiolwyr yng nghynhadledd CHC, gweithio gyda'u cyd-aelodau tîm a mentoriaid, y cyfryngau cymdeithasol arferol a defnyddio eu profiadau a'u safbwyntiau personol eu hunain.

Ar ôl pob un o'r tri chyflwyniad gan y timau, pleidleisiodd cynhadledd CHC am eu ffefryn - sef Team Dragon.

Wrth siarad am ei phrofiad ar Her Prentisiaid Cymru dywedodd Ellie George, prentis Gweinyddu Busnes Bron Afon: "Roedd yn anrhydedd bod yn rhan o'r gynhadledd flynyddol ddeuddydd a Her Prentisiaid Cymru. Fe wnes fwynhau cwrdd â phrentisiaid eraill ledled Cymru ac fe wnaeth yr holl brofiad fy ysbrydoli."

Meddai Katie Howells, cyn brentis a gymerodd ran yn yr Her ac sydd bellach yn fentor: "Mae Her Prentisiaid Cymru yn gyffyrddiad hyfryd i gynhadledd wych ac mae'n ffordd dda o roi cyfle i brentisiaid fynychu cynhadledd wrth ochr cydweithwyr hŷn pan na fyddent yn gwneud hynny fel arfer. Mae'n ffordd wych i rwydweithio ac yn gyfle dysgu da. Ers gorffen yr her y llynedd, rwyf wedi cael swydd barhaol lawn-amser gyda Cartrefi Cymoedd Merthyr fel Swyddog Cefnogaeth Weithredol ac rwy'n siŵr y bydd llawer o brentisiaid a gymerodd ran eleni yn yr un sefyllfa yn 2017."

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd CHC: "Mae Gorwelion Tai yn brosiect mor bwysig fydd yn helpu i fod yn sail i'n cynllunio a'n strategaeth i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion tai pobl Cymru yn 2036. Mae barn a syniadau timau o Her Prentisiaid Cymru eleni yn werthfawr tu hwnt i'r prosiect, gan y gallai'r prentisiaid hyn fynd ymlaen i fod yn arweinwyr y dyfodol a llunio’r bennod nesaf ar gyfer cymdeithasau tai Cymru."

Roedd Ellie George yn un o’r 15 prentis a gymerodd ran yn Her Prentisiaid Cymru 2016. Cymerodd Katie Howells ran yn 2015 a chafodd ei gwahodd yn ôl eleni i fod yn un o’r chwe mentor. Dyna beth yw eu barn am y profiad.