Mae CHC yn ymateb i Ddatganiad yr Hydref ac yn galw am fuddsoddi yn Cefnogi Pobl
CHC yn galw am fuddsoddi yn Cefnogi Pobl
Cyhoeddodd y Canghellor George Osborne y bydd £2bn ychwanegol ar gael ar gyfer gwasanaethau rheng-flaen yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae hyn yn cynnwys £1.3bn o danwariant adrannol. Bydd Cymru'n derbyn tua 6% ohono, cyfanswm o £123m.
Er y clustnodwyd y cyllid hwn ar gyfer y GIG yn Lloegr, gall Llywodraeth Cymru ddewis ei wario fel y dymuna. Mae Cartrefi Cymunedol Cymru, corff aelodaeth cymdeithasau tai yng Nghymru, yn galw am fuddsoddi'r cyllid ychwanegol yng nghyllideb y rhaglen Cefnogi Pobl.
Mae'r rhaglen Cefnogi Pobl yn darparu cymorth cysylltiedig â thai i helpu pobl agored i niwed i fyw mor annibynnol ag sydd modd a'r llynedd cynorthwyodd 56,000 o bobl i wneud yn union hynny.
Yn ei Drafft Gyllideb ym mis Medi, cyhoeddodd Jane Hutt, Gweinidog Cyllid, ostyngiad o £134.4m yn 2014/15 i £124m yn 2015/16 yn y gyllideb Cefnogi Pobl. Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi galw'n ddiweddar ar y Gweinidog i edrych eto ar y penderfyniad i ostwng y gyllideb yma.
Dywedodd Cartrefi Cymunedol Cymru adeg hynny mai arbediad ffug oedd hyn ac mae'n ail-ddweud eto y byddai buddsoddi yn y rhaglen Cefnogi Pobl yn gostwng pwysau ar gyllidebau'r GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol sydd eisoes dan bwysau.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Grŵp CHC: "Cam gwag fyddai buddsoddi'r holl gyllid ychwanegol mewn iechyd a pheidio buddsoddi yn y rhaglen Cefnogi Pobl. Dangosodd ymchwil fod pob £1 a gaiff ei wario ar Cefnogi Pobl yn arbed arian drwy ohirio neu atal ymyriadau mwy costus yn ddiweddarach, gan arbed mwy na £2 am bob £1 a werir.[1]
Ychwanegodd Stuart: "Dywedwyd mewn rhai adroddiadau ar y cyfryngau y byddai'n cadw'r gwasanaeth iechyd i fynd am lai nag wythnos pe buddsoddid y cyllid yma yn y GIG. Ond y llynedd roedd cyllideb rhaglen Cefnogi Pobl yn £134m a helpodd hynny 56,000 o bobl i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, gan ostwng y pwysau ar y GIG a gwasanaethau cymdeithasol.
"Credwn fod gan Lywodraeth Cymru gyfle gwych i fuddsoddi ymhellach yn y rhaglen ataliol yma fydd yn sicrhau arbedion yn y tymor hir a byddwn yn parhau i gyflwyno'r ddadl yma i Lywodraeth Cymru ynghyd ag aelodau sefydliadau partner."