Jump to content

23 Ebrill 2018

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adolygiad annibynnol o bolisi tai yng Nghymru

Mae Rebecca Evans AC, Gweinidog Tai ac Adfywio, wedi cyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad annibynnol o bolisi tai yng Nghymru.

Daw'r cyhoeddiad bum mis ar ôl lansiad Gorwelion Tai a galwad Cartrefi Cymunedol Cymru am adolygiad polisi i edrych sut y gall y sector gyflawni ei uchelgais i adeiladu 75,000 o gartrefi fforddiadwy a sefydlu cartref da fel hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru.

Bydd yr adolygiad, dan gadeiryddiaeth Lynn Pamment, yn ystyried sut i ddyblu nifer y tai fforddiadwy a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru ac yn cynnwys materion megis polisi rhent, y gallu i fforddio, grant a safonau. Bydd yr adolygiad yn annibynnol o'r llywodraeth a chaiff yr argymhellion eu rhannu gyda'r Gweinidog yn 2019.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Swyddog Gweithredol Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Mae gan gymdeithasau tai yng Nghymru uchelgais i adeiladu o leiaf 75,000 o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru dros yr ugain mlynedd nesaf - ddwywaith y gyfradd bresennol. Fodd bynnag, mae tai yn llawer mwy na brics a morter; mae holl daith bywyd yn digwydd mewn cartref. Dyma ble gellir sefydlu cymunedau cryf ac felly fusnesau lleol cadarn.

"Mae pawb yn haeddu byw mewn cartref ansawdd da a chael cyfle i fyw bywyd llewyrchus, iach a gyda chysylltiadau da. Dyna pam i ni ym mis Tachwedd 2017 lansio 'Gorwelion Tai', gweledigaeth ein sector i wneud cartref da yn hawl sylfaenol i bawb. Ni fedrir cyflawni'r uchelgais bellgyrhaeddol yma heb ddadansoddiad llawn o bolisi tai Cymru a sut y caiff hwn ei roi ar waith, felly rydym yn hynod falch fod y Gweinidog wedi cefnogi ein galwad am adolygiad.

"Drwy'r adolygiad gallwn sefydlu'r amgylchedd polisi mwyaf effeithlon i gyflawni ein huchelgais ar gyfer cyflenwi cartrefi fforddiadwy ac adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer y cenedlaethau presennol a'r dyfodol. Os cawn yr adolygiad hwn yn gywir, bydd yn gam mawr at ddatrys yr argyfwng tai."