Jump to content

03 Tachwedd 2017

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ad-drefnu'r Cabinet

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones heddiw wedi cyhoeddi ad-drefnu cabinet Llywodraeth Cymru, gyda nifer o newidiadau i'w dîm Gweinidogion.

Daw Alun Davies AC yn Ysgrifennydd y Cabinet dros bortffolio newydd Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda Rebecca Evans AC wedi'i phenodi yn Weinidog Tai ac Adfywio. Mae'r apwyntiadau newydd eraill yn cynnwys Dafydd Elis-Thomas AC yn Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon; Huw Irranca-Davies AC yn Weinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Eluned Morgan AC yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Wrth ymateb i gyhoeddiad heddiw dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Rydym yn croesawu penodiad Rebecca Evans yn Weinidog newydd Tai ac Adfywio yn ad-drefnu heddiw ar gabinet Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi lle canolog i dai yn ei strategaeth genedlaethol - Ffyniant i Bawb - ac wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn nhymor hwn y Cynulliad, ac rydym yn croesawu creu rôl newydd yn llwyr gyfrifol am dai ac adfywio. Mae'r cytundeb tai y gwnaethom ei lofnodi'r llynedd gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi cymdeithasau tai wrth galon mynd i'r afael â'r argyfwng tai yng Nghymru ac mae'r sector yn edrych ymlaen at barhau'r gwaith hwn mewn partneriaeth gyda'r Gweinidog newydd.

Gyda deddfwriaeth bwysig ar yr Hawl i Brynu ar ei thaith drwy'r Cynulliad a mater ailddosbarthu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, edrychwn ymlaen at ddialog adeiladol a chydweithio i greu amgylchedd lle gall cymdeithasau tai ffynnu."