Jump to content

09 Mawrth 2017

Llwyfan i denantiaid leisio eu barn ar effaith Credyd Cynhwysol

Caiff yr adroddiad ymchwil cyntaf erioed yng Nghymru ar effaith Credyd Cynhwysol o safbwynt tenantiaid ei lansio yng Nghaerdydd heddiw (dydd Iau 9 Mawrth).

Comisiynwyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd gan Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), corff aelodaeth cymdeithasau tai Cymru, i gynnal ymchwil gyda thenantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru fel rhan o'i Raglen Amddiffyn Llesiant.

Bu Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn gweithio gyda thenantiaid drwy eu galluogi i gynllunio'r cwestiwn ymchwil a chynnal yr ymchwil eu hunain, gan ddefnyddio grwpiau ffocws o gyd-denantiaid. Mae'r ymchwil annibynnol, a gyllidwyd gan Sefydliad Oak, yn ymchwilio profiadau tenantiaid o Gredyd Cynhwysol, rhwystrau wrth ymgysylltu gyda'u landlord a datrysiadau i oresgyn y rhwystrau hyn.

Canfu'r adroddiad:

- Gall fod oedi o 4-8 wythnos mewn taliad, gan achosi pryder sylweddol a gorfodi nifer o bobl i ddefnyddio banciau bwyd er mwyn ymdopi.
- Mae tenantiaid yn aml yn dibynnu ar gyd-denantiaid am gefnogaeth a gwybodaeth. Roedd diffyg hyder, materion llythrennedd a chost bersonol cysylltu â'r sefydliadau hyn yn rhwystr enfawr i rai tenantiaid rhag cysylltu â'u landlord a'r Adran Gwaith a Phensiynau.
- Ni ystyrid bod llythyrau cyffredinol ar ôl-ddyledion rhent yn effeithlon.
- Roedd y sawl a gymerodd ran yn dymuno cael mwy o gyfathrebu rhwng eu landlord a'r Adran Gwaith a Phensiynau gan nad oedd ganddynt unrhyw ffordd o wybod os cafodd costau cynnydd rhent eu hystyried fel rhan o'u taliad Credyd Cynhwysol newydd.

Mae cyfartaledd ôl-ddyled rhent y Deyrnas Unedig yn £131. Fodd bynnag, mae hyn yn mwy na treblu yng Nghymru i £450 dan y Credyd Cynhwysol sy'n tanlinellu pwysigrwydd y darn hwn o ymchwil.

Croesawodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru, ganfyddiadau'r adroddiad. Dywedodd: "Yr adroddiad hwn yw'r cyntaf o'i fath am effaith Credyd Cynhwysol o safbwyntiau tenantiaid, ac mae'n unigryw oherwydd iddo gael ei gynnal gan y tenantiaid eu hunain. Mae aelodau CHC yn gweithio i liniaru effaith Credyd Cynhwysol ac er ei bod yn galonogol darllen y tenantiaid yn canmol staff cefnogi, gallwn ddysgu llawer o'r ymchwil yma."

Ychwanegodd Stuart: "Mae'r Credyd Cynhwysol wedi creu gwagle rhwng tenantiaid a landlordiaid. Dan y system bresennol, nid yw llawer o landlordiaid yn gwybod os yw eu tenantiaid ar y Credyd Cynhwysol ac felly'n gorfod talu eu rhent eu hunain. Yn aml, dim ond pan maent yn mynd i ôl-ddyled y deuant i wybod am y ffaith eu bod ar y Credyd Cynhwysol."

Ychwanegodd Paul Langley, Pennaeth Datblygu Busnes prosiect Mae Budd-daliadau yn Newid CHC: "Nid oes gennym ar hyn o bryd fynediad awtomatig i wybodaeth am ba denantiaid sydd ar y Credyd Cynhwysol ac rydym yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ar ddatrysiad i wella hyn. Unwaith y caiff y porth landlord ei ymestyn, bydd yn gwella rhannu datblygu i alluogi dull gweithredu personol sy'n hanfodol i sicrhau ein bod yn cefnogi tenantiaid sy'n symud ymlaen i'r Credyd Cynhwysol."

Dywedodd Amanda Protheroe, un o awduron yr adroddiad: "Ein gobaith yw bod yr adroddiad yn adlewyrchu profiadau tenantiaid sy'n delio gyda'r materion o amgylch y Credyd Cynhwysol. Roedd tenantiaid yn glir am broblemau a rhwystrau wrth gyfathrebu gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a hefyd eu landlordiaid ond yn awyddus iawn i drafod datrysiadau. Roedd y brif neges yn ymwneud ag ansawdd perthynas tenantiaid gyda'r sefydliadau hyn a soniwyd fod caredigrwydd yn rhywbeth y mae'r tenantiaid yn wirioneddol yn ei werthfawrogi."

Medrir darllen yr adroddiad yma.