Jump to content

16 Ebrill 2020

Lleihau unigrwydd pobl hŷn tra’u bod yn aros adre

Lleihau unigrwydd pobl hŷn tra’u bod yn aros adre
Gyda Covid-19 yn effeithio ar deuluoedd ledled Cymru, mae’n bwysicach nag erioed i gymdeithasau tai y gall tenantiaid gael mynediad i gefnogaeth hanfodol. Mae Adra, sydd â’i bencadlys ym Mangor, yn gwneud eu gorau glas i ostwng unigrwydd ac arwahanrwydd tenantiaid bregus a rhai dros 70 oed. Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau:


“Fel canlyniad i Coronafeirws, ymbellhau cymdeithasol, hunanynysu a chanllawiau’r Llywodraeth, mae’n bosib nad ydi rhai pobl hŷn , yn arbennig y rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain, yn gweld nac yn cael sgwrs o ddydd i ddydd hefo unrhyw un. Gallai hyn achosi i bobl hŷn deimlo’n unig, ynysig ac isel eu hysbryd.


Rydym yn gymdeithas tai sydd â ffocws clir ar ein tenantiaid, cwsmeriaid a chymunedau. Mae ein gwerthoedd cymunedol yn hollbwysig i ni ac yn ymrwymiad a gymerwn o ddifrif.


Wrth wynebu’r cyfnod heriol yma mae angen ymatebion arloesol i gyfarch yr angen i roi cymorth i’n tenantiaid mwyaf bragus. Braf gweld ein staff felly yn parhau i allu cefnogi tenantiaid, er fod hyn mewn ffordd sy’n wahanol i arfer, mewn amgylchiadau na welwyd eu tebyg o’r blaen.”


Fel canlyniad, mae Adra wedi trefnu i’w staff gysylltu gyda thenantiaid dros 70 mlwydd oed, neu sy’n fregus, i gael sgwrs gyfeillgar a chefnogol. Mae 30 o staff Adra wedi llwyddo i gysylltu gyda mil o denantiaid i wirio eu bod yn iawn a’u helpu mewn unrhyw ffordd y gallant.


Mae Swyddogion Cymorth Tenantiaeth Adra hefyd yn cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd gyda’r tenantiaid mwyaf bregus drwy gynnig sgwrs dros y ffôn, gweld sut y gallant fod o help a gwneud trefniadau ar eu cyfer, yn ogystal â chynnig clust i wrando, yn ystod y cyfnod anodd hwn.


Bu Elin, Swyddog Cefnogi ar gyfer pobl hŷn, yn ffonio unigolyn sydd ag anabledd dysgu ar yr un pryd bob dydd i’w hatgoffa i olchi ei dillad, i gwblhau tasgau fel taflu bwyd sydd wedi mynd yn hen, ac yn y blaen. Mae Elin hefyd wedi trefnu i wirfoddolwyr yn yr ardal helpu’r unigolyn gyda’i siopa. Nid oes gan yr unigolyn yma ffrindiau na pherthnasau i’w chefnogi, felly mae cael sgwrs gydag Elin bob dydd yn werthfawr tu hwnt iddi.


Bu Charlotte, Swyddog Ymgyfraniad Cymunedol, yn helpu tenant hŷn i gael ei bresgripsiwn a bu’n cydlynu gyda’r feddygfa i sicrhau fod gan y tenant fynediad i bopeth mae ei angen.


Bu Sophie, Hyfforddai Cefnogi Pobl Hŷn a Thai yn ffonio gŵr a gwraig yn gyson am sgwrs, gan eu bod yn ei chael yn anodd peidio gweld neu siarad gyda phobl tra’u bod wedi hunanynysu.


Mae Steffan, Swyddog Cefnogaeth Tai, hefyd wedi bod yn ffonio llawer o denantiaid a chwsmeriaid Adra i gynnig help gyda threfnu gwirfoddolwyr neu helpu gyda presgripsiynau, a gwneud yn siŵr fod popeth yn iawn.”


I gael mwy o wybodaeth ar sut mae Adra yn delio gyda Coronafeirws, a’r cymorth sydd ar gael i denantiaid yn ogystal â mwy o wybodaeth am wasanaethau cymunedol, a llawer mwy, ewch i adra.co.uk.


Bydd cymdeithasau tai yng Nghymru yn rhoi sylw i’w gwaith i gefnogi tenantiaid yng Nghymru drwy ymgyrch newydd ‘Gyda Chi’. Dilynwch yr ymgyrch hon drwy dudalen Twitter CHC @CHCymru a chwilio am hashnod #gydachi