Lansio'r Gweledigaeth Gorwelion Tai
Fe wnaethom ddechrau'r gwaith hwn drwy ofyn cwestiynau mawr i gymdeithasau tai ym mhob rhan o Gymru. Dros yr 20 mlynedd nesaf, pa wahaniaeth fyddwch chi'n ei wneud?
Nid oes amheuaeth bod cymdeithasau tai yn gweld eu hunain fel bod â rhan bwysig wrth gefnogi pobl a lleoedd i ddod y gorau y gallant fod, yn awr a hefyd yn y dyfodol. Yn wir, mae cymdeithasau tai ar hyn o bryd yn gweithio ym mhob rhan o Gymru. Rydym yn cartrefu 1 mewn 10 o'r boblogaeth. Rydym yn adeiladu cartrefi, yn darparu gwasanaethau ac yn buddsoddi mewn busnesau lleol. Gwnaethom fuddsoddiad economaidd o bron £2bn yng Nghymru y llynedd yn unig.
Ond mewn ymateb i'r cwestiynau mawr yma, daeth un arall i'r amlwg.
Beth petai?
Beth petai cartref da yn cael ei weld fel hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru? Beth petai cartrefi'n cael eu gweld o ddifrif fel man cychwyn bywydau llwyddiannus a lleoedd llwyddiannus, a bod arian cyhoeddus yn cael ei wario yn unol â hynny a phenderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud o amgylch tai i helpu cyflawni hyn.
Cwestiwn da.
Ein gweledigaeth ar gyfer Cymru yn 2036 yw un lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb.
Gwyddom fod cartrefi da yn gwneud gwahaniaeth i bawb, p'un a'n rhentu, yn berchen neu rywbeth cydrhwng. Adeiladwn ein bywydau o fewn ac o'n cartrefi. Mae'n effeithio ar ein bywyd os nad yw'n cartref yn gweithio i ni. Mae'n effeithio ar fywydau ein teuluoedd. Mae'n effeithio’n sylfaenol ar ffyniant ein lleoedd oherwydd bod cartrefi da yn gonglfaen cymuned sefydlog sy'n buddsoddi ynddi'i hun.
Mae gan gymdeithasau tai yng Nghymru uchelgais fawr i gyflawni'r hawl sylfaenol yma. Mae gennym hanes cryf o lwyddiant mewn adeiladu, buddsoddi ac ail-fuddsoddi. Buom yn ei wneud am hanner can mlynedd ac rydym ynddo am yr hirdymor. Buom yn gweithio mewn cymunedau ar draws Cymru at y diben hwn ers cenedlaethau. Dyma'r hyn a wnawn. Dyma'r hyn y byddwn yn ei wneud bob amser. Ni chaiff ein cartrefi eu gweld fel brics a morter yn unig; cânt eu defnyddio i ddenu cyllid a gaiff ei ail-fuddsoddi yng Nghymru. Caiff gwasanaethau eu hadeiladu o amgylch y cartrefi hyn ac maent yn sylfaen ar gyfer cysylltiadau cymdeithasol a chymunedol.
Heriwn wasanaethau cyhoeddus, cwmnïau preifat a gwleidyddion i weithio gyda ni i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer 2036. Mae'r ddogfen hon yn cyflwyno ein hymrwymiad i wireddu'r weledigaeth yma. Gwyddom na allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain ac rydym eisiau gweithio gydag unrhyw un a phawb sy'n cefnogi ein gweledigaeth bod cartref da fel hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi.
Stuart Ropke, Prif Weithredydd
Cartrefi Cymunedol Cymru