Jump to content

26 Medi 2013

Lansio cynllun grantiau tai gwerth £120m

Bydd Llywodraeth Cymru’n lansio cynllun cyllid tai arloesol heddiw.

Bydd y Llywodraeth yn rhoi pecyn cyllid o £120 miliwn i’r cynllun dros y 30 mlynedd nesaf ac yn cyfrannu’n uniongyrchol at adeiladu dros 1000 o gartrefi fforddiadwy ledled Cymru.

Bydd ugain Cymdeithas Dai’n cymryd rhan yn y cynllun ym mhob un o’r 22 ardal awdurdod lleol. Bydd y gwaith adeiladau ar y prosiect cyntaf yn cychwyn yn 2013.

Oherwydd y diffyg cyllid hirdymor a gynigir gan y banciau a’r cymdeithasau adeiladu ar hyn o bryd, bydd cwmni M&G Investments yn darparu ffynhonnell newydd o gyllid i Landlordiaid Cymdeithasol Cymru ar gyfer y cynllun hwn.

Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio: “Mae sicrhau tai fforddiadwy o ansawdd i bobl Cymru’n flaenoriaeth imi, ac felly mae’n bleser gen i lansio’r pecyn pwysig a newydd sbon hwn heddiw.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn helpu’r sectorau preifat a chyhoeddus i adeiladu cartrefi newydd, fel ein bod yn gallu parhau i weithio tuag at ein targed o 7500 cartref fforddiadwy – a mwy – yn ystod tymor presennol Llywodraeth Cymru.

“Dechrau’r broses o gynyddu’r cyflenwad tai yng Nghymru y mae’r cynllun hwn, ac rwy’n benderfynol o barhau â’r gwaith. Mae’n bwysig adeiladu cartrefi newydd i fodloni anghenion tai ein cymunedau, ond bydd hefyd yn creu swyddi i helpu pobl gael allan o dlodi ac yn fodd i ddadwneud peth o’r niwed y mae ‘treth ystafell wely’ Llywodraeth y DU’n ei wneud.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid: “Mae Cynllun Grantiau Tai Cymru’n dangos ein bod wedi ymrwymo i gael hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o fuddsoddi mewn tai fforddiadwy ar draws Cymru. Wrth i gyllidebau fynd yn dynnach, mae’n rhaid inni ystyried pob ffynhonnell cyllid sydd ar gael i’n helpu ni i gyflawni ein blaenoriaethau.

“Mae’r cynllun hwn yn enghraifft go iawn o gydweithio llwyddiannus rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Rwy’n gobeithio nawr y byddwn yn gallu defnyddio’r math hwn o gynllun cyllido i ddenu rhagor o fuddsoddi mewn tai fforddiadwy.”

Dywedodd Nick Bennett, Prif Weithredwr Grŵp Tai Cymunedol Cymru:

“Mae hwn wedi bod yn gyfle i arloesi gyda dulliau cyllido newydd; doedd llawer o’r cymdeithasau tai erioed wedi troi at fenthyciadau gwahanol (megis bondiau) o’r blaen.

“Mae’r bartneriaeth hon yn rhannu’r un nod, sef cynyddu’r cyflenwad tai. Bydd Cymdeithasau Tai’n gallu darparu’r capasiti benthyca a Llywodraeth Cymru’n darparu’r grant refeniw.

Dywedodd Mark Davie, Pennaeth Tai Cymdeithasol M&G Investments: “Rydym yn falch o gefnogi’r fenter gyffrous hon gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn arwain at £153m o gyllid hirdymor i gymdeithasau tai Cymru allu cyrraedd eu targedau adeiladu tai dros y blynyddoedd nesaf.”

Yn adeilad Linc ar Heol Casnewydd y cynhaliwyd y lansiad heddiw, ac roedd yn gyfle hefyd i’r Gweinidogion ymweld â Thŷ Bronte, sef un o’r prosiectau tai fforddiadwy cyntaf i gael ei gyllido drwy’r Cynllun Grantiau Cyllid Tai newydd.

Linc Cymru sy’n datblygu Tŷ Bronte, a bydd yno 38 o fflatiau gyda chymysgedd o unedau un ystafell wely a 22 uned dwy ystafell wely. Bydd y cartrefi fforddiadwy hyn yn cael eu hanelu at bobl sydd eisoes yn byw mewn cartrefi cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol ond yn dymuno symud i eiddo llai gan fod eu cartrefi presennol yn rhy fawr iddynt.

Mae prosiectau eraill eisoes wedi’u cymeradwyo – Tyddyn Pandy yng Nghaernarfon a Gwaun Helyg ym Mlaenau Gwent – a bydd rhagor yn dilyn ledled Cymru cyn bo hir.