Lansio adroddiad newydd mewn partneriaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rydym wedi lansio adroddiad gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Sefydliad Ymchwil Adeiladu sy'n dangos fod tai ansawdd gwael wedi costio mwy na £95m y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru mewn costau triniaeth. Yn ôl yr adroddiad, gallai gweithredu i liniaru tai gwael weld adenilliad ar fuddsoddiad o fewn chwe blynedd.
Mae'r adroddiad yn edrych ar effaith ansawdd tai, cartrefi anaddas a digartrefedd ar iechyd a llesiant yng Nghymru, ac yn dynodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu. Mae tystiolaeth gryf fod tai gwael yn gysylltiedig gyda iechyd corfforol a meddwl gwael. Dengys ffigurau fod 18% o gartrefi yng Nghymru yn achosi risg annerbyniol i iechyd, a bod tai gwael yn costio dros £1bn y flwyddyn i'r gymdeithas yng Nghymru.
Ymysg ei argymhellion, mae'r adroddiad yn annog gweithredu i fynd i'r afael ag achosion afiechyd sy'n cysylltiedig gyda thai ansawdd gwael, fel tai oer a llaith, a pheryglon syrthio. Mae'r meysydd blaenoriaeth yn cynnwys gwella gwresogi ac awyriant cartrefi. Gallai uwchraddio cartrefi arwain at 39% yn llai o dderbyniadau ysbyty ar gyfer cyflyrau cylchrediad ac ysgyfaint, a gallai pob £1 a gaiff eu gwario ar wella cynhesrwydd mewn aelwydydd agored i niwed arwain at adenilliad o £4m ar fuddsoddiad. Gallai addasu cartrefi i weddu i anghenion yr henoed a phobl anabl arbed £7.50 i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol am bob £1 a gaiff eu gwario.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:
"Mae gennym uchelgais hirdymor fel sector i adeiladu Cymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb, ac rydym wedi hyrwyddo manteision buddsoddiad mewn tai ar gyfer iechyd a llesiant pobl Cymru ers amser maith. Mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir yr effaith uniongyrchol a gaiff tai gwael ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a byddwn yn parhau i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i wneud yn siŵr fod buddsoddiad mewn tai yn flaenoriaeth."
Dywedodd Louisa Woodfine, Prif Arbenigydd Iechyd Cyhoeddus ac Arweinydd Tai Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Ni fu'r achos am fuddsoddi mewn tai i wella iechyd a llesiant erioed yn gryfach. Cymru sydd â'r stoc tai hynaf yn y Deyrnas Unedig, ac yn gymesur y costau triniaeth uwch sy'n gysylltiedig gyda thai gwael.
"Mae cost ddynol go iawn i dai gwael hefyd, gyda phobl sy'n byw yn y cartrefi lleiaf effeithiol o ran ynni ugain y cant yn fwy tebygol o farw yn ystod y gaeaf na'r rhai sy'n byw yn yr anheddau cynhesaf. Fodd bynnag, mae hyn yn golygu fod cyfleoedd go iawn i ni yng Nghymru i wneud gwelliannau sylweddol i iechyd a llesiant drwy gymryd camau gweithredu blaenoriaeth yn y sector tai.
"Mae ein hadroddiad yn canfod mai gweithredu nawr i wella ansawdd tai, sicrhau cartrefi addas ac i fynd i'r afael â digartrefedd yw'r mwyaf effeithlon o ran cost. Mae angen i hyn gael ei gefnogi gan weithredu i ostwng anghydraddoldeb mewn tai, ac alinio tai, iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy agos."
Mae'r adroddiad llawn ar gael yma.