Jump to content

17 Mehefin 2019

Iechyd meddwl a llesiant bellach yn greiddiol i fywyd yn Trivallis

Iechyd meddwl a llesiant bellach yn greiddiol i fywyd yn Trivallis
Mae iechyd meddwl, llesiant a chydbwysedd gwaith-bywyd yn gyson yn y penawdau ac yn cael eu trafod ar y cyfryngau cymdeithasol, wrth i bobl roi mwy a mwy o sylw i bwysigrwydd cynnal iechyd da a gwneud gwell dewisiadau ffordd o fyw.


Gydag absenoldeb salwch hirdymor yn uwch nag erioed oherwydd straen personol, straen cysylltiedig â gwaith, pryder ac iselder, cymerodd Trivallis yr her ac edrych ar ffyrdd o fynd i'r afael mewn ffordd ragweithiol ag iechyd meddwl o fewn eu sefydliad. Cytunodd yr arweinwyr gweithredol i beilota grŵp staff newydd a gynlluniwyd:


I fuddsoddi yn iechyd a llesiant y gweithlu cyfredol a gweithlu'r dyfodol


Gan weithio o fewn y timau Adnoddau Dynol a Datblygu Dysgu yn Trivallis, roedd Beth Evans a Samantha Graf yn deall pwysigrwydd sefydlu llesiant o fewn y sefydliad ac felly yn hyrwyddo'r cyfrifoldeb. Drwy alw ar wybodaeth a sgiliau aelodau angerddol eraill o staff, cafodd Vitallis ei eni mewn dim ond ychydig fisoedd.


Dywedodd Samantha, Partner Busnes Adnoddau Trivallis:


"Yn y flwyddyn gyntaf, roedd ein ffocws ar sefydlu brand Vitallis a gadael i staff ar draws Trivallis wybod beth a gynigir. Roedd ein ffocws ar un brif nod, dangos pwysigrwydd cael meddwl iach, corff iach a pherson iach drwyddi draw.


"Gwyddem eisoes bod afiechyd meddwl yn un o brif resymau salwch hirdymor yn Trivallis. Unwaith y gwnaethom sylweddoli hynny roeddem eisiau cynnig mwy i staff i gefnogi eu hiechyd meddwl a'u llesiant, roedd angen i ni ymgynghori gyda staff i'n helpu i ddynodi ein meysydd ffocws.


"Cafodd 12 o bobl eu penodi yn gymhorthwyr cyntaf iechyd meddwl, a chymerodd dros 120 aelod o staff ran mewn gwahanol weithgareddau seiliedig ar iechyd meddwl ac roeddem wrth ein bodd i gael dyfarniad Efydd ym Mynegai Llesiant Mind. Mae'r straeon llwyddiant hyn yn dangos sut ydym yn fwy rhagweithiol i gefnogi staff i wneud newidiadau."


Ychwanegodd Beth, Partner Busnes Dysgu a Datblygu:


"Bu newid pendant mewn ffyrdd o feddwl dros y 18 mis diwethaf ers cyflwyno Vitallis. Mae gennym bron 500 aelod o staff, gyda bron eu hanner yn gweithio o bell, felly bu mynd i'r afael â phroblemau am ynysigrwydd a gwneud i bawb deimlo'n rhan o dîm Trivallis yn flaenoriaeth.


"I ddangos i staff pa mor ymroddedig ydym i wneud gwahaniaeth go iawn i'w hiechyd meddwl, fe wnaeth Ian Thomas ein Prif Weithredydd lofnodi ymrwymiad Amser Newid Cymru yn gyhoeddus ym mis Ionawr 2019 ac rydym wedi llunio rhaglen datblygu bwrpasol ar gyfer holl arweinwyr Trivallis yn canolbwyntio'n bennaf ar lesiant, iechyd meddwl, dulliau o ymdopi a chefnogi eraill yn effeithlon. Teimlem ei bod yn bwysig sicrhau fod gan ein harweinwyr y sgiliau hyn i ddechrau i'w grymuso i weithredu fel modelau rôl ar gyfer llesiant ac rydym yn awr yn bwriadu darparu rhaglen debyg ar gyfer yr holl staff yn ddiweddarach yn y flwyddyn.


"I annog staff i gael cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd, rydym wedi gwneud digwyddiadau cymdeithasol yn rhan allweddol o fywyd yma. Er enghraifft, bob nos Iau mae gennym rygbi cyffwrdd, rydym yn cynnal partïon haf a Nadolig, ymweliadau theatr a siopa Nadolig ac yn trefnu teithiau cerdded llesiant. Aiff y nesaf â heicwyr mwy mentrus i Raeadr Ystadfellte, tra gall eraill fynd am dro mwy hamddenol o amgylch Parc Pontypridd.


"Caiff Vitallis ei arwain gan gynrychiolwyr o wahanol dimau i wneud yn siŵr ein bod yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau, digwyddiadau a hyfforddiant."


Dywedodd Samantha:


"Buom yn ffodus i dderbyn cefnogaeth ein tîm gweithredol, sydd yr un mor ymroddedig i newid y ffordd y gweithiwn yn Trivallis. Mae Vitallis am fwy na dim ond cynnig ffrwythau ffres i staff. Mae bellach yn rhan greiddiol o'n gweithle ac rydym eisiau i gydweithwyr gael eu hannog gan y ffaith ein bod yn gwrando ar yr hyn maent ei eisiau ac yn gwneud newidiadau i wella eu llesiant yn gyffredinol."


Mynnwch fwy o wybodaeth am sut y gallwch ymgorffori iechyd meddwl a llesiant yn eich sefydliad gyda chwrs hyfforddiant pwrpasol CHC a gyflwynwyd gan i-act. Mwy o wybodaeth yma.