Cyrff cynrychioli cymdeithasau tai yn rhybuddio y bydd diogeliad prisiau ynni ar gyfer tenantiaid mewn risg pan ddaw cymorth ynni Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ben
Mae’r cyrff sy’n cynrychioli cymdeithasau tai yng Nghymru, Lloegr a’r Alban wedi rhybuddio heddiw y bydd gallu’r sector tai cymdeithasol i ddiogelu tenantiaid rhag costau ynni eithafol mewn risg sylweddol pan ddaw cymorth Llywodraeth y DU i ben ym mis Ebrill 2023.
Gan siarad ar ran cymdeithasau tai ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban, mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol (NHF) a Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban gyda’i gilydd yn gofyn i Lywodraeth y DU sicrhau bod darparwyr tai cymdeithasol yn parhau i gael eu cefnogi drwy’r Cynllun Rhyddhad ar Fiiau Ynni (EBRS) tu hwnt i fis Ebrill 2023, yn cynnwys ar gyfer contractau annomestig, a ddefnyddir i gyflenwi ynni i anheddau.
Roedd cyllideb hydref 2022 Llywodraeth y DU yn rhoi manylion sut y bydd yn cyllido cynlluniau cymorth ynni oedd yn bodoli eisoes hyd at fis Mawrth 2023 a gwnaeth gyhoeddiadau am gynlluniau pellach i gefnogi aelwydydd tu hwnt i fis Ebrill 2023.
Daeth y datganiad hwn ar amser hollbwysig yn yr argyfwng costau byw, pan fod llawer o bobl eisoes yn profi caledi sylweddol neu y disgwylid y byddent yn mynd i galedi sylweddol yn y misoedd dilynol.
Er y croesewid y cymorth, dangosodd ymhellach gonsyrn y mae cymdeithasau tai ar draws Prydain wedi bod yn rhybuddio amdano ers peth amser. Nid yw cymdeithasau tai fel sefydliadau wedi eu harbed rhag yr argyfwng mewn costau byw. Maent hwythau’n wynebu cynnydd mewn costau tanwydd ac ynni sy’n rhaid iddynt gael eu talu allan o bot arian sydd â therfyn arno.
Mae’r cynlluniau cymorth ynni presennol yn rhoi rhywfaint o warchodaeth i gymdeithasau tai rhag costau ynni eithafol tan y flwyddyn ariannol newydd, ond mae pryderon dwfn am beth fydd yn digwydd os neu pryd y daw cymorth y llywodraeth i ben ar ôl y pwynt hwnnw.
Cadarnhaodd datganiad yr hydref y bydd cymorth ar fiiau ynni yn llai hael o fis Ebrill 2023, a chydnabu Llywodraeth y DU y gall rhai busnesau barhau i fod angen cymorth drwy’r EBRS – ond nododd bryd hynny y bydd y cymorth hwn yn cael ei dargedu. Yr wythnos hon (19 Rhagfyr 2022), adroddwyd y byddai penderfyniad ar ymestyn rhyddhad ar filiau ynni ar gyfer busnesau yn cael ei ohirio tan y flwyddyn newydd.
Gan gydweithio, cyflwynodd y tri chorff cynrychioliadol dystiolaeth yn ddiweddar i’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i ffurfio rhan o adolygiad dan arweiniad y Trysorlys o’r cynllun, a galwodd am gymorth parhaus a phellach ar gyfer cymdeithasau tai.
Heb gostau ynni is a/neu gymorth gan y llywodraeth, dengys y dystiolaeth na fydd cymdeithasau tai mwyach yn medru amsugno costau i warchod eu tenantiaid. Mae tenantiaid tai cymdeithasol ymhlith y rhai y mae’r argyfwng costau byw wedi taro waethaf arnynt ac mae llawer eisoes yn cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau anodd bob dydd. Ni fyddant yn medru cymryd mwy o bwysau ariannol ychwanegol.
Heddiw, mae’r cyrff sy’n cynrychioli cymdeithasau tai yng Nghymru, Lloegr a’r Alban sef Cartrefi Cymunedol Cymru, y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol a Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban – yn dod ynghyd i rybuddio, er y cymorth presennol gyda biliau ynni, bod cymdeithasau tai yn wynebu ansicrwydd ariannol tymor hirach ac mae’n debyg na fyddant yn medru parhau i ddiogelu aelodau mwyaf bregus cymdeithas rhag effeithiau’r argyfwng ynni y gaeaf hwn a thu hwnt.
Cymru
Yng Nghymru, heb unrhyw gymorth EBRS, mae cymdeithasau tai yn rhagweld cynnydd o hyd at 1055.4% ym mhrisiau ynni bob wythnos ar gyfer pob tenant erbyn mis Ebrill 2023 (o gymharu â mis Ebrill 2022). Ar ôl rhoi ystyriaeth i EBRS, er yn dal yn uchel tu hwnt, mae hyn yn gostwng i 555.4%.
Mae pwysau’n gynyddol ddwys mewn cartrefi gofal, llety gofal ychwanegol a thai gwarchod. Ar gyfartaledd, rhagwelir y bydd tenantiaid mewn tai gwarchod yn talu £32.69 yr wythnos am gost trydan erbyn mis Ebrill 2023 heb unrhyw gymorth EBRS, neu £20.38 yr wythnos wedi rhoi ystyriaeth i EBRS,
Dywedodd Stuart Ropke, prif weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru:
“Bu cymdeithasau tai yng Nghymru yn gweithio’n ddidor o fewn eu cymunedau a’u partneriaid yn y sector tai, y sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus i atal yr argyfwng costau byw rhag dod yn drychineb.
“Caiff y cymorth a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU hyd yma ei groesawu. Fodd bynnag, hyd yn oed gyda’r EBRS, mae cymdeithasau tai yn dal i orfod amsugno costau sylweddol i warchod tenantiaid bregus mewn safleoedd gofal a chymorth. Byddai effeithiau digynsail pe byddai hynny’n cael ei dynnu ffwrdd. Mae’n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn cadarnhau y bydd yr EBRS yn parhau ar gyfer cymdeithasau tai i mewn i’r flwyddyn ariannol nesaf.
“Mae mwy a mwy o denantiaid nad oes ganddynt fesurydd trydan yn eu cartref neu berthynas uniongyrchol gyda chyflenwr ynni yn cysylltu gyda’n haelodau i holi sut y gallant dderbyn y cynllun Rhyddhad ar Fiiau ynni cyfwerth i’r £400 o ostyngiad ynni. Mae angen eglurdeb fel mater o frys ar sut a phryd y derbynnir cymorth ariannol cyfwerth, yn arbennig lle mae tenantiaid yn y categori hwn yn tueddu i fod yn byw mewn cynlluniau tai â chymorth neu dai gwarchod ac felly’n fwy bregus.”
Mae mwy o wybodaeth am sut y mae cymdeithasau tai ar draws Cymru yn cefnogi eu tenantiaid a’n blaenoriaethau fel sector ar gael yma.
Lloegr
Yn Lloegr mae tua 228,000 o breswylwyr tai cymdeithasol sydd ar rwydweithiau gwres ac felly’n dibynnu ar y Cynllun Rhyddhad ar Fiiau Ynni i gael cymorth gyda’u biliau ynni. Mae bron dri chwarter (72%) yn bobl hŷn dros 55 oed.
Cyn cyhoeddi’r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni, roedd cymdeithasau tai yn disgwyl talu hyd at 500% yn fwy am eu contractau trydan a nwy masnachol, gan arwain at gynnydd mewn taliadau gwasanaeth o hyd at £68 yr wythnos ar gyfer cartrefi gyda defnydd isel. Hyd yn oed gyda’r Cynllun Rhyddhad ar Fiiau Ynni sydd yn ei le, mae cymdeithasau tai yn dal i weld cynnydd prisiau o hyd at 233%.
Mae llawer o gymdeithasau tai wrthi’n edrych os gallant dalu rhai o’r costau o gronfeydd eraill, yn hytrach na throsglwyddo’r cynnydd llawn i breswylwyr. Fodd bynnag, gan fod cymdeithasau tai yn gyrff dim er elw, byddai hyn yn golygu cwtogi ar wasanaethau eraill ar gyfer preswylwyr neu ostwng buddsoddiad yn eu cartrefi.
Dywedodd Wil Jeffwitz, pennaeth polisi yn y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol:
“Mae cymdeithasau tai yn Lloegr wedi bod wrthi’n edrych am ffyrdd i osgoi trosglwyddo’r cynnydd mewn costau ynni i’w preswylwyr drwy daliadau gwasanaeth er mwyn gwarchod aelwydydd bregus, incwm isel rhag y cynnydd mewn costau byw.
“Croesawn wahanol becynnau cymorth y llywodraeth i helpu cymdeithasau tai a’u preswylwyr gyda’r cynnydd yng nghost ynni. Fodd bynnag, rydym yn awr angen eglurdeb fel mater o frys ar p’un ai a fydd cymdeithasau tai yn parhau i dderbyn cymorth ar gyfer eu contractau ynni masnachol tu hwnt i fis Mawrth 2023 dan EBRS. Galwn hefyd ar y llywodraeth i gyhoeddi manylion cymorth ar gyfer cwsmeriaid rhwydwaith gwres, yn cynnwys sut y byddant yn derbyn yr ad-daliad o £400 ar filiau ynni a sut y caiff y cwsmeriaid hyn eu cefnogi o fis Mawrth 2023 ymlaen.”
Yr Alban
Yn yr Alban mae’r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu, hyd yn oed gyda’r Warant Prisiau Ynni a dulliau cymorth arall sydd eisoes ar waith, bod rhwng 52% a 57% o aelwydydd yn y sector cymdeithasol yn wynebu tlodi tanwydd a chaiff hyn ei adlewyrchu ym mhrofiadau aelodau’r SFHA. Codwyd pryderon neilltuol am rwydweithiau gwres a chynlluniau ‘gwres gyda rhent’ sy’n gyffredin mewn tai gwarchod a thai â chymorth yn yr Alban. Bu cynnydd sylweddol yn y prisiau ar gyfer y cynlluniau hyn gyda chynnydd o hyd at bum gwaith trosodd a hyd yn oed lle defnyddir fframweithiau caffael, mewn un enghraifft disgwylir i gostau gynyddu gan 120% ym mis Ebrill 2023.
Fodd bynnag mae dosbarthiad ‘masnachol’ contractau ynni cymunol yn golygu nad yw’r tenantiaid hyn yn cael cynnig yr un diogeliad â defnyddwyr ynni domestig. Dywedwyd wrth nifer o’n haelodau nad ydynt yn gymwys am unrhyw ostyngiad drwy’r ERBS ac na chynigir unrhyw fesurau diogelu pellach drwy fframweithiau caffael cyhoeddus tu hwnt i fis Ebrill. Hyd yn oed lle mae’r costau cyfredol yn is na phris cyfanwerthu a gefnogir y Llywodraeth, mae’r cynnydd cronnus dros y 18 mis diwethaf yn awr yn tanseilio’r bwriad dechreuol o roi opsiwn fwy fforddiadwy i denantiaid na system wresogi gonfensiynol.
Dywedodd Sally Thomas, prif weithredwr Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban:
“Mae ein haelodau yn mynd ymhell i gysgodi tenantiaid rhag effeithiau gwaethaf yr argyfwng costau byw, ond mae hyn yn dod bron yn hollol amhosibl. Yng nghyd-destun cynnydd mewn prisiau ar draws y sector tai, a diffyg cystadleuaeth yn y farchnad ynni, mae ein haelodau a’u tenantiaid yn wynebu gaeaf anodd iawn, ac mae’n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn gweithredu nawr i roi sicrwydd tu hwnt i fis Mawrth 2023.”