Jump to content

14 Mawrth 2017

Hawl i Brynu Bil

Picture of some Welsh houses


Aiff y Mesur Hawl i Brynu gerbron y Cynulliad yfory, gan fynd â'r cwch i'r dŵr yng Nghymru i ddod â bron 40 mlynedd o hawl tenantiaid tai cymdeithasol i brynu eu heiddo tai cymdeithasol ar ddisgownt i ben.


Mae trafodaethau ar berchnogaeth cartrefi yn aml yn emosiynol a gwleidyddol iawn, ac ers ei gyflwyno yn 1980 ychydig o bolisïau sydd wedi hollti barn fel yr Hawl i Brynu.


Mae'r dymuniad i gael sefydlogrwydd a sicrwydd yn golygu fod llawer yn ystyried bod yn berchen cartref yn rhan hanfodol o'u hunaniaeth, gan osod eu sylfaen yn y gymuned y dymunant fyw ynddi. Roedd y polisi Hawl i Brynu yn arf allweddol wrth sicrhau'r 'ddemocratiaeth sy'n berchen ar eiddo' a ragwelai ei lladmeryddion, ond gyda mwy na 130,000 o gartrefi wedi colli eu stoc tai cymdeithasol yng Nghymru fel canlyniad i'r polisi. Croesewir penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiogelu ein stoc tai presennol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.


Daw ynghyd â tharged uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi ar draws tymor y Cynulliad, ac mae'n ein hatgoffa am yr hyn y gallwn gyflawni yng nghyd-destun datganoli lle mae polisi tai yn rhoi blaenoriaeth i dai cymdeithasol. Mae hefyd yn ddatganiad o fwriad gan Lywodraeth Cymru sy'n rhoi'r hyder i ddarparwyr tai cymdeithasol y bydd y cartrefi newydd a adeiladant yno am yr hirdymor, ond un sydd hefyd yn gosod her i bawb ohonom yn y maes tai wrth i ni geisio darparu datrysiadau i'r rhai sy'n dymuno ymuno ag ysgol eiddo.


Mae'r galw am yr Hawl i Brynu yn isel ar hyn o bryd, o gymharu â'r lefelau uchel iawn a welwyd yng nghanol y 80au, ac mae mynediad i berchnogaeth cartref ei hun ymhell iawn o ddyddiau Hawl i Brynu ar raddfa fawr (fel y gŵyr y Mileniad yma'n rhy dda). Ond, ar gyfer y tenantiaid hynny sy'n dymuno camu i fod yn berchen cartref, mae cymdeithasau tai yn cynnig cyfleoedd cynyddol iddynt wneud hynny. Mae modelau megis rhannu perchnogaeth yn rhoi opsiynau perchnogaeth tai fforddiadwy i bobl na fedrent eu cael fel arall, y cyfle i symud tuag at y sicrwydd a'r sefydlogrwydd a ddymunant. Mae gan hyn y budd ychwanegol na chollir stoc tai cymdiethasol a chaiff yr arian a dderbynnir eu hailfuddsoddi gan gymdeithasau tai sy'n arhau i fuddsoddi wrth gyflenwi tai cymdeithasol gwirioneddol fforddiadwy.


Fel yr aiff y Bil drwy'r Cynulliad, mae'n bwysig cofio na chaiff y llenni eu cau ar denantiaid tai cymdeithasol sy'n dymuno dod yn berchnogion cartrefi. Bydd cymdeithasau tai yn parhau i gyflenwi yn y maes yma a byddwn yn cyflwyno'r achos dros i'r Llywodraeth ein cefnogi i wneud hynny. Fodd bynnag, wrth gymryd y cam hwn i ddod â'r Hawl i Brynu i ben, caiff ein stoc tai cymdeithasol ei ddiogelu a gall cymdeithasau tai fuddsoddi'n hyderus a chanolbwyntio ar gyflenwi'r 20,000 o fforddiadwy mae Cymru eu hangen yn nhymor hwn y Cynulliad.
Aaron Hill
- Rheolydd Materion Cyhoeddus, CHC