Hanfodol fod Llywodraeth nesa’r DU yn blaenoriaethu polisi mewnlifo hyblyg...
A ninnau ar drothwy Etholiad Cyffredinnol, y cwestiwn mawr i ymgyrch ‘Cartrefi i Gymru’ yw pa effaith gaiff Llywodraeth nesa’r DU ar ddarpariaeth tai yma yng Nghymru?
Ar y lefel mwyaf elfennol, nid cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw darpariaeth tai yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am hynny. Ma gan Lywodraeth Cymru hefyd nifer o’r liferi sy’n effeithio ar y ddarpariaeth megis y cyfrifoldeb dros y system gynllunio, rheoliadau adeiladu, a’r maes sgiliau.
Oes gan Llywodraeth y DU rôl i’w chwarae o gwbl felly? Yn syml, oes. Yn llai syml, oes, ond yn aml yn anuniongyrchol.
Yr un maes sydd heb gael ei ddatganoli sydd a’r potensial i gael yr effaith mwyaf ar y diwydiant adeiladu o fewn y blynyddoedd nesaf yw mewnlifo. Mae’r diwydiant adeiladu wedi bod yn ddibynnol ar lafur tramor fyth ers y newyn tatws yn Iwerddon ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Heddiw, ma 13.4% o weithwyr o fewn y diwydiant yn dramorwyr ac o hynny 8.3% yn dod o wlad sy’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Ma dros hanner rheini yn gweithio yn Llundain. Er fod y niferoedd llawer yn llai yng Nghymru, petasai Llywodraeth nesa’r DU yn gweithredu polisi mewnlifo anhyblyg, byddai Llundain yn troi’n fagnet drwy gynnig tâl uwch i ddenu gweithwyr brodorol o du allan i’r brifddinas, gan gynnwys Cymru. Byddai hynny’n dwyshau’r bwlch sgiliau sy’n bodoli’n barod.
Mae’r bwlch sgiliau yn fater sydd wedi ffrwyno’r diwydiant adeiladu am flynyddoedd. Mae na fwy o alw am weithwyrr sgilgar na sy na o ddarpariaeth. Mi adawodd miloedd o weithwyr y diwydiant yn ystod y dirwasgiad economaidd diwethaf, a dydi’r diwydiant heb lwyddo’u denu yn ôl nac i hyfforddi digon o weithwyr newydd i gymeryd eu lle.
Ma’r rhesymau am yr argyfwng o ddiffyg tai yn gymleth ac yn niferus, ond un rheswm ydi diffyg gweithwyr sgilgar sy yn ei dro’n golygu ei bod hi’n fwy costus i adeiladu tŷ ac yn cymeryd mwy o amser. Mi fysa hi’n sefyllfa argyfyngus petasai Llywodraeth nesa’r DU yn penderfynnu troi at bolisi mewnlifo anhyblyg fyddai’n atal gweithwyr sgilgar rhag dod i Brydain.
Fel yr argyfwng o ddiffyg tai, ma’r bwlch sgiliau yn fater cymleth ac yn un fydd yn cymeryd blynyddoedd i’w ddatrys. Y peth ola sydd ei angen ar y diwydiant yw fod Llywodraeth nesa’r DU yn dilyn trywydd o gefnu ar lafur yr UE a thrwy hynny yn dwyshau’r sefyllfa.
Ifan Glyn
- Cyfarwyddwr Ffederasiwn Meistri Adeiladu Cymru