Gyda'n gilydd - Gadewch i ni barhau i Gefnogi Pobl yng Nghymru!
Cafodd bywydau tua thri chwarter o bobl yng Nghymru eu trawsnewid drwy'r rhaglen Cefnogi Pobl yn ystod y deuddeg blynedd ddiwethaf.
I nodi deuddeg mlynedd o lwyddiant a thanlinellu pwysigrwydd sicrhau cyllid ar gyfer cefnogi'r rhaglen Cefnogi Pobl yn y dyfodol, mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) a Cymorth Cymru yn cynnal 'digwyddiad dathlu' yn y Senedd heddiw (18 Mai).
Mae'r digwyddiad yn cyd-daro gyda lansiad ymgyrch 'Gadewch i ni barhau i Gefnogi Pobl' a gaiff ei rhedeg gan CHC a Cymorth Cymru. Mae'r ymgyrch yn hyrwyddo pwysigrwydd rhaglen Cefnogi Pobl sydd bob blwyddyn yn helpu mwy na 60,000 o bobl ddifreintiedig ac agored i niwed i fyw'n annibynnol drwy wahanol brosiectau ym mhob rhan o'r wlad. Mae Cefnogi Pobl yn rhaglen arweiniol gan Lywodraeth Cymru ac mae ganddi hefyd rôl allweddol mewn trin ac atal digartrefedd. Mae'n ariannu ystod o wasanaethau i gefnogi pobl sydd mewn risg o ddod yn ddigartef yn cynnwys pobl sy'n dioddef o gam-drin domestig, rhai gyda phroblemau iechyd meddwl neu gorfforol ac anableddau dysgu, cyn aelodau'r lluoedd arfog a phobl hŷn.
I lawer o bobl, ac am lawer o resymau, nid yw bob amser yn bosibl cael sicrwydd cartref diogel heb gefnogaeth. Mae Cefnogi Pobl yn helpu pobl i adeiladu, neu ail-adeiladu, y math o fywyd rydym i gyd ei eisiau i ni'n hunain, ein ffrindiau a'n teuluoedd.
Bu gan gwasanaethau Cefnogi Pobl hefyd rôl hollbwysig yn helpu'r rhai y mae diwygio lles wedi effeithio arnynt. Gwerir cyfartaledd o £2,392 ar bob person a helpir gan Cefnogi Pobl. Roedd cyllideb Cefnogi Pobl yn £134.4m yn 2014/15. Cwtogwyd hynny gan £10m i £124.4m ar gyfer 2015/16. Dywed CHC a Cymorth Cymru y gallai'r gostyngiad o £10m mewn cyllid i Cefnogi Pobl fod wedi helpu mwy na 4,000 o bobl ychwanegol. O gymharu, mae'n costio tua £113m i ddarparu gwasanaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru bob wythnos.
Gyda phwysau cynyddol ar gyllidebau, mae'r rhaglen Cefnogi Pobl mewn risg o doriadau pellach posibl yng nghyllideb nesaf y Cynulliad.
Mae ymgyrch Gadewch i ni barhau i Gefnogi Pobl yn anelu i ddiogelu cyllid arar gyfer Cefnogi Pobl yn y dyfodol ond hefyd yn dangos yr angen am gynyddu cyllid er mwyn helpu hyd yn oed yn fwy o bobl 'mewn risg'. Bydd y 'dathliad' Cefnogi Pobl yn y Senedd yn dangos sut mae'r rhaglen wedi trawsnewid bywydau pobl a sut y byddai'r costau i 'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn cynyddu hebddo yn yr hirdymor.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Grŵp CHC: "Mae rhaglen Cefnogi Pobl yn rhoi rhwyd ddiogelwch i bobl agored i niwed ac i'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru sydd eisoes dan bwysau mawr. Heb fwy o gyllid ar gyfer Cefnogi Pobl, bydd cynnydd mawr mewn cyllidebau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol fydd yn ei gwneud yn anodd iddynt ymdopi.
"Mae Cefnogi Pobl yn ariannu gwasanaethau hanfodol i aelodau mwyaf difreintiedig ein cymunedau a hefyd yn gweithredu fel mesur ataliol hollbwysig. Mae'n gostwng y galw ac yn arbed arian i'r gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn yr hirdymor. Ni ellid pwysleisio digon pa mor bwysig yw hi i gynyddu'r cyllid ar gyfer rhaglen Cefnogi Pobl. Dim ond gwrando ar straeon defnyddwyr gwasanaeth Cefnogi Pobl sy'n rhaid i chi i ddarganfod y gwahaniaeth a wnaeth y rhaglen i gynifer o fywydau."
Dywedodd Auriol Miller, Cyfarwyddydd Cymorth Cymru: "Un o brif gryfderau rhaglen Cefnogi Pobl yw ei bod yn gweithio ar draws ffiniau a grwpiau cleient, a gwelir y canlyniadau a'r buddion mewn llawer o wahanol feysydd polisi.
Yn ogystal ag arbedion sylweddol i'r gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, mae gan Cefnogi Pobl hefyd rôl allweddol wrth drechu tlodi a lliniaru effeithiau diwygio lles. Gwyddom fod diwygiadau lles wedi taro'n waeth ar Gymru na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig a, gyda £12bn arall o doriadau ar y ffordd, bydd pobl agored i niwed yn dioddef yn waeth byth.
Yn awr, yn fwy nag erioed, mae angen i ni weiddi am fanteision enfawr Cefnogi Pobl a gwneud popeth a allwn i sicrhau fod y rhwyd ddiogelwch hanfodol yma'n parhau i gael ei diogelu. Ond nid dim ond am ymgyrchu mae'r digwyddiad yma - mae ynglŷn â dathlu llwyddiannau rhaglen sy'n rhoi cymorth hanfodol i filoedd lawer o bobl yng Nghymru bob blwyddyn."
Mae'r siaradwyr yn 'nathliad' heddiw yn cynnwys Lesley Griffiths, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi; Stuart Ropke, Prif Weithredydd Grŵp CHC ac Auriol Miller, Cyfarwyddydd Cymorth Cymru. Bydd y gwesteion a'r siaradwyr hefyd yn cynnwys defnyddwyr gwasanaethau a darparwyr o wahanol brosiectau'n gysylltiedig â Cefnogi Pobl ledled Cymru, yn ogystal â gwleidyddion.
Astudiaeth achos 1: De Cymru
Mae Stephen Cole, 51 oed, o Benarth yn gyn yrrwr bws. Mae'n credu ei bod yn debyg na fyddai'n fyw heddiw heb yr ymyriad a'r help a gafodd drwy gynllun a ariannwyd gan Cefnogi Pobl.
Dywedodd: "Roedd pethau'n mynd yn wych nes i rywun ymosod yn ddifrifol arnaf pan oeddwn yn y gwaith. Cafodd hyn effeithiau negyddol ar fy iechyd corfforol a meddyliol. Roeddwn yn mynd i gwnsela i fy helpu i ddeall yr hyn oedd wedi digwydd ond doedd hynny ddim yn helpu. Roedd gen i ormod o ofn gadael y tŷ ac os byddwn yn mynd allan byddwn yn cael ymosodiadau pryder a phanic. Dechreuais yfed ac ar un adeg roeddwn yn yfed naw litr o seidr gwyn bob dydd. Penderfynodd fy ngwraig ei bod wedi cael llond bol ar fy ymddygiad ac fe adawodd. Rydyn ni'n awr wedi ysgaru. Gwyddwn na fedrai pethau gario ymlaen felly es i weld fy meddyg. Cefais fy nghyfeirio at arbenigwr a chael diagnosis o paranoid agoraffobia. Cefais hefyd fy nghyfeirio at ganolfan cyffuriau ac alcohol Newlands yn y Fro lle derbyniais gwnsela a gwasanaethau eraill i helpu gostwng fy yfed. Fe wnes gyfarfod un o Gynghorwyr Byw Annibynnol Gofal Hafod yn Newlands ac fe wnaethant hwy fy nghyfeirio at brosiect Heol Windsor ym Mhenarth - un o gynlluniau tai â chymorth Hafod ar gyfer pobl gyda phroblemau iechyd meddwl. Rwyf wedi bod yn byw yn Heol Windsor ers mis Hydref 2014 ac wedi derbyn llawer o help gan y staff cymorth. Mae hyn yn cynnwys trin fy nhenantiaeth, help i drefnu arian, ailddechrau ar hen hobïau a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol fel y clwb garddio. Mae hyn yn fy helpu i gadw'n brysur ac nid wyf wedi cael diod ers talwm. Rwy'n meddwl o ddifri y byddwn wedi marw erbyn hyn yn ôl pob tebyg os na fyddwn wedi symud i gynllun tai â chymorth Hafod."
Astudiaeth achos 2: Gogledd Cymru
Cyn iddi ddod i gysylltiad gyda phrosiect Cefnogi Pobl, roedd Renee Williams yn unig ac yn ddihyder yn dilyn marwolaeth ei phartner Jon. Fodd bynnag yn 2010, symudodd Renee i gynllun tai gwarchod yn Hen Golwyn gan ei bod eisiau teimlo'n rhan o gymuned a gwella ei hiechyd a'i lles. Ers hynny mae bywyd y nain i 11 a hen nain i un wedi newid yn sylweddol, ar ôl caei ei hannog gan Gydlynydd Byw Annibynnol i ddod yn rhan o'r gymuned a chymryd rhan mewn gweithgareddau a chlybiau. Mae'r rhaglenni a'r grwpiau y mae Renee yn cymryd rhan ynddynt i gyd mewn rhyw ffordd wedi'u cysylltu a'u gwneud yn bosibl gan Grant Cefnogi Pobl Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy'n galluogi cymdeithas tai Cartrefi Conwy i ddarparu Gwasanaethau Byw Annibynnol i denantiaid hŷn ac agored i niwed. Dywedodd Renee fod cael mynediad i'r Gwasanaeth Byw Annibynnol wedi newid ei bywyd mewn mwy nag un ffordd yn cynnwys cynhwysiant cymdeithasol a gwella ei hyder. Mae'n teimlo ei bod yn medru byw'n annibynnol ond gyda'r heddwch meddwl a ddaw o'i chysylltiad gyda'i Chydlynydd Byw Annibynnol pan fo angen. Mae ganddi'n awr wir awch am fywyd a chafodd ei brwdfrydedd ac oriau o gysylltiad wythnosol yn ei chymuned hefyd effaith gadarnhaol ar eraill i gymryd rhan, yn cynnwys ei chwaer, cymdogion a phreswylwyr yn eu cymuned. Mae Renee yn parhau'n frwdfrydig am ddysgu sgiliau newydd ac mae'r brwdfrydedd yma wedi'i harwain i gymryd rôl weithgar mewn gwahanol grwpiau tenantiaid gyda Cartrefi Conwy. Mae hyn yn cynnwys rolau ar eu fforwm tenantiaid, grŵp cyfathrebu a phanel craffu. Mae hyd yn oed wedi ennill gwobr am ei gwaith ffotograffiaeth ar ôl cymryd rhan mewn cwrs cynhwysiant digidol a ffotograffiaeth a drefnwyd gan Cartrefi Conwy. Cafodd ei gwaith hi a chyd aelodau'r grŵp ei ddangos yn Venue Cymru, Llandudno, yn ystod yr haf y llynedd.
Astudiaeth achos 3: De Cymru
Ddeunaw mis yn ôl, roedd Lisa Welch o Gaerffili yn dioddef o iselder ysbryd difrifol. Roedd ei salwch yn cael effaith enfawr ar ei bywyd ac roedd yn ei chael yn anodd gwneud pethau bob dydd fel gwisgo amdani, gadael y tŷ a thalu ei biliau. Roedd hefyd yn cael problemau iechyd meddwl oedd yn gwaethygu ei phroblemau iechyd meddwl ymhellach. Roedd Lisa hefyd yn ei chael yn anodd talu'r rhent ar ei chartref cymdeithas tai. Oherwydd hyn, dynododd ei swyddog tai fy gallai Lisa fod yn profi problemau iechyd a'i chyfeirio at gynllun Cefnogaeth Tenantiaeth Gofal a gaiff ei ariannu gan raglen Cefnogi Pobl. Dechreuodd Lisa dderbyn cymorth gan y cynllun i drin rhai o'r materion oedd yn cael effaith negyddol ar ei iechyd meddwl. Er nad oedd ei thaith i wellhad yn rhwydd, gwnaeth Lisa gynnydd sylweddol ac mae ganddi nawr fywyd crwn ac annibynnol.
Dywedodd Lisa: "Fe wnaeth fy ngweithiwr cymorth ddechrau cymryd y pwysau oddi arnaf. Roedd yn gymaint o ryddhad. Roedd fel pwysau mawr oddi ar fy ysgwyddau. Mae golygu cymaint i gael fy mywyd yn ôl, dechrau cymryd rheolaeth ar fy mywyd fy hun. Rwy'n teimlo fod cymaint mwy allan i mi nawr. Gyda help Gofal, gwelais y golau ar ben arall y twnnel." Fel canlyniad i'r cymorth a gafodd gan Gynllun Cefnogi Tenantiaeth Gofal, penderfynodd Lisa ymuno â phrosiect Llwybrau i Gyflogaeth Gofal sy'n cefnogi pobl i ennill y sgiliau a'r hyder i gymryd rhan mewn addysg, gwirfoddoli neu waith. Mae Lisa bellach yn wirfoddolwr egnïol iawn ac yn ysbrydoli eraill gan helpu unigolion, ei chymuned a Chymru mewn nifer o ffyrdd, yn cynnwys helpu i redeg menter gydweithredol ffrwythau a llysiau lleol. Tra bod ei gwaith gwirfoddol yn cefnogi adferiad Lisa ac yn ei helpu i gynyddu o ran hyder a sgiliau ar gyfer y dyfodol, mae hefyd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i unigolion a'r gymuned yn ehangach.
Astudiaeth Achos 4: Gogledd Cymru
Roedd Pete Wright yn flaenorol yn cynnwys troseddu a chyffuriau nes i dai â chymorth drawsnewid ei fywyd er gwell. Esboniodd Peter o Gonwy: "Roedd fy mywyd yn flêr iawn cyn i mi ddod i fyw mewn tai â chymorth. Roeddwn wedi bod mewn ysbyty meddwl sawl gwaith ac yn torri’r gyfraith ac yn cymryd cyffuriau. Fe symudais i fyw i'r Gogledd gyda fy mam ond fe wnaeth fy iechyd meddwl waethygu eto cyn hir ac roeddwn yn ôl yn yr ysbyty. Sylweddolais adeg honno fy mod angen cymorth ac na fyddai symud nôl at mam yn dda i'r naill na'r llall ohonom. Fe wnaeth fy ngweithiwr allweddol o fewn y tîm iechyd meddwl ganfod lle mewn tŷ rhannu mewn cynllun tai â chymorth. Pan oeddwn yno, fe ddaeth fy iechyd meddwl yn sefydlog, rydw i wedi llwyddo i gadw ffwrdd o gyffuriau a throseddu ac wedi newid fy mywyd yn llwyr. Mae'r cymorth wedi fy nysgu sut i drin tenantiaeth ac fe wnes symud i fy fflat fy hunan yr wythnos ddiwethaf. Fe fyddaf yn dal i gael cymorth fel y bo angen am dipyn i wneud yn siŵr mod i'n hymdopi ac rwy'n optimistig iawn am y dyfodol. Alla’i ddim diolch digon i Tai Gogledd Cymru."