Jump to content

22 Tachwedd 2016

Gwobr Creu Creadigrwydd Pat Chown - Yn rownd derfynol 2016

Sefydlwyd Gwobr Creu Creadigrwydd Pat Chown i gydnabod arloesedd mewn tai. Fel ffordd o goffau Pat, ei chyfraniad i’r sector tai a’i gwaith parhaus yn chwilio am well ffyrdd o wneud pethau, nod y wobr yw cydnabod ffyrdd newydd o ymateb i faterion dydd-i-ddydd a syniadau newydd blaengar am ddelio gyda phroblemau cyffredin. Bydd yr enillydd, a gyhoeddir yng nghinio’r gynhadledd, yn derbyn gwobr Pat Chown a chyfraniad o £1,000 i elusen Gymreig o’u dewis.

Yn rownd derfynol 2016 mae:

  • Achos Consyrn - Cymdeithas Tai Siarter - Dull newydd a ddatblygwyd i ddelio gyda phob mater diogelu yn effeithio ar blant ac oedolion agored i niwed a phobl yn dioddef o gam-drin domestig
  • Cartrefi Gwag Cymru, ‘Lês Newydd o Fywyd’ - United Welsh - Prosiect, a seiliwyd ar fodel lesu newydd a gyflwynwyd yn 2014, yn helpu perchnogion tai i ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd
  • Ardaloedd Gweithredu Tai ac Iechyd - CBS Rhondda Cynon Taf - Dull cydweithio i fynd i’r afael â thai gwael ac afiechyd drwy ganolbwyntio ar ostwng nifer y cartrefi gyda pheryglon a nifer eiddo gwag
  • Prosiect HAPI - Cymdeithas Tai Newydd - Nod y prosiect hwn, a ariannwyd gan y Loteri Fawr, yw grymuso pobl sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf i gael yr wybodaeth, sgiliau a hyder i wneud dewisiadau iechyd cadarnhaol a gwella eu hiechyd a’u llesiant

I gael mwy o wybodaeth am bob un o’r prosiectau hyn, edrychwch ar sianel YouTube CHC: https://www.youtube.com/channel/UCvA-hS8Kne_SSRUTyQ9nLRw