Jump to content

11 Tachwedd 2019

Credyd Cynhwysol chwe mlynedd yn ddiweddarach

Credyd Cynhwysol chwe mlynedd yn ddiweddarach
Wrth i'r frwydr am lywodraethu'r Deyrnas Unedig barhau am y pedair wythnos nesaf, rydym yn galw ar bob plaid i roi blaenoriaeth i lesiant yn eu cynlluniau ar gyfer llywodraeth, yn neilltuol ostwng yr amser aros am y Credyd Cynhwysol, sicrhau fod taliadau'n cynnwys cost byw ac, i'r rhai a all wneud hynny, ei gwneud yn bosibl mynd mewn i waith heb golli sefydlogrwydd cymorth llesiant. Heb hyn, a'r sefydlogrwydd y byddai hynny'n ei roi, bydd ceisiadau i drechu tlodi ac anghydraddoldeb yn ddiffrwyth.


Mae'r Credyd Cynhwysol bellach yn chwe mlwydd oed. Yn hŷn na Brexit a throellwyr aflonydd gyda'i gilydd, ac i rai, yr un mor rhwystredig. Fel gydag unrhyw ddull newydd o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, bu problemau, enillwyr a chollwyr. Mae rhai hawlwyr wedi bod ar eu hennill o symleiddio'r system budd-daliadau, tra bod llawer o bobl eraill wedi cael canfod eu ffordd ar y broses newydd yn anghydnaws gyda bywyd bob dydd.


Beth bynnag eich barn ar y Credyd Cynhwysol, un agwedd sy'n tueddu i arwain at gytundeb yw'r newid sylweddol fu yn y Credyd Cynhwysol dros y chwe mlynedd ddiwethaf.


Mae rhai o'r gwelliannau hyn yn cynnwys: gostwng amserau aros, ymestyn budd-daliadau gwaddol i hawliad Credyd Cynhwysol a'r gallu i gadw mwy o'r hawliad Credyd Cynhwysol pan fyddant yn dechrau gweithio.


Ond er y croesewir y newidiadau, nid ydynt hyd yma wedi adeiladu system sy'n pasio prawf darparu cefnogaeth amserol a chynnwys cost byw.


Wrth gwrs, y sail i'r holl newid system yma yw'r union swm o arian a dderbynnir ym mhob taliad Credyd Cynhwysol. Ar gyfer y rhan fwyaf o fudd-daliadau oedran gwaith, cafodd y swm hwn ei rewi ers 2016, gan olygu gostyngiad o 6% ar gyfartaledd yn incwm pobl sy'n hawlio budd-daliadau oedran gwaith. Bydd cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddant yn dod â rhewi budd-daliadau i ben yn 2020 yn atal y sefyllfa rhag gwaethygu ac yn galluogi budd-daliadau i gynyddu gyda chwyddiant, ond nid yw'n gwneud dim i fynd i'r afael â'r gostyngiad mewn safonau byw cymharol a achosir gan y rhewi.


Felly ble ydyn ni arni gyda'r Credyd Cynhwysol yng Nghymru?


Bu'r gwasanaeth llawn (y model cyfredol ar gyfer Credyd Cynhwysol, y mae'r rhan fwyaf o bobl oedran gwaith yn gymwys amdano) ar gael ar draws Cymru gyfan ers mis Rhagfyr 2018, ar ôl ei ymestyn yn raddol. Mae tua 125,000 o bobl yn hawlio Credyd Cynhwysol yng Nghymru, 25% o'r cyfanswm o hanner miliwn y disgwylir iddynt fod yn hawlio Credyd Cynhwysol ar ddiwedd y broses ymestyn, y disgwylir ar hyn o bryd iddo ddigwydd erbyn diwedd 2023, pan fydd angen i hawlwyr budd-daliadau gwaddol presennol o oedran gwaith hawlio Credyd Cynhwysol.


Mae ffordd bell i fynd o hyd cyn y gellir troi rhannau o'r system budd-daliadau gwaddol i ffwrdd, ac mae nifer sylweddol o wersi i gael eu dysgu cyn y bernir fod Credyd Cynhwysol yn addas i'r diben i bawb sy'n ei hawlio.


Beth fu Cartrefi Cymunedol Cymru yn ei wneud i sicrhau mwy o welliannau i'r Credyd Cynhwysol?


Yn gynharach eleni fe wnaethom lansio fersiwn ddiweddaraf Y Chwe Chais, ein hymgyrch ar y cyd gyda'n chwaer ffederasiynau tai. Mae'r ymgyrch yma'n canolbwyntio ar sicrhau y caiff Credyd Cynhwysol ei gyflenwi'n gyflym a'i fod yn cynnwys cost byw. Rydym wedi gwneud cynnydd, gan sicrhau diwedd arfaethedig i'r rhewi ar fudd-daliadau a gwneud gwelliannau i'r ffordd y mae Credyd Cynhwysol yn gweithio i gymdeithasau tai, ond mae problemau sylweddol yn parhau gyda'r Credyd Cynhwysol, yn cynnwys yr aros dechreuol o bump wythnos cyn taliad.


I gefnogi ein gwaith, a'r cymdeithasau tai sy'n aelodau o CHC, rydym wedi monitro effaith Credyd Cynhwysol ar gymdeithasau tai a'u tenantiaid ers ei sefydlu. Yn fwyaf diweddar, fe wnaethom gomisiynu astudiaeth effaith fanwl 18-mis, a chaiff adroddiad terfynol hwnnw ei gyhoeddi heddiw.


Beth mae'n ei ddweud wrthym?


Dengys yr adroddiad fod yr effaith y disgwylid i'r Credyd Cynhwysol ei gael ar ôl-ddyledion rhent wedi digwydd, ac nad yw eto wedi gwella'n sylweddol yn dilyn gwelliannau i'r system. Mae ar 84% o denantiaid sy'n hawlio Credyd Cynhwysol beth rhent i'w cymdeithas tai, bydded hynny drwy beidio talu neu broblemau technegol yn deillio o'r system Credyd Cynhwysol. Mae ar y tenantiaid hynny ar y Credyd Cynhwysol sydd ag ôl-ddyledion fwy na dwywaith y swm o rent o gymharu â'u cymheiriaid sy'n hawlio Budd-dal Tai dan yr hen system. Mae'r rhesymau am hyn yn gymhleth, gydag amharodrwydd i hawlio Credyd Cynhwysol yn cyfrannu at ôl-ddyledion a'r newid i daliadau misol yn achosi problemau trefnu cyllideb ar gyfer hawlwyr.


Mae'n anodd peidio priodoli peth o'r cynnydd mewn ôl-ddyledion i'r aros dechreuol o bump wythnos am Gredyd Cynhwysol, gan adael hawlwyr heb arian i dalu rhent am gyfnod sylweddol a gyrru rhai i freichiau benthycwyr carreg drws neu waeth. Mae'r ôl-ddyledion ychwanegol hyn er cynnydd sylweddol yn yr adnoddau a fuddsoddir gan gymdeithasau tai mewn cymorth ariannol a chymorth cysylltiedig ar gyfer tenantiaid, fel y dangosir yn yr adroddiad.


Gyda phleidiau gwleidyddol nawr yn ymgyrchu ar gyfer Etholiad Cyffredinol y mis nesaf, dylai llesiant fod yn flaenoriaeth ar gyfer maniffestos.


Gallwch ddarllen ein hadroddiad ar effaith y Credyd Cynhwysol yma.