Jump to content

31 Gorffennaf 2014

Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru yn yr Eisteddfod

Bydd Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru yn rhannu stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli eleni gyda Care & Repair Cymru, Cymdeithas Tai Bro Myrddin a Phêl-droed Stryd Cymru. Rhif ein stondin yw 426-428. Byddwn yn cynnal sesiynau 'coffi a chlonc' gydag Aelodau Cynulliad lleol ar hyd yr wythnos a hefyd yn codi arian ar gyfer Pêl-droed Stryd Cymru gyda chystadleuaeth golau cosb a chystadleuaeth 'Ble mae'r Bêl?'

Rydym hefyd wedi trefnu gêm bêl-droed elusennol ddydd Mercher 6 Awst am 3pm er budd Pêl-droed Stryd Cymru a gynhelir yn yr ardal hamdden ar y Maes. Gadewch i mi wybod os gwelwch yn dda os hoffech fod yn rhan o dîm pêl-droed y sector. Bydd Ash Randall, diddanwr pêl-droed dull rhydd proffesiynol yn bresennol ar gyfer y gêm. Bydd rhai ohonoch wedi gweld perfformiad gwych Ash yn ein fesTYval ddiweddar.

Mae mwy o wybodaeth am Pêl-droed Stryd Cymru a'n gweithgareddau codi arian yma: http://chcymru.org.uk/en/view-news/street-football-wales-fundraising-update

Mae croeso cynnes i chi alw heibio am de neu goffi os ydych yn y Maes yn ystod yr wythnos. Edrychwn ymlaen at eich gweld!