Jump to content

23 Mehefin 2017

Gorwelion Tai - Y stori hyd yma!

Llun o'r logo Gorweilion Tai


Darogan, polau, dadansoddiad a sylwebaeth - mae'n teimlo fel i ni gael ein llethu gan farn dros y 12 mis diwethaf. Dau etholiad cyffredinol ac un refferendwm yn ddiweddarach ac mae'n deg dweud fod polau barn a darogan yn dioddef o argyfwng hyder.


Felly pam ydym ni yn CHC yn eich gwahodd i gymryd rhan wrth osod gweledigaeth ar ein sector, nid dros 12 mis ond dros gyfnod o 20 mlynedd?


Am yn union yr un rheswm y gall darogan tymor byr fethu - gall gweledigaeth hirdymor lwyddo.


Mae blaenoriaethau'n newid, mae grym yn symud rhwng pleidiau ac mae enw da yn tyfu a phylu. Nid yw darogan canlyniad neu sefyllfa a chynllunio yn unol â hynny'n dangos y byd go iawn yr ydym yn byw ynddo. Yn bwysicach, nid yw darogan tymor byr ychwaith yn cefnogi ein rôl fel angorau hirdymor o fewn ein cymunedau. Rydym ynddi am y cyfnod hir ac mae gennym ran go iawn yn nyfodol ein hardaloedd lleol. Bydd yn ein helpu i osod gweledigaeth sy'n dweud - rydym eisiau i'r byd fod mewn ffordd neilltuol, a dyma sut y byddwn yn helpu i lunio hynny.


Fe wnaethom lansio ein hymgais i osod gweledigaeth ar gyfer cymdeithasau tai yn ein Cynhadledd Flynyddol ym mis Rhagfyr 2016. Buom yn brysur ers hynny. Rydym wedi gweithio gyda chi i ddeall canfyddiadau gwneuthurwyr penderfyniadau am ein sector. Er bod llawer ohonoch yn teimlo fod y rhain yn fwy tebygol o fod yn negyddol na chadarnhaol, canfu ein harchwiliad o ganfyddiadau fod gan Aelodau Cynulliad, Aelodau Seneddol, gwneuthurwyr penderfyniadau a phartneriaid farn cyffredinol dda o gymdeithasau tai. Maent yn deall yr hyn a wnawn a pham ein bod yn bwysig. Pan ofynnwyd iddynt ddisgrifio cymdeithasau tai, roedd y rhai a arolygwyd yn aml yn dewis geiriau fel 'fforddiadwy', 'safon uchel' a 'cymdeithasol'. Fodd bynnag, nid oedd heb her - teimlai ychydig ein bod yn 'siop gaeedig' a 'hen ffasiwn'. Mae'n sylfaen dda ar gyfer dechrau'r gwaith yma.


Canfyddiadau archwiliad canfyddiadau: 3 gair a ddefnyddiech i ddisgrifio cymdeithasau tai:





Mae dros 300 ohonoch eisoes wedi rhoi eich barn yn rhwydweithiau a chynadleddau CHC, gan nodi eich sylwadau ar y cwestiynau mawr fydd yn eich diffinio fel sector dros y blynyddoedd i ddod:
  • Pwy ddylem ni eu cartrefu?

  • Pa wasanaethau ddylem ni eu darparu?

  • Beth yw ein cynnig i'r gymuned?

  • Pa olwg fydd ar ein gweithlu?

  • Beth yw ein perthynas gyda'r wladwriaeth?


Mae'n ddyddiau cynnar ond rydym eisoes yn dechrau gweld rhai themâu yn dod i'r amlwg. Er enghraifft, mae llawer ohonoch a gyfrannodd hyd yma wedi dweud wrthych ein bod yn ein gweld fel sector sy'n parhau i gyflawni ein diben craidd o ddarparu tai i'r rhai mewn angen ond eich bod yn gynyddol yn gweld ein cynnig yn ehangu. Soniodd llawer ohonoch am sut mae angen i ni fod yn ymatebol i boblogaeth a marchnad sy'n newid ac y dylem ddarparu cynnig eang gydag ystod o ddewisiadau ar gyfer pobl.


Adborth a gafwyd gan gymdeithasau tai mewn ymateb i'r cwestiwn - pwy ddylem ni eu cartrefu?





Yn y Gynhadledd Arweinyddiaeth yr wythnos hon byddwn yn lansio cam nesaf ein gwaith, 'Sefydlu'r Her', lle byddwn yn cyhoeddi canfyddiadau ymchwil a gynhaliwyd ar ein rhan gan Savills.


Mae'r ymchwil yn amlinellu canfyddiadau diddorol ac yfory byddwn yn postio blog gan Abigail Davies, Cyfarwyddydd Cynorthwyol Savills, a gynhaliodd yr ymchwil.


Unwaith y lledaenwyd canfyddiadau'r ymchwil, byddwn yn symud ymlaen i gam 3 - 'Ymuno â'r Sgwrs'.


Hoffem i chi ddod ac ymuno â ni yn ein rhaglen digwyddiadau Gorwelion Tai dros yr haf i drafod y cwestiynau mawr hyn a llunio ein cyfraniad dros yr 20 mlynedd nesaf. Dim ond drwy i chi gymryd rhan y gallwn ddatblygu gweledigaeth gref a chadarn sy'n adlewyrchu ein hamrywiaeth a'r uchelgais a rannwn.


Mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan: http://chcymru.org.uk/en/housing-horizons
Clarissa Corbisiero-Peters
– Cyfarwyddydd Polisi, CCC