Jump to content

23 Mehefin 2017

Gorwelion Tai: Sefydlu'r Her




Mae'n rhwydd siarad am yr hyn yr hoffem ei wneud yn y dyfodol. Mae'n llawer anos bod yn siŵr os mai'r nodau hynny fydd y pethau cywir, neu hyd yn oed ymarferol, i'w gwneud. Serch hynny, mae CHC yn barod am yr her ac mae Gorwelion Tai yn gyfle cyffrous i gymdeithasau tai yng Nghymru edrych i'r dyfodol mewn ffordd greadigol a gwybodus.


Mae Savills wedi cefnogi'r prosiect hwn drwy gasglu gwybodaeth ar y ffactorau demograffig, cymdeithasol ac economaidd sy'n debygol o effeithio ar y cyflenwad tai a gwasanaethau yn 2036. Mae'n rhoi darlun diddorol o'r hyn allai ddigwydd. Gallwn ddisgwyl gweld:
  • Newid ym mhroffil y boblogaeth ac aelwydydd sy'n ffurfio'r boblogaeth honno

  • Angen sylweddol am gartrefi newydd sy'n llawer mwy na'r allbwn blynyddol presennol

  • Angen parhaus am dai fforddiadwy a help ariannol i ateb y costau tai

  • Heriau'n ymwneud â stoc tai heneiddiol

  • Gostyngiad yn sgiliau a phrofiadau'r gweithlu ynghyd â cholli cyflogaeth i bobl mewn rhai sectorau ac anhawster yn cael mynediad i swyddi newydd ar gyflog gwell.


Mae gan y cyd-destun a ragwelir nifer o oblygiadau ar gyfer cymdeithasau tai yn nhermau cymryd cyfleoedd, diogelu gallu i ddarparu cartrefi, cefnogi cymunedau a hybu amcanion cymdeithasol. Gallai fod yn ddefnyddiol i gymdeithasau tai feddwl am sut i:
  • Cynllunio ar gyfer disgwyliadau a gofynion cefnogaeth poblogaeth gynyddol o bobl hŷn

  • Cynyddu'r cyflenwad tai, yn neilltuol mewn adeiladau un a dwy ystafell wely, gyda ffocws cryf ar Gaerdydd, Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd

  • Ailfodelu'r cyflenwad presennol i ateb angen lleol yn well ac osgoi colli incwm, gyda dealltwriaeth dda o dueddiadau ac anghenion lleol

  • Trin heriau cynnal a chadw a hygyrchedd sy'n deillio mewn stoc tai hŷn

  • 'Gwyliwch y bwlch sgiliau' yn eu rôl fel cyflogwr ac angor gymunedol, er enghraifft drwy weithredu i gadw cyflogeion medrus sy'n barod i adael y gweithlu a buddsoddi mewn pobl sy'n dechrau eu gyrfaoedd neu sydd angen newid gyrfa.


Mae rhagweld y dyfodol yn wyddor anfanwl, ond mae'r tueddiadau cyfredol yn rhoi syniad gweddol o beth fedrai ddigwydd. Dylai rhoi sylw i bethau'n awr, meddwl yn adeiladol a dechrau gweithredu roi cymdeithasau tai mewn sefyllfa llawer gwell i wneud cyfraniad gwerthfawr a realistig i anghenion tai a chymunedol y dyfodol.


Abigail Davies
Cyfarwyddwr Cyswllt gyda Savills ac awdur adnoddau data Gorwelion Tai