Gorwelion Tai - Pa heriau fydd yn ein hwynebu yn 2036?
Mae'n 3ydd o Fawrth! Yr amser hon y llynedd roedd aelodau staff CHC yn brysur yn cwblhau'r trefniadau ar gyfer rali Cartrefi i Gymru pan ddaeth yr holl sector tai yng Nghymru ynghyd.
Gorymdeithiodd aelodau bwrdd, tenantiaid ac aelodau staff o bob rhan o'r sector o'r Senedd i ganol Caerdydd gydag un neges ar gyfer pawb oedd yn sefyll am etholiad - Dod â'r argyfwng tai i ben, adeiladu Cymru gryfach.
Flwyddyn yn ddiweddarach ac mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2021, wedi llofnodi cytundeb tai gyda CHC a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac wedi gwneud buddsoddiadau pwysig mewn tai cymdeithasol yn cynnwys diogelu'r rhaglen Cefnogi Pobl a chynnal y setliad rent.
Felly, a gafodd ein gwaith ei gwblhau?
Mae Cymru yng nghanol argyfwng tai. Gallai methiant i weithredu ar gyfer yr hirdymor waethygu a chynnal methiant economaidd o fewn ein cymunedau, methu cyflawni ar gyfer pobl hŷn a rhai gydag anghenion cymorth, a methu cyflawni ar gyfer pobl ifanc sy'n dymuno rhentu'n ddiogel neu fod yn berchen eu cartref eu hunain.
Felly beth ydym ni'n mynd i'w wneud amdano? Beth yw'n huchelgais? Dyna le daw Gorwelion Tai i mewn iddi!
Fel sector, bwriadwn adeiladu dros 3,000 o gartrefi y flwyddyn nesaf - chwarter cyfanswm nifer y cartrefi sydd eu hangen yng Nghymru. Rydym yn cyflogi 10,000 o staff yn uniongyrchol, a'r llynedd fe wnaethom wario dros biliwn o bunnau yn uniongyrchol yn economi Cymru. Cafodd 89c ym mhob £1 o'r gwariant hwn ei gadw yng Nghymru - canran sy'n parhau i gynyddu.
Gorwelion Tai yw ein ffordd o weithio gyda chi i barhau'r gwaith yma i herio ac anelu'n uchel, i arloesi gyda datrysiadau newydd a chadarnhau ein rôl yn awr ac yn y dyfodol fel partner o ddewis i ddatrys yr argyfwng tai yng Nghymru.
Yn ystod eleni byddwn yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau a chynlluniau i ddod â chi ynghyd â'n partneriaid i herio ein hunain i ateb y cwestiwn a ofynnwn i eraill - sut fyddwn ni'n gweithio i ddatrys yr argyfwng tai ac adeiladu Cymru gryfach yn 2036?
Gobeithiaf y byddwch yn rhan o'r drafodaeth ac y byddwch yn chwarae rhan wrth gyflwyno sector y sector ar gyfer 2036.