Jump to content

18 Chwefror 2014

Gofal a Thrwsio: Helpu'r henoed ym mhob rhan o Gymru

Mae'n wythnos Gofal a Thrwsio ac mae gan yr elusen Care & Repair Cymru neges syml i bobl hŷn ym mhob rhan o Gymru sy'n berchnogion tai. Os ydych yn poeni am fyw mewn tŷ gwael,"gallwn eich helpu".

Dywedant fod miloedd o bobl hŷn yn wynebu anawsterau'n gysylltiedig â thai bob dydd gan amrywio o dai'n dadfeilio, gwaith trydanol peryglus a thoeau'n gollwng, ni all miloedd mwy symud o gwmpas eu cartrefi, i fyny ac i lawr grisiau neu ddefnyddio cyfleusterau sylfaenol megis y toiled a'r bath. Yn ystod misoedd y gaeaf, dengys ffigurau'r Llywodraeth fod miloedd mwy'n gorfod mynd i ysbyty neu hyd yn oed yn marw oherwydd eu bod yn byw mewn cartrefi oer, ac yn rhy ofnus i roi'r gwres ymlaen oherwydd y gost.

Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredydd Care & Repair Cymru: "Fe wnaethom helpu 30,000 o bobl hŷn gyda'u problemau tai'r llynedd. Mae'r rhan fwyaf o'r bobl a helpwn dros 60 oed a'r oedran cyfartalog yn 75. Mae 10 y cant o'r bobl a helpwn dros 90 oed. Y llynedd fe wnaeth ugain allan o'n dwy ar hugain o asiantaethau helpu pobl 100 oed neu drosodd. Rydym yn eu helpu i fynd i'r afael ag ystod eang o broblemau tai drwy ymweld â nhw yn eu cartrefi eu hunain, asesu eu problemau tai, gwneud yn siŵr eu bod yn hawlio popeth y mae ganddynt hawl iddo, eu helpu i gael grantiau neu gyllid arall, dod o hyd i adeiladwyr gydag enw da, goruchwylio'r gwaith neu wneud y gwaith ein hunain gydag un o'n crefftwyr.

"Yn awr yn fwy nag erioed, mae ein gwasanaethau'n bwysig nid yn unig oherwydd eu bod yn helpu i wella ansawdd bywyd pobl, drwy eu cadw'n ddiogel, cynnes ac annibynnol, ond hefyd oherwydd eu bod yn eu cadw ymaith o leoedd lle nad ydyn nhw eisiau bod - ambiwlans, ysbyty, meddygfa a chartref gofal preswyl. Y lleoedd hyn yw'r lle olaf mae llawer o bobl hŷn eisiau bod ynddo a drwy eu helpu i fyw'n ddiogel adref, rydym yn gostwng y galw ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gwasanaethau Cymdeithasol sydd dan bwysau cynyddol".

Ein neges i bobl hŷn ar gyfer wythnos Gofal a Thrwsio yw y gallwn eich helpu os ydych yn byw mewn tŷ gwael.

Ffoniwch 0300 111 3333 ar y gyfradd leol, unrhyw le yng Nghymru i gael eich cysylltu gyda'ch asiantaeth Gofal a Thrwsio leol neu ewch i http://www.careandrepair.org.uk i gael llawer mwy o wybodaeth am Gofal a Thrwsio.