Jump to content

06 Rhagfyr 2019

Gall bod yn aelod bwrdd rhoi trosolwg gwell o'r sector

Gall bod yn aelod bwrdd rhoi trosolwg gwell o'r sector
Daeth John Rees yn aelod o fwrdd Tai Ceredigion ddwy flynedd yn ôl fel ffordd i ddatblygu ei sgiliau. Mae'n dweud sut y bu'r swydd o fantais iddo'n broffesiynol.


“Rwyf wedi bod yn rheolydd cyllid gyda Tai Coastal am bedair blynedd, ar ôl dechrau'n gweithio mewn cyllid i'r sector preifat, cyn symud i'r trydydd sector.


"Roedd fy swyddi blaenorol yn hollol wahanol, fodd bynnag rwyf wedi gweld themâu tebyg mewn cyllid yn y trydydd sector a'r sector preifat. Mae fy swydd bresennol yn Coastal yn llawer mwy amrywiol ac yn cynnwys llawer mwy o feysydd yn cynnwys rheoleiddio, dyrannu grantiau tai a deall yr heriau sy'n wynebu tenantiaid.


"Fe wnes gais i ddod yn aelod o fwrdd Tai Ceredigion i helpu ehangu fy ngwybodaeth o sut mae cymdeithasau tai yn gweithredu, ond hefyd i ddod â fy mhrofiadau fy hun i'r bwrdd.


"Mae bod yn aelod bwrdd yn golygu y gallaf fod yn fwy strategol yn fy swydd bob dydd gyda Coastal ac mae'n rhoi trosolwg gwell i mi o'r sector.


"Rwy'n gwirioneddol fwynhau fy swydd ar y bwrdd. Rydyn ni'n grŵp o bobl o wahanol gefndiroedd a dydyn ni ddim yn ofni herio ein gilydd, ond cydweithio i ganfod datrysiadau. Rwy'n credu'n gryf nad oes rhif 1 mewn tîm, ac mae hynny'n wir ar fwrdd Tai Ceredigion, rydyn ni gyd ar y daith gyda'n gilydd.


"Mae'n bwysig sôn na fyddwn wedi medru cymryd swydd aelod bwrdd heb gefnogaeth ac anogaeth fy nghyflogwyr yn Tai Coastal. Efallai nad oes cyflog am y swydd, ond mae wedi bod yn werthfawr iawn i fy natblygiad proffesiynol."


Ydych chi wedi dod yn aelod bwrdd yn ddiweddar? Beth am gofrestru ar ein cwrs hyfforddiant Cyllid i'r Bwrdd a Newydd i'r Bwrdd? Mwy o fanylion yma.