Jump to content

22 Chwefror 2019

Ffurfio'r Grŵp Annibynnol

Ffurfio'r Grŵp Annibynnol
Mae Georgina, eich gohebydd gwleidyddol arferol ar y tudalennau hyn, wedi hedfan ar draws Môr Iwerydd yr wythnos hon i weld gwlad sydd wedi'i hollti'n ddwfn a'i dal mewn merddwr gwleidyddol a achoswyd gan ei harweinydd, tra bod yr wrthblaid yn ymbaratoi am frwydr ddwy flynedd hir gyda'i hunan. Doedd dim rhaid iddi fod wedi gadael.


Wrth i'r sibrydion am hollt Llafur gynyddu unwaith eto nos Sul, daeth yn amlwg ei fod yn un go iawn y tro hwn, a wyddem ni ddim faint o ddrama fyddai'n ddilyn. Roedd naws ddigalon cynhadledd i'r wasg gyntaf y Grŵp Annibynnol wedi synnu rhai, ond roedd y poen a deimlai llawer o'r saith Aelod Seneddol a adawodd yn amlwg , gyda rhai ar y llwyfan wedi bod yn aelodau o'r Blaid Lafur am dros hanner canrif. Er y gallai gwahaniaethau gwleidyddol rhwng yr arweinyddiaeth a'r saith Aelod Seneddol yn Neuadd y Sir yn Llundain olygu nad oedd y canlyniad hwn yn annisgwyl, yr olygfa o Luciana Berger - un o Aelodau Seneddol mwyaf disglair a mwyaf effeithlon y Blaid Lafur - yn gadael y blaid ar ôl bwlio gwrth-semitig, oedd yn sefyll allan.


Ymateb y Blaid Lafur, o leiaf yn gyhoeddus, oedd galw am i'r blaid ddod at ei gilydd, gyda efallai dim ond datganiad Tom Watson, y Dirprwy Arweinydd, yn dangos difrifoldeb y sefyllfa y mae Llafur ynddi. Tu ôl i'r llenni fodd bynnag, fe wnaeth aildderbyn Derek Hatton, cyn Arweinydd dadleuol Cyngor Lerpwl, i'r blaid a chyhuddiadau pellach o wrth-semitiaeth o fewn yr aelodaeth, at i Joan Ryan ddod yr wythfed Aelod Seneddol i adael.


Yn y cyfamser, roedd symudiadau ar ochr arall y Tŷ, gydag ymosodiad diflewyn ar dafod ar y Prif Weinidog gan Heidi Allen, Anna Soubry a Sarah Wollaston wrth iddynt gyhoeddi mai hwy fyddai'r Aelodau Seneddol Ceidwadol cyntaf i ymddiswyddo ac ymuno â'r grŵp newydd. Roedd y gwahaniaeth mewn cywair yn drawiadol, gyda'r tair cyn Geidwadwraig yn edrych fel bod pwysau'r byd wedi'i godi oddi ar eu hysgwyddau drwy iddynt adael. Er fod eu gofynion ar Brexit, a'u dewis am 'Bleidlais y Bobl' bob amser yn mynd i fod yn dir cyffredin gyda'u cydweithwyr newydd a adawodd Lafur, ymosodiad Allen ar y modd y caiff Credyd Cynhwysol ei reoli oedd efallai fwyaf diddorol.


Os yw'r Grŵp Annibynnol i ddod yn fwy na chyfrwng diben arbennig i rwystro Brexit, ac yn dod yn blaid wleidyddol, bydd ei gamau nesaf yn hollbwysig. Bydd canfod tir cyffredin a sefyllfaoedd polisi cydlynol yn bwysig i grŵp sydd bellach â'r un nifer o Aelodau Seneddol â'r Democratiaid Rhyddfrydol. Fodd bynnag, nid mater rhwydd fydd uno Aelodau Seneddol a safodd ar faniffesto gwrth-lymder cryf Jeremy Corbyn ddim ond 20 mis yn ôl gyda rhai a gefnogodd doriadau eang i'r sector cyhoeddus dros y 9 mlynedd.


Mae sôn cynyddol am etholiad, a gall ymadawiad Aelodau Seneddol Ceidwadol yn neilltuol fod yn sbardun i'r Prif Weinidog alw am bleidlais gynnar i ddatgloi sefyllfa annatrys Brexit. Bydd polau cynnar sy'n rhoi'r Grŵp Annibynnol ar 14% yn profi'n ddiwerth os cânt eu dal heb y strwythur a'r cyllid i fod ag ymgeiswyr ym mhob man. Os yw'r Prif Weinidog yn galw etholiad, byddai'n ddoeth nodi, yn groes i'r gred gyffredin, fod dyfodiad yr SDP mewn gwirionedd wedi gostwng mwyafrif Margaret Thatcher.


Os oes her etholiadol debyg i'r ddwy blaid fawr i ddilyn, yna bydd yn sicr y bydd yn rhaid i'r grŵp newydd ehangu ei orwelion. Dim ond grŵp heb unrhyw gynrychiolaeth o Gymru a'r Alban fedrai fod wedi baglu ar draws enw'n cynnwys y gair 'annibynnol'!


Efallai na fydd absenoldeb cynrychiolaeth o'r cenhedloedd datganoledig yn parhau yn llawer hirach, gyda sibrydion cryf am ddyfodol Ian Murray, Aelod Seneddol Llafur yr Alban. I lawer o Aelodau Seneddol Llafur yng Nghymru, er na wnaeth Owen Smith ddim i dawelu'r dyfroedd am ei ddyfodol ei hun, gall fod yn rhy anodd i adael eu plaid tra'i bod yn llywodraethu ym Mae Caerdydd.


Ar hyn o bryd ac yn y dyfodol agos, Brexit fydd yn uno'r teulu gwleidyddol newydd hwn, gyda'r set ddiweddaraf o bleidleisiau ar gynnig y Prif Weinidog y prawf cyntaf o'u nerth gwleidyddol. Pe byddai'r Prif Weinidog yn wynebu cael ei threchu eto, a bod rebeliaid yn methu gorfodi ail refferendwm, efallai y bydd yn rhaid i'r clipfyrddau fod yn barod ar gyfer Etholiad Cyffredinol a allai ddod â Stori'r Grŵp Annibynnol i ben cyn iddi ddechrau.