Etholiad heb fod mor gyffredinol - Lle tai
Heb fod yn annisgwyl, mae polau gwleidyddol ar y materion allweddol yn gosod Brexit, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac addysg ar y brig yn ymgyrch yr etholiad cyffredinol cyflym yma. Gwyddom y bydd y meysydd hyn yn parhau i fod yn bynciau poeth wrth i ni agosáu (a mynd tu hwnt) i 8 Mehefin.
Yn amlach na pheidio, mae tai tuag at ganol unrhyw restr o feysydd blaenoriaeth. Mae hynny er cyd-destun argyfwng tai ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, yr angen i fynd i'r afael â digartrefedd a hybu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy ansawdd uchel.
Mae materion tai yn bellgyrhaeddol a phersonol. Gall cartrefi cynaliadwy ansawdd uchel a fforddiadwy a gwasanaethau tai sy'n ateb y galw gael effaith enfawr ar ein system gofal iechyd, cyrhaeddiad addysgol a llesiant cyffredinol. Gwyddom fod aelodau CIH Cymru yn gweithio ar reng flaen gwasanaethau tai yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r bobl hynny sydd fwyaf o angen ein help - o gefnogi pobl i ganfod eu ffordd o amgylch y system llesiant cymhleth, i gynllunio cymunedau cynhwysol lle aiff tai ac adfywio law yn llaw.
Felly pan mae pobl yn sôn am fod eisiau gwell addysg ar gyfer eu plant, neu gynnydd yn safonau eu gwasanaethau iechyd lleol, byddem yn dadlau fod cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn rhan fawr o alluogi hynny. Mae dau alluogydd clir yn hyn yr ydym ni, ynghyd â'n cyd-aelodau yng nghyngrair Cartrefi i Gymru, yn gryf o'i blaid. Yn gyntaf, mae angen i'r system llesiant sicrhau y gall pawb gael mynediad i gartref fforddiadwy. Dengys ein hymchwil fod ymestyn Credyd Cynhwysol, y cap ar Lwfans Tai Lleol a'r cap cyffredinol ar fudd-daliadau yn cael effaith negyddol ar ragolygon pobl ar hyn o bryd yn hytrach na galluogi unigolion a theuluoedd i sicrhau cynnydd.
Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Mae'r targed ei hunan yn uchelgeisiol ac mae hynny cyn i ni ddechrau meddwl am y camau mae'n rhaid i ni eu cymryd i sicrhau fod cartrefi yn gynaliadwy, fforddiadwy ac addas ar gyfer y dyfodol. Mae diwydiant adeiladu sy'n fedrus, yn cael ei gefnogi ac sydd ag adnoddau da yn hollbwysig i'r mudiad tai. Er bod Brexit yn creu ansicrwydd, ni allwn adael i hynny dynnu sylw o'r angen i wthio ymlaen gyda chynyddu cyflenwad.
Mae CIH Cymru yn falch i fod yn rhan o gynghrair Cartrefi i Gymru wrth i ni fynd ati i roi sylw i sut mae prif bynciau'r etholiad yn effeithio ar waith swyddogion tai ledled Cymru ddydd ar ôl dydd a hefyd sut mae'r swyddogion hynny yn effeithio ar y pynciau hynny.