Jump to content

02 Gorffennaf 2024

Etholiad Cyffredinol 2024: Bwriadau pleidleisio gyda 48 awr I fynd

Etholiad Cyffredinol 2024: Bwriadau pleidleisio gyda 48 awr I fynd

Wrth i ymgyrchoedd etholiad cyffredinol 2024 gyrraedd eu dyddiau olaf, mae ein rheolwr polisi a materion allanol Bethan Proctor yn edrych ar y polau diweddaraf, a’r hyn y gallai’r enillydd tebygol ei olygu ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru.

Mae cyfnod chwech wythnos yr etholiad bron â thynnu i’w derfyn wrth i ni symud yn nes at y diwrnod pleidleisio. Dengys y pôl bwriad pleidleisio diweddaraf gan Ipsos Mori fod Llafur wedi llwyddo i aros gryn dipyn o flaen y Blaid Geidwadol gan arwain o 33 pwynt, ond er hyn, mae’r ddwy brif blaid yn is na lle gwnaethant ddechrau (Llafur gan un pwynt a’r Ceidwadwyr gan bedwar pwynt).

Y Democratiaid Rhyddfrydol ac yn fwy felly Reform UK a welodd eu cyfran o’r bleidlais mewn polau yn cynyddu yn ystod yr ymgyrch.

Ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol, er fod y blaid yn cael canran is yn y polau na’r 11.6% o’r bleidlais a gawsant yn etholiad 2019, gallai pleidleisio tactegol a phleidlais fwy effeithiol weld y blaid yn dyblu nifer eu seddi.

Bu cynnydd mawr yn y gefnogaeth i Reform UK ar ôl i Nigel Farage gyhoeddi y byddai’n sefyll fel ymgeisydd ac - er ymgyrch helbulus gyda un ymgeisydd Reform UK yn dychwelyd at y Torïaid oherwydd dadrithiad gydag ymddygiad y blaid – rhagwelir y bydd yn ennill nifer o seddau.

Mae’n rhaid rhoi cafeat ar y rhifau hyn sef eu bod yn seiliedig ar sampl cymharol fach (er gynrychioladol) ac nad ydynt yn rhoi ystyriaeth i faterion lleol. Ymhellach, gall pleidleiswyr newid eu meddyliau – fel y dengys ymchwil Ipsos Mori a gyhoeddwyd ym mis Mehefin: Dywedodd mwy nag un mewn tri y gallant newid eu meddwl cyn yr etholiad (36%). Ar y cam hwn ym mis Rhagfyr 2019 roedd yn 27%. Dywedodd 44% o’r pleidleiswyr Ceidwadol cyfredol a 45% o’r Democratiaid Rhyfeddol y gallant newid eu meddwl o gymharu â 33% o bleidleiswyr Llafur a 29% o gefnogwyr Reform UK.

Bwriadau yng Nghymru

Mae’r bwriadau pleidleisio yng Nghymru yn debyg i’r hyn a welir ar draws gweddill y DU ond gydag ychydig mwy o gefnogaeth i Lafur, ac ychydig yn llai i’r Ceidwadwyr. Dengys pôl YouGov fod Llafur ar 45% a’r Ceidwadwyr ar 18% (ar 3 Mehefin 2024).

Mae’n anos rhagweld beth mae’r polau yn ei olygu mewn rhai etholaethau. Y seddi i gadw golwg arnynt fydd Bro Morgannwg, Caerfyrddin, Ynys Môn, Aberhonddu, Sir Faesyfed a Chwm Tawe, Sir Fynwy a Sir Drefaldwyn.

Bydd Llafur yn gobeithio ennill pob un o’r seddi hynny, ond mae ei ffocws allweddol ar Fro Morgannwg a Chaerfyrddin. Mae Aberhonddu, Sir Faesyfed a Chwm Tawe yn ras tri cheffyl rhwng Llafur, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol ac mae pethau’n llawer rhy agos i ragweld y canlyniad ar hyn o bryd.

Er bod y Ceidwadwyr wedi diddymu cefnogaeth i’w ymgeisydd yn Sir Fynwy, Craig Williams, am sgandal betio, gallai hyn fod yr unig sedd y maent yn eu hennill yng Nghymru. Enillodd Plaid Cymru bedair o’r 40 sedd yng Nghymru yn 2019, fodd bynnag yn dilyn newidiadau ffiniau a arweiniodd at i Gymru fod â 32 sedd, bydd yn anodd i’r Blaid ailadrodd y perfformiad hwnnw.

Llywodraeth nesaf y DU a’i blaenoriaethau tai

Ni chafodd unrhyw bleidleisiau eu cyfri eto a gall llawer newid rhwng nawr a dydd Iau 4 Gorffennaf, fodd bynnag y gred gyffredinol yw mai’r Blaid Lafur fydd yn ennill y nifer fwyaf o seddi. Os neu pryd y mae Llafur yn ffurfio’r llywodraeth nesaf, bydd yr heriau am gyflenwad tai, digartrefedd, datblygu a datgarboneiddio yn faterion allweddol y bydd angen iddi fynd i’r afael â nhw.

Mae ymrwymiadau maniffesto y DU Llafur yn cynnwys ystod o ymrwymiadau cysylltiedig â thai cymdeithasol i gynyddu’r cyflenwad – er enghraifft adeiladu 1.5 miliwn o gartrefi o fewn pum mlynedd, diddymu achosion troi allan ‘dim bai’ Adran 21 a chryfhau cynllunio.

Mae’n bwysig nodi bod y cyfnod rhybudd ar gyfer achosion troi allan dim bai Adran 21 eisoes wedi ei gynyddu i chwe mis dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) – ond nid yw cymdeithasau tai Cymru yn defnyddio’r math yma o rybudd.

Mae Llafur hefyd wedi lansio ei faniffesto Cymreig sy’n rhoi sylw i sut y gallai’r ddwy lywodraeth Lafur gydweithio “dros ddyfodol Cymru”. Mae’r maniffesto yn cefnogi uchelgeisiau tai Llafur Cymru yn cynnwys cyflenwi 20,000 o gartrefi newydd ar rent cymdeithasol, cynyddu’r tir sydd ar gael ar gyfer tai cymdeithasol, ymestyn y cynllun Cyorth Prynu a mynd i’r afael â pherchnogaeth ail gartrefi.

Mae’r maniffesto hefyd yn sôn am y cyfleoedd ar gyfer cydweithio o gael lywodraeth Lafur yn San Steffan a llywodraeth Lafur yng Nghymru. Byddai’r ddwy lywodraeth yn cydweithio i ddiwygio rheolau iawndal prynu gorfodol i wella cynnull tir a chyflymu cyflenwi safleoedd. Maent hefyd yn ymrwymo i ailadeiladu capasiti adrannau cynllunio.

Ein galwadau i Lywodraeth nesaf y DU

Rydym hefyd wedi gwneud nifer o alwadau gyda phartneriaid:

  • Ynghyd â mwy na 50 o sefydliadau eraill, fe wnaethom lofnodi llythyr agored traws-sector at Keir Starmer a Rishi Sunak, yn galw ar y llywodraeth newydd i roi diwedd ar dlodi a chaledi yn y Deyrnas Unedig drwy greu Gwarant Hanfodion.

  • Fel aelod o gynghrair Cartrefi i Bawb Cymru, fe wnaethom ddathlu set o ofynion etholiad cyffredinol, yn galw ar Lywodraeth y DU i ymrwymo i weithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai. Mae’r gynghrair hefyd yn galw ar ymgeiswyr seneddol yng Nghymru i ymrwymo i weithio yn San Steffan i sicrhau newidiadau penodol i feysydd polisi a gadwyd sy’n cael effaith negyddol ar ddeilliannau tai yng Nghymru ar hyn o bryd.

  • Gyda’r ffederasiynau tai eraill yn y Deyrnas Unedig sy’n bartneriaid i ni (National Housing Federation, Scottish Federation of Housing a Northern Ireland Federation of Housing Associations), rydym wedi ysgrifennu ar y cyd at bob un o’r arweinwyr pleidiau yn eu hannog i roi diwedd ar dlodi tanwydd a chreu tariff ynni cymdeithasol.

Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid ar ôl yr etholiad ar 4 Gorffennaf i wthio am y newidiadau rydym angen eu gweld gan lywodraeth newydd yn San Steffan. Byddwn hefyd yn anelu i adeiladu a pharhau perthynas gydag Aelodau Seneddol allweddol a gweinidogion er mwyn sicrhau y gall cartrefi ansawdd da, fforddiadwy fod yn hawl sylfaenol i bawb.