Jump to content

28 Tachwedd 2016

Estyn Allan gyda The Prince's Trust Cymru

Mwy o wybodaeth am The Prince’s Trust sy’n noddi mae Prentisiaid Cymru 2016

Estyn Allan gyda The Prince's Trust Cymru

The Prince's Trust yw'r brif elusen ar gyfer ieuenctid yn y Deyrnas Unedig, yn cefnogi pobl ifanc i gael rheolaeth ar eu bywydau. Rydym yn cynghori a chefnogi pobl ifanc rhwng 13 a 30 oed i ddatblygu ei sgiliau a’i hyder ac yn rhoi help llaw iddynt i symud i waith, addysg neu hyfforddiant. Mae’r datblygiad personol a phroffesiynol mae’n rhaglenni yn ei gynnig yn gwneud gwahaniaeth sylweddol a hirdymor i fywydau’r bobl ifanc a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt.

Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc sydd ar gyrion cymdeithas drwy feithrin eu gwytnwch a chodi ymwybyddiaeth am yr heriau sy'n eu hwynebu.

Mae 87c o bob £1 yn cael ei wario yn uniongyrchol ar ddatblygu a darparu rhaglenni a gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc

The Prince's Trust yng Nghymru

Mae The Prince's Trust Cymru yn gweithio gyda phobl ifanc Cymraeg drwy ein swyddfeydd yn y Rhyl, Llangennech, Tonyrefail a'n canolfan ddarparu yng Nghaerdydd.

Y llynedd fe wnaethom gefnogi dros 3,000 o bobl ifanc, ond gwyddom fod mwy i’w wneud. Ar hyn o bryd mae dros 58,000* o bobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yng Nghymru, gyda llawer ohonynt yn ddiwaith hirdymor. (* 16-24 mlwydd oed, Arolwg Poblogaeth Blynyddol 31 Rhagfyr 2015).

Arhosodd cyfradd diweithdra Cymru ym mis Mehefin 2016 (17%) yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (15%). Gall diweithdra hirdymor gael effeithiau andwyol ar fywydau pobl ifanc gan arwain at hunan-barch isel, pryder a hyd yn oed iselder. Mae nifer yn wynebu heriau eraill megis tyfu fyny mewn gofal, symud ymlaen o gefndir troseddol, digartrefedd, byw gydag anabledd neu mewn tlodi. Mae’r unigolion a ddaw ar ein rhaglenni ni yn aml heb y rhwydweithiau cefnogi maent eu hangen i symud ymlaen gyda’u bywydau. Dengys adroddiad a gyhoeddwyd fel rhan o ddigwyddiadau ein 40fed pen-blwydd dystiolaeth glir fod cysylltiad cryf rhwng ansymudedd cymdeithasol â diffyg “cyfleoedd etifeddol”. Yn ôl arolwg, dywedodd dros hanner (52%) o bobl ifanc yng Nghymru eu bod heb dderbyn unrhyw gefnogaeth wrth chwilio am swydd.

Mae The Prince's Trust Cymru yn gweithredu drwy weithio yn uniongyrchol gyda’r bobl ifanc a gefnogwn a gyda phartneriaid sy'n ychwanegu gwerth at ein rhaglenni ac yn cyfoethogi profiadau pobl ifanc. Gweithiwn gydag ysgolion er mwyn darparu rhaglen addysg, a gyda thrawsdoriad o gyflogwyr sy'n cynnig eu harbenigedd a phrofiad er mwyn lles bobl ifanc sydd yn edrych yn daer am waith.

Mae gan yr ymddiriedolaeth fframwaith gref er mwyn parhau i gefnogi pobl ifanc wedi iddynt gwblhau un o ein rhaglenni oherwydd ein bod yn benderfynol o gefnogi eu taith tuag at ganlyniadau cynaliadwy a chadarnhaol. Rydym yn falch bod 77% o’r bobl ifanc a gafodd eu cefnogi gan yr ymddiriedolaeth llynedd wedi symud ymlaen i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant ar ôl iddynt gyflawni un o’n cyrsiau. Rydym yn benderfynol o godi’r canran yma hyd yn oed yn uwch.

Manteision gweithio partneriaeth gyda The Prince's Trust Cymru

Rydym yn arbenigwyr ar estyn allan at bobl ifanc a’u cefnogi i gael rheolaeth dros eu bywydau.

Mae gennym rwydwaith helaeth o bartneriaid yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sy'n ychwanegu gwerth i'n gwaith gan ddarparu atgyfeiriadau, cyflwyno rhaglenni, profiad gwaith, addysg, cyfleoedd hyfforddiant a chymorth arbenigol i bobl ifanc.

Rydym yn awyddus i ddatblygu partneriaeth gyda Cartrefi Cymunedol Cymru a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ledled Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn cefnogi’r sawl sydd galetaf eu cyrraedd.

Mae ein systemau ansawdd trylwyr, monitro effeithiol a gwerthuso rheolaidd yn sicrhau darpariaeth o safon.

Mae gennym hefyd rwydwaith faith o fentoriaid gwirfoddol sydd yn darparu eu gwybodaeth ac arbenigedd er mwyn cefnogi ein pobl ifanc i sicrhau deilliannau cadarnhaol.

Siaradwch gyda ni am sut y medrwn gydweithio. https://www.princes-trust.org.uk/