Elusennau'n galw am ddiogelu cyllid hanfodol Cefnogi Pobl
Mae Cartrefi Cymunedol Cymru a Cymorth Cymru yn cymryd rhan heddiw mewn Diwrnod Gweithredu i dynnu sylw at bwysigrwydd rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi 60,000 o bobl agored i niwed ledled Cymru bob blwyddyn. Y Diwrnod Gweithredu yw cam cyntaf lansio ymgyrch 'Gadewch i ni barhau i Gefnogi Pobl' sy'n dathlu'r gwaith hanfodol a wneir fel canlyniad i gyllid Cefnogi Pobl, yn ogystal â phle i Lywodraeth Cymru ddiogelu’r ffrwd cyllid ataliol yng nghyllideb ddrafft eleni. Mae'r rhaglen Cefnogi Pobl yn helpu bron i 60,000 o bobl yn flynyddol a allai fod yn agored i niwed ac ar yr ymylon i fyw'n annibynnol yn eu cymunedau. Cafodd dros 750,000 o fywydau eu trawsnewid ers sefydlu'r rhaglen yn 2004.
Mae'r rhaglen Cefnogi Pobl yn wasanaeth ataliol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau'r rhai sy'n cael budd ohoni, gan gynyddu eu gwytnwch a'u gallu i gynnal cartref sefydlog a gostwng y galw ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r rhai a gaiff help yn cynnwys rhai sy'n dioddef o gam-drin domestig, rhai gydag anawsterau dysgu neu anghenion iechyd meddwl, pobl sydd wedi dioddef trawma, ymadawyr gofal, cyn aelodau o'r lluoedd arfog, pobl dan fygythiad digartrefedd, a phobl hŷn sydd angen cefnogaeth. Er cwtogi cyllideb Cefnogi Pobl gan £10m yn 2014/15, croesawodd Cartrefi Cymunedol Cymru a Cymorth Cymru iddi gael ei diogelu yng nghyllideb y llynedd ac maent yn annog Llywodraeth Cymru i'w diogelu eto yn y gyllideb ddrafft a ddisgwylir ym mis Hydref.
Gyda chyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hydref y llynedd y gosodir cap ar fudd-dal tai ar y gyfradd Lwfans Tai Lleol ar gyfer tenantiaid yn y sector tai cymdeithasol, mae'r dyfodol yn bryderus o ansicr. Mae lefelau rhent uwch mewn tai arbenigol ar gyfer pobl agored i niwed, ddigartref, anabl a phobl hŷn oherwydd ei bod yn ddrutach i'w hadeiladu a'u rheoli. Dengys ymchwil CHC fod 77% o lety penodol (yn cynnwys hostelau ar gyfer y digartref a llochesi ar gyfer rhai sy'n dioddef o gam-drin domestig) a gaiff eu rheoli gan gymdeithasau tai ar hyn o bryd dros gyfradd gyfredol LHA. Felly ni fyddai llawer o gynlluniau yn hyfyw pe na byddai'r math yma o lety yn cael ei eithrio o'r cap. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cynnal adolygiad i'r effaith a disgwylir cyhoeddiad yn yr wythnosau nesaf. Gyda'r lefel hon o ansicrwydd eisoes yn bodoli ar draws y Deyrnas Unedig, mae trefnwyr yr ymgyrch yn annog Llywodraeth Cymru i roi peth sicrwydd a diogelu ffrwd cyllid Cefnogi Pobl ar gyfer rhaglen sy'n amlwg yn gweithio.
Mae'r rhaglen Cefnogi Pobl wedi helpu miloedd o bobl, llawer ohonynt yn debyg i Aaron. Mae Aaron wedi byw gydag anwylder deubegwn ers pan oedd yn 23 oed. Fe wnaeth cymhlethdodau o bresgripsiwn lithiwm niwed i'w arennau ac arwain at diabetes. Arweiniodd salwch yn y teulu at iddo ddatblygu PTSD ac iselder. Cynigiodd y Wallich - elusen digartrefedd - gefnogaeth i Aaron, a ariannwyd gan Cefnogi Pobl. Dywedodd, '"Fy amser yn cael fy nghefnogi gan y Wallich yw'r adferiad cyflymaf a gefais erioed. Er fy mod yn dal i gael fy nghefnogi gan Tai yn Gyntaf Môn a'r Llwybr Braenaru, mae'n teimlo fel bod gen i lwybr i'w ddilyn er mwyn cael gwellhad ac nid wyf erioed wedi cael hynny o'r blaen."
Dywedodd Auriol Miller, Cyfarwyddydd Cymorth Cymru, y corff ymbarél ar gyfer sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ar yr ymylon ac mewn risg yng Nghymru: "Rydym yn gweithredu mewn amgylchedd ansicr ar hyn o bryd. Mae'r rhaglen Cefnogi Pobl yn ffrwd cyllid effeithlon tu hwnt sydd â hanes o lwyddiant mewn ataliaeth. Gallai toriad o 10% olygu y byddai 6,000 yn llai o bobl yn cael eu cefnogi ac efallai yn llithro drwy'r rhwyd. Mae'n hollbwysig diogelu'r ffrwd cyllid yma ar gyfer y dyfodol."
Ychwanegodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru, corff aelodaeth cymdeithasau tai yng Nghymru: "Rydym yn deall y pwysau ar gyllideb Llywodraeth Cymru, ond yn y pen draw bydd diogelu'r gyllideb Cefnogi Pobl yn gostwng y pwysau ar gyllidebau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ymhellach i lawr y llinell ac yn cefnogi miloedd o bobl i fyw bywydau annibynnol fel canlyniad i ymyriad cynnar.