Jump to content

22 Rhagfyr 2021

Edrych yn ôl ar 2021 – buddsoddi ac adeiladu cartrefi fforddiadwy yng Nghymru

Edrych yn ôl ar 2021 – buddsoddi ac adeiladu cartrefi fforddiadwy yng Nghymru

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi gweld mwy o fuddsoddiad mewn tai cymdeithasol yng Nghymru nag erioed, ac un sydd wedi gweld heriau yn cynyddu ar gyfer cymunedau, y rhai sy’n adeiladu cartrefi a’r rhai sy’n byw ynddynt: Laura Courtney.

I fi, dyma rai o’r pethau sy’n sefyll allan:

  • Mawrth: Rhoddodd Llywodraeth Cymru hwb o £50m i’r Grant Tai Cymdeithasol, gan gynyddu ei gyfanswm buddsoddiad i £250m – bedair gwaith yn fwy nag yn 201 6
  • Ebrill: Cyflwynodd cymdeithasau tai yr achos i gartrefi fod yn greiddiol ym maniffesto pob plaid wleidyddol cyn yr etholiadau i Senedd Cymru ym mis Mai 2021
  • Mai: Ymrwymodd y Llywodraeth newydd yng Nghaerdydd i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel dros dymor newydd y Senedd
  • Medi: Cynyddu ymwybyddiaeth o’r pwysau ar gadwyni cyflenwi, gyda chynnydd ym mhrisiau deunyddiau a costau byw.
  • Hydref: Rhoddodd adolygiad gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru am gyllidebu tymor hirach ar draws amrywiol feysydd polisi yn cynnwys tai.
  • Tachwedd: Cwblhau cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, gyda phwyslais ar gynyddu mynediad i dai fforddiadwy, ansawdd uchel a gweithredu i fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi mewn cymunedau gwledig.
  • Rhagfyr: Cyhoeddodd llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2022/23 a thu hwnt. Mae'n cynnwys rhaglen fuddsoddi aml-flwyddyn i gefnogi cyflwyno'r 20,000 o gartrefi cymdeithasol effeithlon o ran ynni i'w rhentu a addawyd yn y Rhaglen Lywodraethu. Gwyliwch ein crynodeb o'r cyhoeddiad yma.

Fel bob amser, bydd cymdeithasau tai yn cyfateb buddsoddiad y Llywodraeth mewn cartrefi newydd dan fframwaith grant newydd yn cyfuno benthyca preifat gyda buddsoddiad y llywodraeth i wneud buddsoddiad cyhoeddus i ymestyn ymhellach.