Jump to content

11 Medi 2019

Dod yn sefydliad gyda mwy o ffocws digidol ac arloesol

Dod yn sefydliad gyda mwy o ffocws digidol ac arloesol
Mae Sally Meecham Cyfarwyddwr y Rhaglen Arloesi Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru yn siarad am bwysigrwydd sefydlu gweledigaeth a sut i arwain. Mae'n dweud wrthym am ei phrofiad yn cyflwyno prosiectau trawsnewid proffil uchel ac arloesol.


"Dros y blynyddoedd, rwyf wedi mynd mewn i helpu dod â thimau at ei gilydd, rhoi cefnogaeth a gweithio gyda thimau uwch i sefydlu gweledigaeth a diwylliant. Rwy'n helpu sefydliadau traddodiadol i edrych sut y gallant fod â mwy o ffocws digidol ac arloesi a darparu gwasanaethau dan arweiniad defnyddwyr.


"Rwyf wedi gweithio gyda llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, y trydydd sector a'r sector preifat ac rwy'n gweithio ar hyn o bryd gyda Llywodraeth Cymru, yn arwain ymchwil darganfod/defnyddiwr yn edrych ar y cyfle am hyb Gwasanaethau Sector Cyhoeddus Digidol i gefnogi dylunio a darparu gwasanaethau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.


"Mae angen i ni wella darpariaeth gwasanaeth ond mae angen i ni ddechrau drwy ddeall yr hyn a olygwn pan ddywedwn ein bod eisiau bod yn fwy 'digidol', ac mae hefyd angen i ni ateb disgwyliadau ein cwsmeriaid a'n pobl.


"Os oes angen i fusnes drawsnewid, mae'n rhaid cael cefnogaeth yr holl sefydliad, ac mae'n rhaid iddi fod yn broses barhaus o wella. Mae angen i rolau a sgiliau newid, yn ogystal â llywodraethiant a strwythur.


"Mae angen i bawb ohonom sylweddoli fod gennym heriau, a'n bod bob amser mewn proses o newid mewn un ffordd neu'i gilydd. Mae bod ar daith trawsnewid yn dod â llawer o heriau, ond mae hefyd yn cynnig cyfleoedd enfawr i newid sut y gweithredwn. Yn bwysicaf oll, allwn ni ddim ofni methu.


"Fel rhan o'r gweithdy Trawsnewid Busnes gyda Cartrefi Cymunedol Cymru, byddaf yn trafod beth sydd wedi gweithio a beth nad yw wedi gweithio dros y blynyddoedd. Yn y pen draw serch hynny, os yw sefydliad angen gwneud newidiadau er gwell a dod yn un mwy digidol, mae angen iddo ddechrau ar y brig."


Archebwch eich lle yn ein gweithdai Trawsnewid Busnes newydd yma.