Jump to content

07 Mawrth 2019

Dod y gorau

Dod y gorau
Araith llawn Stuart Ropke o Cynhadledd Llywodraethiant 2019:


Prynhawn da bawb. Gobeithiaf i chi fwynhau bore cyntaf ein Cynhadledd Llywodraethiant ac i chi gael cyfle i ymlacio dros ginio. Mae'n wych gweld cynifer o aelodau bwrdd a staff yma o gymdeithasau tai ledled Cymru. Dywedodd Rhian wrthyf, sy'n gwneud gwaith gwych yn sicrhau fod ein cynadleddau'n rhedeg yn llyfn, mai dyma'r gynhadledd fwyaf o ran nifer y cynrychiolwyr i Cartrefi Cymunedol Cymru ei chynnal erioed.


Er yr hoffwn feddwl fod hynny oherwydd safon y rhaglen y gwnaethom ei pharatoi - rwy'n credu mai'r hyn y mai'n ei ddweud yn bennaf oll yw fod aelodau bwrdd cymdeithasau tai yn bobl anhygoel o ymroddedig, sydd eisiau rhwydweithio gyda'u cyd-aelodau ac ehangu eu gwybodaeth a'u dysg. Rydych i gyd yn cymryd eich cyfrifoldebau o ddifri calon a hoffwn ddiolch i bawb ohonoch am eich gwaith caled a'r oriau a roddwch i wneud yn siŵr fod eich cymdeithasau a'r mudiad cymdeithasau tai yn ehangach yng Nghymru y gorau y gall fod.


Mae rôl aelod bwrdd yn heriol ac yn mynd yn gynyddol felly. Mae ystod y pynciau yn y gynhadledd hon yn dyst o'r rhychwant materion sydd angen i aelodau bwrdd eu hystyried. Ond yn gryno, chi yw'r bobl sy'n gyfrifol am sicrhau fod gan eich sefydliad ddyfodol cynaliadwy a'i fod yn gweithredu mewn ffordd gadarn a moesegol gyda digon o adnoddau a galluedd i gyflawni ei genhadaeth.


Er mai eich sefydliad eich hun yw'ch prif gyfrifoldeb wrth gwrs, mae hwn yn fudiad cydgysylltiedig. Rydym yn rhannu enw da rhyngom, rydym yn aml yn cyflwyno ein hunain i'r Llywodraeth a gwneuthurwyr penderfyniadau eraill fel corff cydlynol o sefydliadau - yn gyfrifol am adeiladu mwyafrif helaeth tai cymdeithasol ledled Cymru, gwario dros £1 biliwn yn economi Cymru ac yn cyflogi mwy na 9,000 o bobl yn uniongyrchol.


Ydi, mae ein nerth yn gorwedd yn amrywiaeth cymdeithasau tai o bob math a maint yn gweithredu ar draws Cymru, ond hefyd yn yr effaith a gawn fel sefydliadau ar y cyd sy'n buddsoddi ac wedi buddsoddi mewn cymunedau am yr hir dymor.


Hon yw'r bumed cynhadledd Llywodraethiant y cefais y fraint o siarad ynddi fel Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru. Yn fy nghynhadledd gyntaf ddechrau 2015, dywedais mai ein huchelgais oedd y dylid gweld cymdeithasau tai fel y sefydliadau gyda'r llywodraethiant gorau yng Nghymru. Ac rwy'n credu ein bod yn y cyfnod hwnnw wedi gweld naid ymlaen nid yn unig yn ansawdd llywodraethiant ond hefyd yn y gydnabyddiaeth o'i bwysigrwydd. Ond mewn byd lle mae'n rhaid cymryd penderfyniadau cynyddol anodd, ni ddylem byth roi'r gorau i'n herio ein hunain a gwella.


Dyna pam i ni, fel eich corff cynrychioli, adolygu'r Cod Llywodraethiant gan sefydlu cyfres o egwyddorion lefel uchel yr ydych chi fel byrddau yn eu rhoi ar waith mewn ffordd sy'n gweithio i'ch sefydliad chi.


I'ch cefnogi i ddefnyddio'r cod, rwy'n hynod falch ein bod wedi lansio ein cynnig hyfforddiant i fyrddau. Mae'r cynnig yn seiliedig ar egwyddorion ein Cod Llywodraethiant ac mae'n rhoi cyfleoedd i'r rhai sy'n aelodau bwrdd newydd i ymgynefino gyda'r sector, yn ogystal â chyfleoedd i aelodau bwrdd profiadol adolygu a myfyrio ar eu sgiliau. Mae hyn yn adeiladu ar y bartneriaeth y gwnaethom ei lansio gyda HQN y llynedd. Gwn fod llawer ohonoch wedi mwynhau eu cyrsiau, ac maent yn rhan allweddol o'r cynnig.


Rwyf hefyd yn falch ein bod wedi ailwampio ein cynnig ehangach i aelodau bwrdd - gan gynnig cyfres newydd o ddigwyddiadau rhwydweithio ar gyfer aelodau bwrdd a gefnogir gan Hugh James a sefydlu Grŵp Cyflenwi Strategol ar gyfer Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion. Mae sefydlu'r Grŵp hwnnw yn sicrhau fod llais aelodau bwrdd yn helpu i osod yr agenda a'r blaenoriaethau ar gyfer ein gwaith fel eich corff cynrychioli a bydd ganddo ddylanwad sylweddol ar y drafodaeth yn ehangach.


Ond nawr wrth i ni wynebu'r dyfodol, byddai'n rhwydd bod yn negyddol. Rydym mewn cyfnod o newid. Pan nad yw'r hen sicrwydd bellach yno. Mae hynny yr un mor wir am gymdeithasau tai a'r byd y gweithiwn ynddo ag yw am yr amgylchedd ehangach.


Byddai'n rhwydd gwangalonni. I synfyfyrio ein bod yn dal i fod heb gonsensws gwleidyddol am y ffordd ymlaen er fod bron dair blynedd wedi mynd heibio ers i'r Deyrnas Unedig bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. I fod yn ddig, bod y ddadl am Brexit i raddau helaeth wedi golygu bod materion, a dweud y gwir, sy'n bwysicach yn cynnwys effaith llymder, y cynnydd mewn digartrefedd, yr argyfwng tai a mater dirfodol newid yn yr hinsawdd ymysg eraill wedi eu gwthio allan o'r penawdau gan y cynllwynio gwleidyddol o amgylch gadael yr Undeb Ewropeaidd.


Mae methiant, ac ydi mae yn fethiant llwyr, system wleidyddol San Steffan yn dwyn Antonio Gramsci i gof. Bydd y rhai ohonoch sy'n gwybod eich damcaniaeth wleidyddol yn gwybod fod Gramsci yn athronydd gwleidyddol o'r Eidal a fu farw yn 1937, yn un o sefydlwyr Plaid Gomiwnyddol yr Eidal a gafodd ei garcharu gan ffasgwyr Mussolini. Efallai mai am y dyfyniad hwn y caiff ei gofio orau serch hynny:


"Mae'r hen yn marw ac ni all y newydd gael eu geni; yn y rhyngdeyrnasiad yma mae amrywiaeth fawr o symptomau afiach yn ymddangos"


Beth bynnag yw eich hathroniaeth wleidyddol bersonol - ni allaf feddwl am well dyfyniad na hwnnw sy'n crynhoi'r anrhefn sy'n bodoli ar hyn o bryd a'r anallu i ddelio gyda'r heriau sy'n wirioneddol gyfrif.


Ond rwy'n gwrthod bod yn ddigalon ac fe ddywedaf pam. Mewn gwirionedd rwy'n optimistaidd. Rwy'n credu ein bod ar foment yng Nghymru sy'n cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth. Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i wneud pethau'n well a gwneud pethau'n wahanol. Adeg pan y gallwn, os ydym yn ddewr fel cenedl, wireddu addewidion datganoli.


Yn gyntaf, Prif Weinidog newydd, Gweinidog Tai yn eistedd unwaith eto wrth fwrdd y Cabinet sydd wedi gwneud yn glir ei bod yn hollol ymroddedig i gynyddu'r nifer o dai cymdeithasol a adeiladwn yng Nghymru. Dwy wrthblaid ym Mhlaid Cymru a'r Blaid Geidwadol sydd ill dwy wedi cyhoeddi strategaethau tai sy'n ymrwymo i gynyddu'n sylweddol y nifer o gartrefi newydd a gaiff eu hadeiladu. Ai consensws wleidyddol ydw i'n ei weld?


Yn ail, disgwyliwn gyhoeddi argymhellion yr Adolygiad ar y Cyflenwad o Dai Fforddiadwy. Adolygiad a gytunwyd gan y Gweinidog Tai blaenorol yn dilyn y prosiect Gorwelion Tai. Mae ein huchelgais yn Gorwelion Tai a ddaeth yn genhadaeth Cartrefi Cymunedol Cymru yn syml - "Cymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb". Ond roedd mwy i'n gweledigaeth ar gyfer cymdeithasau tai na dim ond adeiladu mwy o gartrefi 75,000 ohonynt erbyn 2036.


Erbyn 2020 rydym eisiau i'r holl gartrefi newydd a adeiladwn i fod yn rhai sy'n cynhyrchu bron ddim carbon, ac erbyn 2036 gynifer ag sy'n bosibl o'r cartrefi presennol yr ydym yn berchen arnynt hefyd. Rydym eisiau gweithio mewn partneriaeth gydag eraill ar draws y sector cyhoeddus a phreifat, gan gydweithio i rannu adnoddau a sgiliau lle mae hynny'n gwneud synnwyr. Ac rydym eisio defnyddio ein grym economaidd i hybu cymunedau lleol. Fel mudiad rydym eisoes yn gwario 84 ceiniog o bob punt yng Nghymru - erbyn 2036 rydym eisiau i hynny fod yn 95 ceiniog.


Fe wnaethom alw am adolygiad gan y gwyddem na allai uchelgais ein haelodau gael ei wireddu drwy barhad y status quo. Ddegawd yn dilyn yr adolygiad diwethaf o dai yng Nghymru - roedd yr amser yn iawn i edrych eto ar y system gyfan. Roedd ein tystiolaeth i'r panel adolygu, a gafodd ei lywio gan waith helaeth gyda'n haelodau, yn seiliedig ar dri philer sicrwydd, hyblygrwydd a chydweithredu.


Sicrwydd hirdymor mewn cyllid cyfalaf ar gyfer tai a pholisi rhent sy'n rhoi'r lle canolog i'r gallu i fforddio a rheoli gyda chymdeithasau tai mewn cydweithrediad â'u tenantiaid. Hyblygrwydd i adeiladu'r math o gartrefi gyda'r cyfleusterau mae tenantiaid yn eu gwerthfawrogi. Fframwaith sy'n annog cydweithredu rhwng cymdeithasau tai a gyda llywodraeth leol.


Felly wrth i ni ddisgwyl lansiad adroddiad y panel ddechrau mis Mai - dyma'n hatgoffa am y profion y byddwn yn eu cymhwyso i'r argymhellion a ddaw i'r amlwg. Ydyn nhw'n galluogi mwy o gartrefi i gael eu hadeiladu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai a wynebwn yng Nghymru? A fydd y cartrefi hynny yn wirioneddol fforddiadwy i denantiaid? A fydd y cartrefi hynny o safon uchel ac yn addas i'r dyfodol? Ac a yw'r argymhellion hynny'n galluogi defnyddio potensial y mudiad cymdeithasau tai cyfan i adeiladu cartrefi mewn cymunedau ledled Cymru yn drefol ac yn wledig?


Mae'r heriau sy'n ein hwynebu heddiw yn wahanol i'r rhai a fodolai cyn yr argyfwng ariannol yn 2008. Mae'n beth prin cael cyfle i edrych ar rai o flociau adeiladu pwysicaf system mewn un adolygiad cynhwysfawr. Mae hyn yn wirioneddol yn gyfle na ellir ei wastraffu.


Ac wrth gwrs, os yw'r genedl i lwyddo, mae angen i ni weld Llywodraeth Cymru yn dilyn yr adroddiad gydag ymrwymiad hirdymor ar faint o fuddsoddiad cyfalaf sydd ei angen i adeiladu'r cartrefi rhent cymdeithasol a fforddiadwy mae Cymru gymaint eu hangen. Gwelsom y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad mewn tai cymdeithasol yng Nghymru yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf - ni all y genedl fforddio i'r ymrwymiad hwnnw lacio nawr.


Felly os ydym yn sefyll ar y groesffordd ar gyfer tai, beth am yr economi ehangach yng Nghymru a'r rôl y gall cymdeithasau tai ei chwarae?


Fel sefydliadau sy'n gweithio mewn cymunedau ledled Cymru, yn arbennig ar ôl degawd o lymder enbyd ar wasanaethau cyhoeddus, yn aml ni yw'r asiantaethau gyda'r adnoddau gorau a mwyaf hyblyg y gall ein partneriaid yn y trydydd sector yn ehangach a llywodraeth leol droi atynt. Gall yr economi mewn byd ôl-Brexit yn rhwydd gyflwyno heriau mwy fyth.


Yr wythnos ddiwethaf yn unig, gwelsom weinidogion Llywodraeth Cymru, rwy'n credu yn chwa o awyr iach, yn cydnabod methiant polisi economaidd arferol i hybu twf cynaliadwy a chynhwysol yng Nghymru. Maent yn cefnogi eu geiriau cynnes gyda dull gweithredu newydd gyda £1.5m i brofi ffyrdd arloesol o gefnogi'r economi sylfaenol yng Nghymru ac mae'n rhaid i gymdeithasau tai fod â rhan allweddol yn yr ymagwedd newydd yma.


Bob dydd gwelwn straeon am gwmnïau mawr yn ymateb i'r ansicrwydd economaidd o'n cwmpas drwy ddewis mynd â'u busnes i fan arall, gan adael y rhai sy'n byw mewn llawer o'n cymunedau yn wynebu dyfodol ansicr.


Gan weithredu fel sefydliadau angor, mae gan gymdeithasau tai rôl i'w chwarae wrth gynnig sicrwydd i fusnesau lleol a phobl fydd, fel ni, yn dal yno beth bynnag sy'n digwydd.


Felly wrth i fyrddau wneud penderfyniadau am fuddsoddiad y dyfodol, mae'n rhaid i ni edrych i'r cymunedau lle gweithiwn i adeiladu ar y nerth sydd eisoes yn bodoli, gan annog unigolion, sefydliadau a chymdeithasau i ddod ynghyd, gwireddu a datblygu'r cryfderau hynny.


Ie, ein busnes craidd o ddarparu tai fforddiadwy diogel, ansawdd da a gwasanaethau cysylltiedig ddylai fod ein blaenoriaeth gyntaf bob amser ond caiff llwyddiant ein sefydliadau ei adeiladu ar iechyd y cymunedau y gweithiwn ynddynt a'r cyfleoedd sydd ar gael i'n tenantiaid.


Wrth galon y dull gweithredu hwn, mae'n rhaid i bob cymdeithas tai yng Nghymru feithrin perthynas gyda thenantiaid sydd wedi ei hadeiladu ar ymddiriedaeth ac sy'n wirioneddol dryloyw ac agored.


Mae eich sefydliadau yn gynyddol yn camu lan i'r her o ddarparu'r cartrefi mae Cymru eu hangen, ond wrth i'ch rôl dyfu wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, felly hefyd y craffu. Gan wleidyddion, gan y cyfryngau, ac yn bwysicaf oll gan denantiaid.


Mae'n ddi-os mai trychineb Tŵr Grenfell yw'r enghraifft fwyaf eithafol o chwalfa'r berthynas rhwng tenantiaid a'u landlord, ac mae'n un y mae'n rhaid i ni gyd ddysgu ohoni.


Dylai pawb sy'n byw mewn cartref cymdeithas tai fod yn glir iawn o'r hyn y gallant ei ddisgwyl gan eu landlord yn nhermau'r wybodaeth y mae ganddynt fynediad iddi, y ffordd y caiff eu hymholiadau a'u cwynion eu clywed, a sut y gellir herio a chraffu penderfyniadau landlordiaid.


Gall y ffordd y gwireddwch yr addewid hwn wahaniaethu, yn seiliedig ar eich gwerthoedd a sut mae'ch sefydliad yn gweithredu. Ond mae'n rhaid i ddiwylliant o ymddiriedaeth a thryloywder gael ei yrru gan y bwrdd.


Tra buom yn meddwl am hyn fel sector, mae'n amser i agor y sgwrs ymhellach a datblygu rhywbeth a all ymgysylltu tenantiaid yn yn y drafodaeth mewn modd ystyrlon. Fel y corff sy'n eich cynrychioli, efallai nad ni sydd yn y lle gorau i ymgysylltu mewn ffordd ystyrlon gyda thenantiaid, ond wrth i'r gwaith hwnnw ddatblygu dros y misoedd nesaf, byddwn yn siarad gyda rhai a all wneud hynny.


Mae ein huchelgais fel sector yn enfawr. I sicrhau Cymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb, mae angen i ni fynd â thenantiaid, gwleidyddion a'r rhai sy'n gweithio mewn cymunedau gyda ni. I gyflawni ein huchelgais, mae angen gwneud mwy na dim ond anelu i fod y sefydliadau gyda'r llywodraethiant gorau yng Nghymru, mae angen i ni anelu hefyd i fod y rhai yr ymddiriedir mwyaf ynddynt.