Jump to content

27 Medi 2019

Diwylliant ar gyfer newid yn dechrau gydag arweinyddiaeth gref

Diwylliant ar gyfer newid yn dechrau gydag arweinyddiaeth gref
Mae cydweithio a bod yn agored a thryloyw yn allweddol pan ddaw i drawsnewid ein busnesau yn llwyddiannus. Bydd Kit Wilson, Pennaeth Trawsnewid Dŵr Cymru, yn ymuno â ni ar 23 Hydref i siarad yn ein gweithdy Trawsnewid Busnes ar 'Creu'r Diwylliant Cywir'. Mae'n codi cwr y llen i ni:


"Rwyf bob amser wedi ymwneud â gwasanaeth cwsmeriaid a thrawsnewid, gan weithio i lywodraeth leol yn Lloegr a Chymru cyn ymuno â Dŵr Cymru fel Pennaeth Trawsnewid.


"Gall trawsnewid digidol helpu busnesau i fod yn fwy effeithlon, ond gyda trawsnewid digidol mae'n rhaid bod newid mewn diwylliant a chydnabyddiaeth o bwysigrwydd twf o fewn y sefydliad. Er mwyn llwyddo, dylai timau gael eu cefnogi i ddeall sut y gall newidiadau eu helpu i berfformio'n well a defnyddio eu hamser yn fwy effeithlon fel unigolion.


"Fodd bynnag, gyda thrawsnewid daw rhywfaint o her a chaiff cyflymder newid ei deimlo'n wahanol ar draws y tîm, yn neilltuol gyda phobl a fedrai fod wedi bod gyda'r cwmni ers tipyn. Ond mae angen i ni fedru dangos fod newid yn bosibl.


"Er fod cydweithio mewnol yn allweddol, a bod angen cefnogaeth ar draws pob tîm, mae cydweithio gyda phobl allanol yr un mor hanfodol. Dylem fod yn edrych ar eraill i'n gyrru ymlaen yn nhermau arloesedd ac arfer gorau, ac nid dim ond cwmnïau eraill o fewn yr un sector, ond dysgu o sectorau eraill hefyd.


"Yn y gweithdy ym mis Hydref byddaf yn dangos sut gall busnes fynd ati i drawsnewid a gall cynrychiolwyr roi hynny yng nghyd-destun eu strategaeth eu hunain ar gyfer newid. Yn y pen draw, os ydym eisiau newid diwylliant ein sefydliad, mae angen i ni hynny ddod o'r brig, a chael ei arwain gan esiampl."


Archebwch eich lle yn y Gweithdy Trawsnewid Busnes, Creu'r Diwylliant Cywir, yma.