Jump to content

08 Ionawr 2015

DIWYGIO LLES WEDI GADAEL TENANTIAID CYMRU YM MAGL TLODI

Mae newidiadau i'r system lles wedi taro'n galetach ar denantiaid tai cymdeithasol Cymru na phobl mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Wrth gydnabod y canfyddiadau, dywedodd Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) - corff aelodaeth cymdeithasau tai Cymru - y bydd yn parhau i lobio am system les decach i Gymru ac am fwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau fel ymgyrch 'Mae Budd-daliadau yn Newid', a all er gwaethaf buddsoddiad cyfyngedig ddangos llwyddiant wrth liniaru rhai o effeithiau gwaethaf diwygio lles.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Grŵp CHC: "Mae canfyddiadau'r adroddiad yma yn peri pryder ond yn anffodus nid ydynt yn ein synnu. Bu ein haelodau'n gweithio'n galed i gefnogi tenantiaid ers cyn i Ddeddf Diwygio Lles ddod i rym yn 2012.

"Gwyddem bob amser fod y diwygiadau hyn yn effeithio'n waeth ar Gymru na mannau eraill a gwyddom nawr fel canlyniad i ddileu'r cymhorthdal ystafell sbâr a chyflwyno'r cap budd-daliadau, fod 51 y cant o denantiaid yn dweud y bu cynnydd yn lefel eu dyledion."

Dangosodd yr adroddiad hefyd fod aelwydydd Cymru yn talu pump y cant yn fwy am drydan na gweddill y Deyrnas Unedig ac y bu cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd, gyda 48 y cant o atgyfeiriadau oherwydd problemau am incwm a budd-daliadau. Dywedir fod mwy o allgau digidol yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig gyda 39 y cant o denantiaid tai cymdeithasol heb fynediad i gyfrifiadur personol.

Dywedodd Stuart: "Gyda'i gilydd, mae'r ffactorau hyn yn golygu fod llawer o denantiaid yn ei chael yn anodd dod â deupen llinyn ynghyd a chynyddodd ôl-ddyledion rhent yn y sector tai cymdeithasol gan £5.3m. Mae 60 y cant o landlordiaid hefyd wedi gweld cynnydd mewn costau rheoli i helpu lliniaru diwygio lles - ergyd ariannol ddwbl i'r sector."

Wrth ymateb i sylwadau na fu fawr o gynnydd yn y cyflenwad o gartrefi llai, defnydd cyfyngedig o'r sector rhent preifat i wella symudedd tenantiaid a darlun cymysg o sut mae landlordiaid yn cefnogi tenantiaid yr effeithir arnynt i gyflogaeth, ychwanegodd Stuart, "Cynhaliwyd yr ymchwil yma rhwng Rhagfyr 2013 a Mawrth 2014 ac mae aelodau wedi parhau i gefnogi tenantiaid dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Rydym wedi derbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i adeiladu anheddau llai ond mae gwaith datblygu yn cymryd amser. Nid yw'r rhan fwyaf o'r tenantiaid yr effeithir arnynt eisiau cael eu hailgartrefu mewn tai rhent preifat a hyd yn oed os byddent, byddai hyn yn costio mwy i'r trethdalwr yn y pen draw, gyda thenantiaid yn derbyn mwy mewn lwfans tai lleol nag mewn budd-dal tai."

Meddai: "Bu cymdeithasau tai hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar eu prosiect Lift i gael tenantiaid yn ôl i waith ac mae llawer o aelodau'n awr yn rhedeg eu clybiau swyddi eu hunain i gefnogi tenantiaid."

Croesawodd CHC yr argymhellion fod angen gwneud mwy i hyrwyddo llinell gymorth 'Mae Budd-daliadau yn Newid'. Sefydlwyd y llinell gymorth gan CHC i gyfathrebu'r diwygiadau a rhoi cyngor annibynnol a rhad ac am ddim i'r rhai yr effeithiwyd arnynt.

"Bu ymgyrch Mae Budd-daliadau yn Newid yn wirioneddol lwyddiannus wrth gyfleu negeseuon cymhleth a chyson a gostwng tlodi drwy gynyddu incwm pobl. Cafodd ei defnyddio gan tua 100 o gyrff yn cynnwys cymdeithasau tai, awdurdodau lleol ac elusennau. Dros y 12 mis diwethaf, mae llinell gyngor Mae Budd-daliadau yn Newid wedi rhoi cyngor i 1,655 o bobl sydd gyda'i gilydd bron £530,000 yn well eu byd erbyn hyn. Ymwelodd bron 60,000 o bobl â gwefan yr ymgyrch ac yn ystod haf 2014, bu cynllun Bws Cyllideb yr ymgyrch ar daith o amgylch 16 lleoliad yng Nghymru, gan gynnig cyngor annibynnol a chymorth i fwy na 8,000 o bobl."

Mae ymgyrch Mae Budd-daliadau wedi Newid yn gweithio mewn partneriaeth gyda Dŵr Cymru i roi cyngor ar ddyledion a gydag Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru i gyfleu peryglon a risgiau pobl yn troi at siarcod benthyca i ddatrys pryderon ariannol.

Dywedodd Stuart wth gloi: "Credwn y caiff problemau fel canlyniad i ddiwygio lles eu gwaethygu ymhellach gan daliad uniongyrchol ac ymestyn Credyd Cynhwysol. Byddwn yn parhau i weithio gydag aelodau a sefydliadau partner i gefnogi tenantiaid ym mhob maes gyda chyflwyno Credyd Cynhwysol, ac rydym yn parhau i alw am system lles decach yng Nghymru."

I ddarllen y datganiad i’r wasg ac adroddiad llawn Swyddfa Archwilio Cymru cliciwch yma os gwelwch yn dda: http://www.wao.gov.uk/news/welfare-reform-changes-are-having-significant-impact-social-housing-providers-and-tenants