Diwygiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn tanseilio polisi tai yng Nghymru
~~Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), y corff sy'n cynrychioli cymdeithasau tai yng Nghymru, wedi beirniadu'r penderfyniad i gyfyngu faint o arian gaiff degau o filoedd o denantiaid i helpu talu eu rhent. Mae'n dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i osod cap ar fudd-dal tai tenantiaid tai cymdeithasol ar gyfraddau Lwfans Tai Lleol (LHA).
Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd Damian Green, Ysgrifennodd Gwladol y Deyrnas Unedig dros Waith a Phensiynau, y byddai'r hyn a alwai yn symleiddio ac alinio gweithredu'r polisi Lwfans Tai Lleol ar gyfer llety anghenion cyffredinol, yng ngoleuni'r newidiadau a wnaed i dai â chymorth.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd CHC: "Mae'r polisi hwn yn newyddion drwg i denantiaid. Caiff llawer o bobl eu gorfodi i wneud penderfyniadau anodd iawn am sut y gallent bontio'r bwlch rhwng yr hyn a dderbyniant mewn budd-daliadau a'u rhent. Mae'n awr yn hanfodol bod diogelwch trosiannol ar gael i'r rhai sydd ei angen ac y bydd y polisi hwn yn effeithio arnynt yng Nghymru.
"Bydd ein haelodau yn parhau i gefnogi tenantiaid, fodd bynnag bydd hefyd yn effeithio arnynt a'u gallu i fuddsoddi mewn cartrefi newydd a'r cartrefi presennol. Mewn blynyddoedd diweddar, mae cymdeithasau tai Cymru wedi arwain y ffordd wrth ddarparu tai cymdeithasol oedd eu mawr angen. Os yw'r newid hwn i fudd-daliadau yn effeithio ar eu hincwm rhent, mae’n ddi-os y bydd ganddynt lai o arian i'w gwario."
Daw'r cap i rym yn 2019, flwyddyn yn ddiweddarach nag a ddisgwylid yn flaenorol. Bydd yn effeithio ar bob tenant sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ac unrhyw un ar Fudd-dal Tai a gymerodd denantiaeth newydd neu denantiaeth a gafodd ei hailosod o 1 Ebrill 2016.
Dywedodd Clarissa Corbisiero-Peters, Cyfarwyddydd Polisi CHC: "Mae gennym hefyd bryderon go iawn am y ffordd y caiff cyfraddau LHA eu gosod ac nad yw, mewn llawer o ardaloedd, yn adlewyrchu gwir gost tai.
"Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd wedi rhewi'r gyfradd LHA hyd 2020 a bydd cyhoeddiad heddiw yn golygu y bydd ein gwaith ar sicrhau bod y gyfradd LHA yn adlewyrchu'r farchnad leol yn bwysicach nag erioed, yn ogystal â sicrhau fod polisi rhent Llywodraeth Cymru yn addas i'r diben. Rydym angen system newydd sy'n gweithio ar gyfer tenantiaid a darparwyr tai sy'n wirioneddol adlewyrchu'r farchnad tai leol."
Nodyn i'r golygydd:
Y newidiadau i Lwfans Tai Lleol (LHA) ar gyfer tenantiaid anghenion cyffredinol a gyhoeddwyd heddiw yw:
• Bydd yr LHA yn weithredol i hawlwyr presennol Credyd Cynhwysol o 2019.
• Bydd yr LHA yn weithredol i denantiaethau newydd a thenantiaethau ail-osod a lofnodwyd ar ôl Ebrill 2016 gyda'r gostyngiad mewn hawl i fudd-dal yn cael ei weithredu o 2019.
• Bydd yr LHA yn weithredol i denantiaid yn symud o fudd-dal tai i Gredyd Cynhwysol ar ôl 2016 ond gweithredir diogeliad trosiannol.
• Bydd y cyfraddau LHA yn weithredol ar denantiaid sy'n symud o Fudd-dal Tai i'r Credyd Cynhwysol rhwng nawr a 2019. Ni fydd unrhyw ddiogelwch trosiannol.
Mae 239,980 o bobl yng Nghymru yn hawlio budd-dal tai, gydag amcangyfrif o 99,530 yn rhentu gan gymdeithas tai.
Cyflwynwyd yr LHA yn 2008 a dyma'r taliad budd-dal tai a dderbynnir gan denantiaid yn y sector rhent preifat i helpu at dalu eu rhent. Ar y pryd cafodd cyfraddau eu gosod ar lefel ar gyfer y gymedrig neu 50fed canradd ar gyfer pob categori annedd o fewn ardal marchnad rentu eang.
Yn 2011 fe wnaeth diwygiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyfyngu'r gyfradd LHA i'r 30ain canradd (h.y. 30% isaf y farchnad).
Mae 22 ardal marchnad rentu eang yng Nghymru ac mae gan bob un ohonynt 5 cyfradd LHA sef:
• Cyfradd rhannu llety
• Cyfradd 1 ystafell wely
• Cyfradd 2 ystafell wely
• Cyfradd 3 ystafell wely
• Cyfradd 4 ystafell wely
Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am osod y fframwaith polisi LHA gyda swyddogion rhent lleol yn casglu'r data rhent ac yn cyfrif y cyfraddau LHA yn unol â pholisi'r Adran Gwaith a Phensiynau. Yng Nghymru caiff y swyddog rhent ei gyflogi gan Lywodraeth Cymru.
Yng nghyllideb ddiwethaf y Deyrnas Unedig cyhoeddodd y Canghellor y byddai cyfraddau LHA yn cael eu rhewi am bedair blynedd o fis Ebrill 2016.