Jump to content

15 Mehefin 2020

Cymysgu cymorth cyflogaeth gyda llesiant tenantiaid

Cymysgu cymorth cyflogaeth gyda llesiant tenantiaid
Sioned Williams yw Uwch Bartner Academi Cyflogaeth Creu Menter, sy’n rhan o gymdeithas tai Cartrefi Conwy. Yma mae’n siarad am eu gwaith i gefnogi tenantiaid gyda’u cyflogadwyedd a sgiliau, a sut mae’r tîm yn cefnogi rhannau eraill o’r sefydliad ar hyn o bryd.


“Yn ein gwaith bob dydd rydym yn cefnogi pobl leol i edrych am waith, magu hyder a sgiliau newydd, cwblhau hyfforddiant ac ennill cymwysterau, ac yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli ar draws Grŵp Cartrefi Conwy (Cartrefi Conwy a Creu Menter). Mae gennym hefyd brosiect sy’n cefnogi teuluoedd mewn gwaith, drwy ddod â nhw ynghyd a threfnu digwyddiadau ar eu cyfer fel sydd angen. Mae gennym adeilad pwrpasol, ein Hacademi Cyflogaeth ym Mochdre, lle’r ydym yn aml yn cynnal digwyddiadau, ac mae ar agor yn ddyddiol i bawb alw heibio.


Oherwydd Covid-19, mae nifer o’r tîm yn cefnogi prosiect Llesiant Cartrefi Conwy ar hyn o bryd gyda galwadau ffôn hollbwysig i’r tenantiaid a throsglwyddo ymholiadau i aelodau eraill o’n tîm sy’n mynd i nôl neges a phresgripsiynau ac eitemau eraill o fferyllfeydd ac ysbytai.


Rydym hefyd wedi bod yn cynnal sesiynau hyfforddiant anffurfiol rhad ac am ddim ar-lein i helpu tenantiaid i ddod yn fwy annibynnol, er enghraifft sut i siopa’n ddiogel ar-lein, sut i ymgysylltu gyda theulu a ffrindiau yn defnyddio Facebook Messenger neu Zoom, yn ogystal â sesiynau paratoi am waith ar gyfer pan fydd pethau’n dechrau dychwelyd i’r arferol. Rydym wedi bod yn helpu gyda CVs, magu hyder a llenwi ffurflenni cais.


Cawsom hefyd grant gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) i’n galluogi i ehangu ar y gwaith hwn felly mae gennym gydlynydd sy’n gweithio’n agos i recriwtio a pharatoi gwirfoddolwyr a wnaeth gynnig eu henwau yn yr ychydig wythnosau diwethaf ac sy’n awyddus i gefnogi gwaith a chefnogi’r tenantiaid mwyaf bregus ac ynysig yn ein cymunedau. Mae hyn yn golygu y bydd y gwasanaeth, pan aiff ein tîm yn ôl i’w waith beunyddiol, yn hollol barod i barhau ar gyfer y rhai sydd ei angen.


Dywedodd Jasmine Rigby, un o fy nghydweithwyr:


“Ers y pandemig, mae fy rôl wedi newid i feddwl yn fwy creadigol i gadw gweithgareddau’n mynd ar gyfer y prosiect teuluoedd mewn gwaith, yn unol â chanllawiau’r llywodraeth. Mae creu sesiynau tiwtorial ar fideo a darparu pecynnau celf a chrefft yn hytrach na gweithgareddau wyneb i wyneb yn enghraifft o hyn. Rwyf hefyd wedi dod yn ymatebwr yn dosbarthu presgripsiynau tenantiaid a siopa bwyd nad yw’n rhywbeth a wnaf fel arfer yn fy swydd bob dydd. Fodd bynnag bu hyn yn werth chweil iawn, gan wybod fy mod yn helpu ein cymuned.’


Dywedodd Karen William hefyd:


“Mae bod yn rhan o’r tîm llesiant a ffonio tenantiaid bob wythnos wedi bod mor werth chweil yn ystod y cyfnod anodd yma. Mae llawer wedi dweud sut mae siarad gyda pherson arall wedi gwneud gwahaniaeth enfawr iddynt. I rai, fi yw’r unig berson y maent yn siarad gyda hi bob wythnos. Maent wedi dweud ei bod yn braf gwybod fod rhywun allan yna iddynt a’n bod yn gofalu. Cafodd clywed y sylwadau hynny effaith enfawr arnaf. Yn sydyn roedd yn haws ymdopi gyda ffordd newydd o fyw gan wybod fy mod yn gwneud gwahaniaeth i bobl.”


Mae cymdeithasau tai yng Nghymru wedi gwneud nifer o ymrwymiadau i gefnogi tenantiaid drwy bandemig Covid-19. I roi sylw i’r gwaith hwn, a chodi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael i denantiaid, rydym wedi datblygu ymgyrch ‘Gyda Chi’. Dilynwch yr ymgyrch yma ar dudalen Twitter CHC a chwilio am hashnod #gydachi #withyou.