Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd 2026: Atal caledi tu hwnt i fisoedd y gaeaf
Wrth i Gymru nodi’r Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd, mae’r realaeth yn llwm ar gyfer miloedd o deuluoedd ar draws ein cymunedau. Mae costau uchel parhaus hanfodion fel bwyd ac ynni yn golygu fod mwy o deuluoedd yn wynebu’r dewis dychrynllyd rhwng gwresogi neu fwyta.
Mae National Energy Action Cymru yn dweud na all pedwar mewn pump aelwyd yng Nghymru fforddio twymo eu cartrefi yn ddigonol. Rhwng 2021 a 2024, dywedodd NEA Cymru fod nifer y plant sy’n byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru wedi dyblu fwy neu lai.
Canfu ein hymchwil ein hunain y soniodd 95% o gymdeithasau tai eu bod yn bryderus iawn am wydnwch ariannol tenantiaid cyn y gaeaf eleni. Dengys yr ymchwil sut mae caledi ar draws Cymru bellach yn cyrraedd pobl oedd yn flaenorol wedi eu hynysu’n well rhag caledi – dywedodd 35% o gymdeithasau tai fod nifer cynyddol o aelwydydd mewn gwaith cyflog isel yn awr yn gofyn am gymorth argyfwng.
Dengys cyhoeddiadau yn y gyllideb ddiweddar fod Llywodraeth y DU yn deall y pwysau sy’n wynebu aelwydydd ar draws y wlad.
Yng Nghyllideb yr Hydref, cyhoeddodd y Canghellor fesurau i helpu mynd i’r afael â chaledi a diogelu aelwydydd drwy’r gaeaf – dileu’r tâl sefydlog o filiau nwy aelwydydd a chyflwyno taliad ynni o £100 ar gyfer aelwydydd ym mandiau treth gyngor A-D yn Lloegr, ac ymestyn torri TAW ar filiau ynni hyd at fis Gorffennaf 2027. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn anrhydeddu’r ymrwymiad hwn i aelwydydd yng Nghymru, gan ymestyn y cynnig i bawb sy’n derbyn gostyngiad treth gyngor.
Mae cymorth argyfwng yn gam cyntaf hanfodol, gan ddiogelu teuluoedd pan mae cynnydd mawr mewn costau. Fodd bynnag, nid yw’r mesurau hyn yn datrys yr argyfwng sylfaenol sy’n wynebu aelwydydd bregus. Mae’n rhaid i ni symud y deial, gan gysylltu cymorth tymor byr gyda buddsoddiad parhaus mewn tai, gan symud tu hwnt i reoli argyfwng blynyddol ac adeiladu dyfodol lle mae cartrefi oer ac anodd eu gwresogi yn hen hanes.
Mae cymdeithasau tai yn rhan hanfodol o'r seilwaith atal yng Nghymru, gan ddarparu cartrefi diogel a fforddiadwy i 1 mewn 8 o aelwydydd Cymru, gyda’r cartrefi hyn ymysg y rhai mwyaf effeithiol o ran gwres.
Ymysg pryderon cynyddol am gostau byw, mae cymdeithasau tai yn cynnig cymorth argyfwng i breswylwyr mewn angen ond hefyd yn paru hyn gyda buddsoddiad blaengar sy’n ceisio atal tlodi a meithrin gwydnwch. Mae hyn yn cynnwys ôl-osod ar raddfa fawr ac adeiladu cartrefi sy’n cadw preswylwyr yn gynhesach ac sy’n fwy effeithlon o ran cost i’w twymo. Mae cymdeithasau tai hefyd yn buddsoddi mewn rhaglenni wedi eu targedu i helpu tenantiaid i chwalu rhwystrau i waith a symud i gyflogaeth gynaliadwy, wrth ochr cymorth tebyg i dalebau tanwydd a bwyd.
Mae timau cynhwysiant ariannol neilltuol mewn cymdeithasau tai ledled Cymru yn cefnogi tenantiaid i dderbyn y budd-daliadau mae ganddynt hawl iddynt a’u llywio drwy system lesiant gymhleth. Cafodd hyn effeithiau sydd wedi newid bywyd i breswylwyr cymdeithasau tai, tebyg i Jo.
Cafodd Jo – nid ei henw go iawn – ei helpu gan Emma Blackmore o dîm cynhwysiant ariannol Grŵp Tai Cadarn i symud i gartref llai, oedd yn fwy addas iddi a derbyn setliad PIP llawn oherwydd heriau parhaus i’w hiechyd corfforol a meddyliol oedd yn effeithio ar ei gallu i weithio ac ar ôl i aelodau o’i theulu symud allan o’i chartref gwreiddiol.
Rhoddodd hyn dawelwch meddwl go iawn i Jo a’r gallu i brynu celfi gardd fel y gall dreulio mwy o amser yn yr awyr agored, rhywbeth mae’n dweud a gafodd effaith gadarnhaol iawn ar ei hiechyd meddwl.
Er i ni fod yn falch o weld cynnydd yn y cyllid ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni – er nad yw'n glir faint o'r cyllid hwnnw fydd ar gael i landlordiaid cymdeithasol – roedd yn siomedig gweld gostyngiad yn y cyllid ar gyfer cynhwysiant ariannol, sy'n cynnwys y Gronfa Gymorth Ddisgresiynol.
Yng nghyswllt Cyllideb Terfynol Cymru, rydym angen gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn cymorth argyfwng a mesurau ataliol i gryfhau’r rhwyd ddiogelwch, ond hefyd i ymrwymo i fuddsoddiad sylweddol a diwygio polisi fydd yn diogelu teuluoedd ac adeiladu tlodi tanwydd allan o gartrefi.
Gofynnwn i Lywodraeth Cymru:
- Cynnal y setliadau cynaliadwy aml-flwyddyn i roi sicrwydd cyllid ar gyfer landlordiaid i gynllunio cylchoedd datblygu ac ôl-osod effeithlon, gan adeiladu tlodi tanwydd allan o gartrefi o’r cychwyn cyntaf
- Diogelu tenantiaid bregus drwy gynyddu’r Grant Cymorth Tai gan 16% i atal toriadau difrifol mewn gwasanaethau. Dyma’r prif ddull i gyllido gwasanaethau cymorth a gaiff eu rhedeg gan awdurdodau lleol, cymdeithasau tai ac elusennau sy’n helpu i atal digartrefedd ym mhob rhan o’r wlad drwy helpu tenantiaid bregus drwy ddarparu cymorth er mwyn ymdopi â chostau ynni, trin dyledion a chadw eu cartrefi yn gynnes drwy gydol y gaeaf. Oherwydd maint a chymhlethdod y galw presennol, ynghyd ag effaith chwyddiant a thalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i staff, mae angen cynnydd o 16% ddim ond i gadw gwasanaethau yn rhedeg. Byddai cyllideb aros yn ei hunfan ar gyfer y Grant Cymorth Tai yn arwain at golli 243 i 324 o swyddi.
- Ailffocysu safonau ynni i alluogi landlordiaid i roi blaenoriaeth i fesurau ymarferol i ostwng biliau sy’n cadw mwy o gartrefi yn gynnes bob gaeaf, ynghyd â chynyddu cymorth ar gyfer daliadaethau eraill lle mae gan gartrefi berfformiad gwaeth.