Jump to content

05 Gorffennaf 2017

Diweddariad Twr Grenfell - 5 Gorffennaf

Y sefyllfa yng Nghymru

Mae ein haelodau yn berchen neu'n rheoli 18 bloc sy'n 7 llawr neu fwy.

Profion

Canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru yw dilyn arweiniad yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Lleol (DCLG) yng nghyswllt profion os amheuir fod cladin math ACM ('Aluminium Composite Material') ar adeiladau preswyl o saith llawr neu fwy (neu dros 18m mewn uchder). Caiff y profion ar gyfer cynllun y DCLG eu cynnal drwy BRE. Mae'r cynllun profion ar gyfer cladin a gadarnhawyd neu yr amheuir ei fod yn ACM ar adeiladau 7 llawr neu fwy. Ni fydd y BRE yn derbyn unrhyw samplau eraill ar gyfer eu profi drwy'r cynllun hwn ac nid oes argymhelliad i brofi unrhyw samplau eraill.

Beth sy'n digwydd os bydd canlyniad o fethu?

Os amheuir fod cladin ACM ar adeilad, neu os yw sampl wedi methu, mae'r DCLG wedi cyhoeddi cyfarwyddyd ar 22 Mehefin yn rhoi manylion camau i'w dilyn i sicrhau diogelwch tân yr adeilad tra caiff diogelwch y cladin ei asesu ymhellach.

A ddylid tynnu cladin ACM?

Cyhoeddodd y panel arbenigol a gynullwyd gan y DCLG y datganiad dilynol ar 29 Mehefin:

“Mae'r profion a gynhelir ar hyn o bryd yn brawf sgrinio i ddynodi pa baneli ACM sydd o gonsyrn. Mae'n profi'r llenwr - craidd y panel - i wirio os yw o losgadwyedd cyfyngedig (categori 1) neu beidio (categori 2 neu 3). Mae hyn yn unol â gofynion canllawiau Rheoliadau Adeiladu. Mae'r llenwr yn un elfen o'r system cladin gyffredinol.

Os yw craidd y panel yn methu'r prawf, byddem yn disgwyl i'r landlord gymryd y mesurau diogelwch tân dros dro a argymhellwyd a gyhoeddwyd ar 22 Mehefin.

Yn gynnar yr wythnos nesaf bydd y Panel Arbenigol yn ystyried os yw'n ddiogel defnyddio'r paneli hyn fel rhan o system wal allanol adeilad ehangach, ac felly y gallent aros ar adeilad dan rai amgylchiadau cymeradwy. Yn y cyfamser, os yw landlord yn dewis tynnu lawr a gosod cladin newydd, dylid bod yn ofalus i ystyried yr effaith y gallai tynnu'r cladin ei gael ar elfennau eraill y wal, yn arbennig insiwleiddiad, ac felly ar integriti tân cyffredinol yr adeilad yn ogystal â gofynion eraill Rheoliadau Adeiladu."

Bydd CHC yn hysbysu aelodau am ganlyniad Panel Arbenigol y Deyrnas Unedig.

Beth am adeiladau llai na 7 llawr?

Nid yw Llywodraeth Cymru na'r DCLG wedi argymell profi cladin ar adeiladau dan 7 llawr (18m) mewn uchder. Nid yw profion BRE ar gael ar gyfer cladin ar adeiladu dan 7 llawr.

Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Tân Cymru

Mae Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, wedi sefydlu Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Tân i ystyried y goblygiadau ehangach sy'n dod i'r amlwg o drychineb Tŵr Grenfell a'r ymholiadau a'r ymchwiliad dilynol. Aelodau'r grŵp yw:

Stuart Ropke – Prif Weithredydd, Cartrefi Cymunedol Cymru
Steve Thomas – Prif Weithredydd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Ruth Marks – Prif Weithredydd, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Huw Jakeway – Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
David Wilton – Prif Weithredydd, Gwasanaeth Ymgynghori Cyfranogiad Tenantiaid Cymru

Cynhelir cyfarfod y grŵp yn nes ymlaen yr wythnos yma.

Gwaith CHC

Bu CHC mewn cysylltiad dyddiol gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ers tân Tŵr Grenfell. Rydym wedi rhoi data i hysbysu Llywodraeth Cymru wrth wneud penderfyniadau ac amlygu record ddiogelwch ardderchog ein haelodau yng nghyswllt blociau uchel. Cafodd Stuart ei gyfweld ar BBC Radio Wales fore ddoe i drafod ymatebion ein haelodau i'r drychineb. Medrir clywed y cyfweliad ar 1:38:30 ar y ddolen ddilynol: https://t.co/wjXxKOWlbH

Caiff CHC ein cynrycholi ar y Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Tân fel y nodir uchod. Byddwn hefyd yn rhoi tystiolaeth, ynghyd â'n haelodau, i ymchwiliad y Cynulliad ar ddiogelwch mewn blociau tŵr a gynhelir ar 13 Gorffennaf.

Gwybodaeth bellach gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi set o Gwestiynau Cyffredin yn dilyn y tân, y medrir eu gweld yma.

Cyhoeddodd Carl Sargeant ddatganiad ysgrifenedig ar ddydd Llun 3 Gorffennaf, yn amlinellu eu hymateb hyd yma. Medrir darllen hwn yma.