Jump to content

21 Tachwedd 2019

Dechrau newydd i denantiaid Greenwood Close

Dechrau newydd i denantiaid Greenwood Close
Roedd cartrefi i Gymru yn ymgyrch etholiadol 2015-2016 a gynhaliwyd gan Gynghrair o sefydliadau ac a arweiniwyd gan CIC i roi terfyn ar yr argyfwng tai ac adeiladu Cymru gryfach. Ers hynny, mae llawer o dai newydd wedi'u hadeiladu, gan gynnwys Greenwood Close:






Mae Joseph a Sophie, cwpl ifanc gyda'u mab bychan, Roman, wrth eu bodd yn eistedd yn eu cartref newydd yn Greenwood Close yn Nhwyn-yr-Odyn, ger Gwenfo.


Maent ymhlith llawer o denantiaid a symudodd yn ddiweddar i'r datblygiad a godwyd ar gyfer Cymdeithas Tai Newydd. Mae'r cynllun mewn partneriaeth gyda chyngor Bro Morgannwg ac wedi'i gyllido gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â chyllid preifat.


"Rwyf ar ben fy nigon!" meddai Sophie gan chwerthin, gan gofleidio ei mab yn ei breichiau wrth i'w phartner Joseph ychwanegu: "Rydym wedi bod yn edrych ymlaen at hyn ers amser maith. Mae'n gartref hyfryd mewn lleoliad hyfryd."


Mae Mr a Mrs Manfield, hen dad-cu a hen fam-gu Roman, yn byw ychydig ddrysau oddi wrth Sophie a Joseph.


Dywedodd Mr Manfield, "Mae'r adeiladwyr wedi gwneud gwaith gwych gyda'r cartrefi yma. Cawsom help a sylw rhagorol gan Newydd. Daeth Deb, ein Swyddog Tai, yn gyfaill i ni, gan ein helpu ni a'r holl deulu bob cam o'r ffordd, ac wedi bod yn groesawgar iawn".


Mae Paige yn byw ychydig ddrysau i ffwrdd. Mae'n feichiog ers chwe mis ac mae'n edrych fel bod symud i mewn yn rhyddhad mawr iddi. "Mae wedi bod yn ychydig fisoedd anodd. Rwyf wedi bod yn ddigartref ers dros flwyddyn a hanner ac alla i ddim dweud faint mae hyn yn ei olygu i fu. Alla'i ddim aros i setlo fy merch dair oed yn ei chartref newydd, ei chael i'r ysgol ac yna mewn ychydig fisoedd byddaf yn croesawu aelod newydd o'r teulu i'r byd."


Ei chymdogion drws nesaf yw Abbie a Blayne a'u babi Hunter.


"Rydym wedi bod yn byw gyda'n rhieni, felly mae'n braf bod yn annibynnol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at addurno ystafell Hunter. Rydym wedi meddwl yn union beth ydym eisiau, bydd yn edrych fel saffari."


Bu Cheryl a'i merch yn sboncio o amgylch y stad ers iddynt gyrraedd. Mae dagrau'n dal i fod yn llygaid Cheryl wrth iddi ddweud, "Sori, sa'i wedi stopo llefen ers i mi fod yma. Dim byd o'i le, mae'r cyfan yn ormod! Mae'r lle yma mor arbennig, mae'r golygfeydd yn anhygoel. Rwy'n bwriadu symud mewn ac aros yma heno, mae fy nhad wedi dod a'i fan ac mae fan arall ar y ffordd gyda fy holl bethau hefyd."


Mae Debra Roberts, y Swyddog Tai, yn falch iawn o gynllun Greenwood Close. "Mae cymysgedd wych o bobl yma ac mae'n edrych fel bod pawb yn tynnu ymlaen yn barod. Mae eisoes yn teimlo fel cymdogaeth. Hoffwn ddymuno pob hapusrwydd iddynt ar gyfer y dyfodol."


Mae gan gymdeithasau tai yng Nghymru weledigaeth i wneud cartrefi da fel Greenwood Close yn hawl sylfaenol i bawb erbyn 2036. Gallwch ddarllen mwy yma.



Yn ogystal â chartrefi i Gymru, mae llwythi wedi digwydd dros y 30 mlynedd diwethaf. Gweler ein llinell amser yma:





Edrychwch ar y llinell amser lawn yma (PDF).