Jump to content

14 Hydref 2016

Ddigartref yn 16 oed

Mae cynllun yng Nghymru sydd wedi helpu tua thri chwarter miliwn o bobl sy'n wynebu digartrefedd dan fygythiad ei hunan oherwydd ofnau am ei gyllid.

Bu'r rhaglen Cefnogi Pobl yn hollol hanfodol i Tom Savery o'r Barri a wnaed yn ddigartref yn 16 oed yn dilyn chwalfa deuluol.

"Doedd gen i ddim dyfodol o'm blaen nac unrhyw obaith. Roeddwn wedi mynd i bwynt lle oeddwn i'n malio dim. Roeddwn yn isel heb ddim hyder o gwbl," meddai Tom.

Treuliodd y llanc lawer o amser yn cysgu ar soffas yn nhai gwahanol ffrindiau ac yn yfed. Gadawodd y coleg ac er iddo ddod o hyd i waith, roedd yn casáu’r "swydd warthus" nad oedd prin yn talu digon iddo fyw arno.

Daeth y trobwynt yn ei fywyd pan gafodd ei gyfeirio at brosiect Gwalia, Troseddwyr y Barri. Cafodd y prosiect ei sefydlu gyda chyllid o'r rhaglen Cefnogi Pobl i gefnogi tenantiaid ifanc a fyddai wedi ei chael yn anodd ymdopi heb help arbenigol.

"Fe wnaeth y gefnogaeth a gefais roi fy hyder yn ôl i fi. Rwyf yn awr yn ôl yn y coleg, mae gen i do dros fy mhen ac nid wyf bellach yn yfed bob dydd. Mae gen i obaith erbyn hyn ac rwyf eisiau dod yn weithiwr cymorth ar ôl i'r gweithwyr cymorth a wnaeth gymaint i fy helpu fy ysbrydoli. Mae Gwalia wedi newid fy mywyd yn llwyr er gwell," ychwanegodd.

Fodd bynnag mae elusen digartrefedd cymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru, sy'n cynrychioli landlordiaid tai cymdeithasol Cymru, yn pryderu y caiff y cyllid ar gyfer y rhaglen, a fu'n weithredol ers 2004, ei dorri yn y gyllideb ddrafft a gyhoeddir ddydd Mawrth.

Dywedodd Auriol Miller, Cyfarwyddydd Cymorth Cymru, "Mae'r ffordd yr ydym yn trin digartrefedd yng Nghymru yn stori o lwyddiant go iawn. Mae'n un o effeithiau gwirioneddol gadarnhaol Llywodraeth Cymru ar bobl ein gwlad. Nid yn unig hynny - mae hefyd yn helpu i arbed adnoddau gwerthfawr mewn adrannau Damwain ac Argyfwng a meddygfeydd teulu."

Mae rhaglen £124 miliwn Cefnogi Pobl yn talu am gymorth cysylltiedig â thai a gwnaeth gyfraniad mawr i atal digartrefedd yng Nghymru. Cafodd ei chyllid ei dorri gan £10 miliwn dair blynedd yn ôl ac mae'r ddau sefydliad yn ofni y gall Llywodraeth Cymru ei ostwng eto oherwydd pwysau ariannol.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru, "Mae straeon pobl fel Tom yn dangos sut y gall y rhaglen gael effaith enfawr sy'n newid bywydau. Ar wahân i'r toriad yn 2013/14, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyson yn ei chefnogaeth i Cefnogi Pobl a byddem yn ei hannog i barhau i helpu'r cannoedd o filoedd o bobl agored i niwed fel Tom."