Jump to content

23 Tachwedd 2016

Datganiad yr Hydref

Mae Canghellor y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi heddiw y bydd mwy o arian ar gael ar gyfer tai fforddiadwy yn Lloegr. Fel canlyniad i'r cynnydd hwn mewn gwariant, bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £400m i'w gwario ar brosiectau cyfalaf drwy fformiwla Barnett. Yn dilyn Datganiad yr Hydref, mae Cartrefi Cymunedol Cymru - corff aelodaeth cymdeithasau tai yng Nghymru - yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pendant a buddsoddi'r cyfalaf hwn ar brosiectau adfywio dan arweiniad tai.

Bydd 'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid', rhaglen adfywio Llywodraeth Cymru yn dod i ben ym mis Mawrth ac fel canlyniad mae'r arian a neilltuwyd ar hyn o bryd yng nghyllideb ddrafft Cymru wedi gostwng o £83.5m eleni i £17.5m yn 2017/18.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: "Mae adeiladu tai fforddiadwy newydd yn sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill. Yn ogystal â chreu cartrefi y mae eu mawr angen, bydd hefyd yn ysgogi miloedd o swyddi a chyfleoedd hyfforddiant ac yn helpu i hybu economi Cymru.

"Mae Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi gosod targed o 20,000 o dai fforddiadwy newydd ond mae cymdeithasau tai yn ymwneud â llawer mwy na brics a morter. Rydym angen rhaglen adfywio dan arweiniad tai i ddilyn Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, ac mae cyllid ychwanegol heddiw yn rhoi cyfle perffaith i gyllido'r cynllun fydd yn darparu buddsoddiad mewn cartrefi a hefyd fuddsoddiad gwerthfawr mewn cymunedau.

"Wrth gyhoeddi £1.4bn o dai fforddiadwy yn Lloegr, llaciodd y Canghellor Philip Hammond y cyfyngiadau presennol ar sut y gellir gwario'r arian i sicrhau grantiau llywodraeth. Mae'r rhain yn golygu y gall cymdeithasau tai Lloegr adeiladu amrywiaeth o gartrefi yn y lleoedd cywir ar rent a hefyd berchnogaeth."

Gorffennodd Stuart Ropke drwy ddweud: "Mae gan ein haelodau hanes o lwyddiant mewn darpariaeth ac mae 90c ym mhob £1 a werir gan gymdeithasau tai yn parhau yng Nghymru.

"Yn ogystal â hynny, cafodd bron y cyfan - 94% - o dai fforddiadwy a adeiladwyd yn y 12 mis diwethaf eu cyflenwi gan gymdeithasau tai Cymru ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i barhau i fuddsoddi mewn rhaglenni adfywio dan arweiniad tai fel y gallwn ddarparu datrysiadau tai hyblyg mewn cymunedau lle mae pobl eisiau byw a gweithio."