Darllenwch fwy am y person a’I hysbrydolodd y Gwobr Pat Chown
Mae Vivienne Sugar yn feirniad yng NGWOBR CREU CREADIGRWYDD - PAT CHOWN 2016. Mae'n dweud wrthym am y person a ysbrydolodd y wobr.
Yn syml ddigon, roedd Pat Chown yn fenyw ryfeddol.
Fe wnes gwrdd â hi gyntaf yn 1982 pan ymunodd â Chymdeithas Tai Newydd fel Rheolydd Cyllid. Yn ddigon cryf i sefyll lan i'r aelodau pwyllgor hynny yr oedd eu brwdfrydedd weithio'n gwthio ar ffiniau darbodusrwydd ariannol, roedd Pat fel arfer yn canfod ffordd i wireddu ein breuddwydion.
Roedd yn amlwg yn "ymroddedig i'r achos", gan gredu mai dim ond dechrau gwneud cartref, o ddod yn rhan o gymuned ac o gyflawni potensial personol, oedd cael to dros eich pen.
Aeth ymlaen i ddod yn Brif Weithredydd Dewi Sant ac yn Gadeirydd Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Cymru, gan sicrhau effaith ar y lefel uchaf. Yn ogystal â hynny llwyddodd i gael amser i fod yn briod â John, bod yn fam i dri o blant, bod yn weithgar ym mywyd y gymuned, bod yn Aelod o Fwrdd Canolfan Gelfyddydau Chapter a Theatr Sherman, Aelod o Fwrdd y Cyngor Arweiniad Priodasol (bellach Relate), Trysorydd Cymdeithas Jazz Cymru ac yn y blaen ac yn y blaen!
Cymaint o egni, cymaint o archwaeth am fywyd a manteisio ar gyfleoedd i wneud bywyd yn well i bobl eraill.
Roedd ei marwolaeth gynnar yn 1999 yn golled fawr i'r maes tai yng Nghymru a chofiwn amdani drwy wobr Pat Chown sydd yn ymwneud â chreu creadigrwydd, edrych am syniadau newydd, y ffyrdd newydd o weithio y gall eraill ddysgu ohonynt.
Roedd yn ysbrydoliaeth yn ystod ei bywyd ac rydym ni oedd yn ei hadnabod yn gobeithio y bydd Gwobr Pat Chown yn awr yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o swyddogion tai proffesiynol a gwneuthurwyr polisi.
Vivienne Sugar