Jump to content

07 Gorffennaf 2017

Dangos a Darparu Gwerth am Arian




Mae dangos a darparu "gwerth am arian" yn heriau pwysig a sylweddol ar gyfer y sector cymdeithasau tai yng Nghymru. Mae ymagwedd gadarn at Werth am Arian yn rhoi cyfle nid yn unig i ddangos sut y caiff arian ei wario ac y caiff adnoddau eu defnyddio ond hefyd i ddangos effaith buddsoddiad tra'n cynnig y potensial i gymdeithasau sicrhau mwy a gwell canlyniadau.


Caiff y pwysigrwydd y mae Bwrdd Rheoleiddiol Cymru yn ei roi ar Werth am Arian ei ddangos yn y flaenoriaeth a roddodd y Bwrdd iddo yn ein rhaglen waith yn ystod 2016-17, gan gynnal adolygiad thematig a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni. Mae'r ddolen yma.


Rydym wedi bod yn cydweithio'n agos gyda Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) ac eraill, gan amlygu tri philer Gwerth am Arian a ddynodwyd gan y sector; dangosyddion a ddatblygwyd gan Fforwm Cyllid CHC, gwerth cymdeithasol a safbwynt tenantiaid. Yn ychwanegol, mae'r Fframwaith Rheoleiddiol diwygiedig wedi cynnwys safon perfformiad penodol (PS6) sydd â ffocws ar ddarparu Gwerth am Arian.


Mae hyn i gyd yn gofyn cwestiynau am ystyr Gwerth am Arian yn y tirlun polisi tai newidiol. Er y bydd y Rheoleiddiwr yn defnyddio 10 mesur Gwerth am Arian a gynigiwyd gan Fforwm Cyllid CHC i ddeall perfformiad Gwerth am Arian yn well, nid yw hyn yn ymwneud â dod i gasgliadau ffug o wybodaeth gyfyngedig. Nid yw ychwaith am gynhyrchu tablau cynghrair o berfformiad cymdeithasau. Nid dim ond am fesurau ariannol neu dorri costau mae Gwerth am Arian. Dylai fod yn egwyddor drosfwaol sy'n cynnwys yr holl fusnes, gan geisio cydbwyso costau gyda'r canlyniadau a ddymunir a bod yn sylfaen i opsiynau a dewisiadau; cefnogi mwy o ddarpariaeth tai newydd, gwella cartrefi a gwasanaethau a galluogi cymdeithasau i ddatblygu gweithgareddau ychwanegol addas. O'r herwydd mae Bwrdd Rheoleiddiol Cymru yn credu y dylai Gwerth am Arian fod yn ganolog i lywodraethiant da ac o safbwynt strategol gael ei leoli'n gadarn yn yr ystafell Fwrdd.


Wrth gwrs, mae gwahanol safbwyntiau ar Werth am Arian - ac mae'n briodol gofyn sut y dylai'r gwahanol safbwyntiau yma gael eu datblygu a'u blaenoriaethu. Sut y gall tenantiaid gael mwy o ran mewn gwneud penderfyniadau i fod yn sylfaen i Werth am Arian? Sut allwn ni ddatblygu safbwynt tymor hirach ar werth cymdeithasau tai a dangos y manteision cymdeithasol ac economaidd ehangach sy'n llifo o'u gwaith? Mae Bwrdd Rheoleiddiol Cymru yn parhau i weithio gyda'i grŵp llywio Gwerth am Arian ac mae gwaith pellach yn mynd rhagddo ar werth cymdeithasol (dan arweiniad CHC) ac mae TPAS Cymru yn cwblhau cwmpasu ar gyfer gwaith ar safbwyntiau tenantiaid ar Werth am Arian. Sylweddolwn fod llawer mwy i'w wneud mewn deall Gwerth am Arian, wrth brofi a datblygu mesurau o werth a chyfleu'r neges am fanteision gwell Gwerth am Arian.


Fel sector mae angen i ni feddwl yn ofalus am sut i ddiwallu heriau cynnal hyder y cyhoedd yng ngwerth yr hyn a wnawn. Mae bod yn agored ac yn dryloyw yn allweddol yn hyn o beth, ond mae angen i gymdeithasau tai feddwl am sut y defnyddiant fesurau hygyrch Gwerth am Arian i helpu esbonio'r penderfyniadau sy'n sylfaen i'r hyn a wnânt. Mae Bwrdd Rheoleiddiol Cymru eisiau annog newid sylweddol yn y ffyrdd mae cymdeithasau tai yn meddwl am, dangos a darparu Gwerth am Arian. Rydym yn awyddus i barhau i gydweithio gyda'r sector cymdeithasau tai a rhanddeiliaid allweddol eraill i gyflawni'r hyn rwy'n sicr sy'n nod a gaiff ei rhannu.





Bob Smith, Bwrdd Rheoleiddiol Cymru