Cyntundeb sy'n Torri Tir Newydd rhwng CCC, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Bydd cytundeb sy'n torri tir newydd a lofnodir heddiw yn newid bywydau degau o filoedd o bobl Cymru, yn cynnwys rhai o'r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed.
Mewn cytundeb pum mlynedd, bydd Llywodraeth Cymru a'r cyrff swyddogol sy'n cynrychioli cymdeithasau tai a chynghorau yng Nghymru yn llofnodi cytundeb i gydweithio i helpu cyflawni targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o dai fforddiadwy.
Mae'r sector cymdeithasau tai yng Nghymru wedi ymrwymo i gyflenwi o leiaf 12,500 o'r cartrefi newydd hyn, cynnydd mawr ar flynyddoedd blaenorol. Bydd llawer o awdurdodau lleol yn cyflenwi nifer sylweddol o gartrefi newydd am y tro cyntaf mewn blynyddoedd.
Mae'r Cytundeb Cyflenwi Tai hefyd yn addo creu miloedd o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth yn ogystal â phrentisiaethau erbyn 2021.
Caiff y cytundeb, rhwng Llywodraeth Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei ddadlennu heddiw yng nghynhadledd Flynyddol CHC yng Nghaerdydd.
Bydd Carl Sargeant AC, Gweinidog dros Gymunedau a Phlant, hefyd yn defnyddio ei araith i gyhoeddi hwb sylweddol i gyllideb eleni ar gyfer cartrefi fforddiadwy newydd drwy ddarparu arian ychwanegol drwy gymorth grant.
Dywedodd: "Roedd cyllideb wreiddiol Grant Tai Cymdeithasol eleni yn £68 miliwn. Bydd y £30 miliwn ychwanegol a gyhoeddaf heddiw yn mynd â chyllideb y rhaglen i bron £100 miliwn.
"Bwriadwn fuddsoddi dros £1.5 biliwn mewn cartrefi fforddiadwy yn ystod tymor hwn y llywodraeth. Mae cefnogaeth barhaus i dai cymdeithasol yn hollbwysig. Nid yw 'busnes fel arfer' yn opsiwn ond bydd gan gynlluniau sydd wedi hen ennill eu plwyf fel y rhaglen Grant Tai Cymdeithasol a'r Grant Cyllid Tai rôl allweddol wrth gyflenwi cartrefi fforddiadwy a chynorthwyo'r bobl fwyaf agored i niwed i gael mynediad i gartrefi a'u cadw wedyn."
Bu cymdeithasau tai yn ganolog wrth helpu Llywodraeth Cymru i ragori ar ei tharged pum-mlynedd blaenorol o 10,000 o dai fforddiadwy. Eleni, cafodd 94 y cant o'r rhain eu hadeiladu gan gymdeithasau tai.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru, fod cymdeithasau tai yn parhau i wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau ac i economi Cymru.
"Mae ein haelodau yn darparu cartrefi ar gyfer rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, gan roi gofal a chefnogaeth iddynt nad yw ar gael unrhyw le arall. Maent hefyd yn gwneud cyfraniad enfawr i economi Cymru ac am bob £1 y mae cymdeithas tai yn ei gwario, mae 90c yn aros yng Nghymru gan fod o fudd i fusnesau a chymunedau lleol.
Bydd cymdeithasau tai yn ymwneud â chreu hyd at 12,000 o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth, fydd yn golygu swyddi a phrentisiaethau newydd. Bydd hefyd ddatblygu sgiliau a chefnogaeth i 25,000 o bobl."
Dywedodd Steve Thomas, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod awdurdodau lleol eisoes yn gweithio'n agos gyda chymdeithasau tai.
Ychwanegodd: "Gellid dadlau fod ein partneriaeth o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector y mwyaf llwyddiannus o'i math ym Mhrydain mewn blynyddoedd diweddar. Drwy gyfuno ein sgiliau byddwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i gynifer o bobl yng Nghymru gan greu cymdogaethau lle mae pobl eisiau byw a gweithio.
"Bydd nifer o awdurdodau lleol sy'n landlordiaid hefyd yn adeiladu cartrefi newydd eu hunain a bydd cynghorau lleol yn parhau i fod â rhan bwysig, gan wneud tir ar gael ar gyfer cartrefi newydd a chydweithio gyda phartneriaid i gyflawni'r targed. Mae hon yn bartneriaeth hanesyddol fudd o fantais i bawb yng Nghymru."
Darllenwch y Cytundeb Cyflenwi Tai yn llawn yma
Cewch wybod am sut mae Cymdeithasau Tai Cymru yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl dros Cymru:
Tai Hafod
Mae Cymdeithas Tai Hafod wedi croesawu tenantiaid i'w cartrefi newydd ym mhentref Tregolwyn, Bro Morgannwg, yn ddiweddar. Mae'r 16 cartref, sy'n rhan o ddatblygiad o 64 o anheddau, yn helpu i ateb y galw lleol uchel am dai fforddiadwy o fewn y gymuned wledig.
Arferai Emma Murphy, mam i dri o blant, rentu'n breifat ac roedd ganddi brofiad o safonau gwael a diffyg sefydlogrwydd oherwydd contractau tymor byr.
Dywedodd: "Roedd clywed bod gennym gartref newydd gyda Hafod fel ennill y loteri. Mae'n mynd i wneud cymaint o wahaniaeth i fi a fy merched. Mae gennym sefydlogrwydd nawr a gallaf setlo i lawr mewn gwirionedd ac ar ben hynny rydyn ni'n dal i fod yn agos at berthnasau, ysgol a gwaith. Mae wedi codi pwysau mawr oddi ar fy ysgwyddau."
Mae pobl bellach yn byw mewn chwech o'r cartrefi a bydd deg arall yn barod y gwanwyn nesaf (2017) yn cynnwys 3 tŷ dwy ystafell wely a fydd ar werth am bris isel.
Cymdeithas Tai Newydd - Yr Hen Orsaf
Symudodd tenantiaid i mewn i ddatblygiad tai £3.2 miliwn Yr Hen Orsaf a ar Heol Gileston, Sain Tathan, ym Mro Morgannwg ym mis Chwefror eleni. Cafodd y datblygiad gan Gymdeithas Tai Newydd o 23 o fflatiau, byngalos a thai un, dwy a thair ystafell wely i gyd eu codi i lefel 3 y Cod Cartrefi Cynaliadwy mewn carreg draddodiadol neu eu peintio mewn lliwiau cynnes yn gydnaws gyda'r ardal wledig.
Symudodd y tenant Jo-Ann Warren i mewn gyda'i theulu - merch Mia 13 oed a mab 15 oed, ar ôl byw'n flaenorol mewn tŷ anaddas ar rent preifat. Mae gan Ian ei mab awtistiaeth a dyspracsia sy'n effeithio ar ei allu i symud. Mae'r cyflwr yn golygu ei fod yn wynebu'r un risgiau â phlentyn sy'n dysgu cerdded. Cafodd cartref y teulu yn Yr Hen Orsaf ei addasu'n benodol ar gyfer Ian, gan fod ganddo lifft ac ystafell wlyb.
Esboniodd Jo-Ann: "Bûm yn aros yn hir am gartref wedi'i addasu. Mae gan fy mab awtistiaeth a dyspracsia ac mae angen help ychwanegol ar gyfer pethau fel mynd fyny'r grisiau. Rwyf wedi dioddef gyda phroblemau gyda fy nghefn yn y gorffennol a waethygodd fel canlyniad, ond mae gan ein cartref newydd y cyfleusterau i alluogi pawb ohonom i fyw'n annibynnol ac mae wedi gwneud byd o wahaniaeth i bawb ohonom mewn llawer o wahanol ffyrdd."
Cafodd datblygiad tai Yr Hen Orsaf ei adeiladu ar safle tir llwyd gan y contractwyr Jehu Project Services ar ran Newydd ac mewn partneriaeth gyda Chyngor Bro Morgannwg. Mae'n cynnig cartrefi fforddiadwy ar rent i bobl leol a chafodd y cynllun ei ran-ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Bron Afon - Hen ysgol gynradd Pontymoile.
Mae Bron Afon yn adeiladu 39 o gartrefi newydd. Bydd 28 ohonynt ar gael i'w rhentu a chaiff un ar ddeg eu gwerthu dan gynllun rhanberchenogaeth. Y gost yw £3.683m ac mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid drwy'r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol.
Dywedodd Duncan Forbes, prif weithredydd Bron Afon: "Rydym yn teimlo'n falch iawn i gael ein prosiect adeiladu tai cyntaf ar y gweill. Bydd ein hacademi hyfforddiant Trade That Works y gwnaethom ei ddatblygu yn gynharach eleni yn cymryd rhan amlwg ac yn gwneud yn siŵr y gall trigolion di-waith gael sgiliau a chefnogaeth hanfodol i ganfod swyddi parhaol." Caiff hyd at bedair o swyddi ar gyfer pobl leol eu creu. Sennybridge Cyfyngedig yw'r contractwr.
Trivallis - Springfield Court
Roedd Brian Davies a'i ferch Tamika ymysg y teuluoedd cyntaf i symud i'w cartref newydd yn Springfield Court - datblygiad mwyaf Trivallis hyd yma o gartrefi newydd. Symudodd Brian a Tamika i'w tŷ dwy ystafell wely ym mis Hydref.
"Mae'n wych, popeth y gallem fod ei angen a'i eisiau," meddai Brian, a arferai rentu fflat ddwy ystafell wely yn breifat yn Nhonteg. "Mae popeth wedi disgyn i'w le, rwy'n hapus tu hwnt gyda sut mae'r cyfan wedi digwydd."
Fel rhan o'r broses lofnodi, gwahoddwyd tenantiaid i ymweld â'u cartref newydd a chwrdd â'u Rheolwr Cymdogaeth. Esboniodd Brian: "Fe wnes gyfarfod gyda'r tîm a aeth â fi o amgylch y tŷ. Roedd yn help mawr oherwydd fe wnaethant esbonio'r system wresogi, y cytundeb tenantiaeth a hyd yn oed ddweud wrthyf ar ba ddyddiau y caiff fy miniau eu casglu."
Cafodd y cartrefi eu hadeiladu yn unol â Grant Tai Cymdeithasol sy'n cyflawni gwahanol safonau Llywodraeth Cymru yn cynnwys Gofynion Ansawdd Datblygu, Cartrefi Gydol Oes a Diogel drwy Ddyluniad. Mae hyn yn golygu y gall y cartrefi gael eu haddasu i weddu i anghenion y tenant os yw eu hamgylchiadau'n newid. Mae brawd Brian bellach yn defnyddio cadair olwyn yn dilyn salwch ac roedd yn rhyfeddu fod ei frawd yn gallu symud yn rhwydd o amgylch y tŷ. "Mae pwy bynnag gynlluniodd y cartrefi yma yn wych. Mae'n wirioneddol glyfar a gallwch weld eu bod wedi ystyried popeth, yn cynnwys y dyfodol," ychwanegodd Brian.
Cymdeithas Tai Sir Fynwy - Clos yr Hen Ysgol
Symudodd Jill a Derek Emms i Clos yr Hen Ysgol, Cil-y-coed, datblygiad Cymdeithas Tai Sir Fynwy (MHA) ym mis Mehefin eleni. Roedd Clos yr Hen Ysgol yn cynnig 18 cartref newydd ar rent - cymysgedd o dai, fflatiau a byngalo i'r anabl. Arferai ysgol gynradd o'r 1960au ac iard chwarae mewn cyflwr gwael fod ar y safle. Prynodd MHA y tir gan yr awdurdod lleol a dymchwel yr ysgol. Adeiladodd MHA gartrefi newydd safon uchel yno a chreu cymuned gynaliadwy ddeniadol mewn partneriaeth gyda M and J Cosgrove Contractors.
Dywedodd y tenant Mrs Emms: "Rydym wrth ein bodd yma ac wedi setlo yma'n dda. Mae'n dawel yma ac rydym wrth ein bodd yn ein cartef newydd a'r ardd."
United Welsh - Cwrt Maes Dyfan.
Sophie Lewis o'r Barri oedd y person cyntaf i brynu cartref gyda chymdeithas tai United Welsh mewn partneriaeth gyda Chyngor Bro Morgannwg drwy gynllun perchentyaeth cost isel Aspire2Own.
Ym mis Tachwedd cafodd Sophie, sy'n 24 oed ac yn prynu ei chartref cyntaf, yr allweddi i gartref dwy ystafell wely newydd sbon yn Gibbonsdown Rise, Y Barri. Yn natblygiad Cwrt Maes Dyfan a adeiladwyd gan Persimmon, prynodd Sophie ei chartref cyntaf ar sail rhannu ecwiti 76% ar £92,400 heb unrhyw ddyddiad cau, rhent neu logau i ad-dalu ar y 24% arall. Gall Sophie hefyd sicrhau 100% o'r ecwiti yn ei chartref os yw'n dymuno.
Dywedodd Sophie: "Roeddwn yn arfer byw gyda fy rhieni yn y Glannau yn y Barri. Roeddwn eisiau i fy nghartref cyntaf fod yn agos at deulu a ffrindiau yn y Barri ond roeddwn yn ei chael yn anodd fforddio llefydd yn yr ardaloedd roeddwn yn eu hoffi. Sylweddolais fod tai yn rhy ddrud ar gyfer fy nghyllideb. Mam oedd yr un a sylwodd ar y cartref yn Gibbonsdown Rise. Gan ystyried y gwerth ardderchog, credais y dylwn ystyried y cynllun perchentyaeth cost isel ac yna pan sylweddolais nad oedd amserlen ar gyfer ad-dalu gweddill yr ecwiti, roedd y cynllun hyd yn oed yn fwy deniadol i mi. Fe fyddwn yn bendant yn argymell y cynllun yma i bobl eraill sy'n prynu eu cartref cyntaf."
Cartrefi Cymunedol Gwynedd – Pwllheli
Cafodd datblygiad tai newydd cyntaf CCG ym Mhwllheli yn Nwyfor ei gwblhau'n gynharach eleni. Mae'r datblygiad newydd yn Lôn Abererch yn cynnwys pedwar tŷ deulawr dwy ystafell wely a thri byngalo dwy ystafell wely. Enw'r stad newydd yw Tir Tywod, a awgrymwyd gan Gyngor Tref Pwllheli. Cafodd cyfanswm o 58% o'r prosiect ei ariannu drwy Raglen Tai Cymdeithasol Cartrefi Llai Llywodraeth Cymru a chawsant eu targedu at bobl yr oedd diwygio llesiant wedi effeithio arnynt.
Symudodd John a Jennifer Campbell i un o'r byngalos newydd. Dywedodd Mrs Campbell: "Rydym wrth ein bodd gyda'r byngalo. Bydd symud i gartref llai, a fydd yn haws i ni ei drin, yn gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau. Mae'n llawer mwy a hyd yn oed yn well nag y gwnaethom erioed ddychmygu. Allwn ni ddim diolch digon i CCG am ein cartref newydd." Mae'r tenantiaid newydd yn manteisio o arbed ynni ac ni fydd y dreth ystafelloedd gwely yn effeithio arnynt. Fel canlyniad i'r cynllun, bydd tai 3 a 4 ystafell wely ym Mhwllheli yn dod ar gael i gael eu gosod i deuluoedd sydd angen y cartrefi yma.