Jump to content

19 Gorffennaf 2017

Cynllunio ar gyfer 20,000 o gartrefi

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru, ynghyd â Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi llofnodi Cytundeb Cyflenwi Tai sy'n addo cyflenwi 20,000 o gartrefi erbyn diwedd tymor presennol y Cynulliad. Gwelsom ymagwedd gadarnhaol at gyflenwi gan ein haelodau, yn ogystal â chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar ffurf cyllid cyfalaf sylweddol. Mae CHC wedi adolygu profiadau ei aelodau o'r systemau cynllunio a chaffael tir, yn ogystal â'r problemau a gânt pan maent ar safle pan roddwyd caniatâd, er mwyn sicrhau y gall cymdeithasau tai fanteisio'n llawn ar y cyd-destun cadarnhaol y maent yn gweithredu ynddo. Fe wnaethom hefyd ofyn iddynt ddynodi meysydd y dynodwyd a fyddai o bosibl yn arafu eu gallu i adeiladu'r tai mae Cymru eu hangen.

Er mwyn goresgyn y rhwystrau hyn mewn ffordd adeiladol, buom yn gweithio gyda'n partneriaid yn y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a Ffederasiwn Meistri Adeiladu - y mae ei haelodau â phryderon tebyg am rwystrau wrth gyflenwi tai - i baratoi papur gwybodaeth 'Cynllunio ar gyfer 20,000 o Gartrefi: Argymhellion ar gyfer gwelliannau i'r systemau tir a chynllunio a fyddai'n hwyluso cyflawni Cytundeb Tai 2016'. Darllenwch y papur gwybodaeth yma.

Diben y papur gwybodaeth yw argymell meysydd ar gyfer gwella'r systemau cyfredol a rhoi sylw i syniadau ein haelodau i gyflymu prosesau a gwella galluoedd awdurdodau lleol i'n helpu i gyflenwi nifer fwy o gartrefi newydd.

Bu ymgysylltu â rhanddeiliaid yn rhan o'r broses o baratoi'r adroddiad hwn ac, ynghyd â'n haelodau, rydym yn ddiolchgar i'r dilynol am eu hamser: RTPI Cymru; Lichfields; Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi; Dŵr Cymru; Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Arup; a Chymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru.