Jump to content

20 Mehefin 2017

Cynllun Corfforaethol CCC 2017/18




Mae'r amser hwnnw o'r flwyddyn eto pan gyhoeddwn y gweithgaredd y byddwn yn canolbwyntio arno yn ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2017/18.


Ein gwaith yw sicrhau fod y sector tai cymdeithasol yng Nghymru yn parhau i ffynnu ac yn barod ar gyfer y dyfodol, a gyda heriau niferus o'n blaenau yn cynnwys pwysau ar refeniw, ansicrwydd gyda Brexit, diwygio llesiant ac ymestyn y Credyd Cynhwysol yn llawn, mae gennym rôl hanfodol wrth lunio'r amgylchedd y mae ein haelodau'n gweithredu ynddo.


Dyma ail flwyddyn cynllun tair blynedd sy'n canolbwyntio ar y themâu dilynol: cefnogi aelodau i fod yn fusnesau cydnerth, galluogi cyflenwi mwy o gartrefi ansawdd da a gwirioneddol fforddiadwy a chefnogi aelodau i adeiladau cymunedau cynaliadwy y mae pobl yn dymuno byw ynddynt.

Penderfynu ar y blaenoriaethau


Y llynedd fe wnaethom sefydlu rhaglen cyswllt gydag aelodau, lle mae gan bob cymdeithas bwynt cyswllt penodol yn CHC. Nod y rhaglen cyswllt yw sicrhau mwy o ymgysylltu gyda'r sector fel eu bod yn teimlo fod ganddynt ran ac y gallant ddylanwadu ar gyfeiriad strategol a gweithgareddau CHC. Bu'r cyfarfodydd hyn hefyd yn allweddol wrth sicrhau ein bod yn cadw ein bysedd ar bỳls yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i'n haelodau.


Rhoddodd y trafodaethau yn y cyfarfodydd hyn a sesiwn ehangach yn ein rhwydwaith Prif Swyddogion Gweithredol, a gyda ein bwrdd, ein rhestr ddechreuol o flaenoriaethau i ni.


Fe wnaethom wedyn ddefnyddio'r rhaglen cyswllt i gasglu sylwadau timau arweinyddiaeth ein haelodau am ba weithgareddau y teimlent fod angen i ni eu blaenoriaethu yn 2017/18, a chytuno pa olwg fyddai ar lwyddiant.


Gwyddom fod ein haelodau yn griw amrywiol a bod eu gwaith yn cwmpasu llawer mwy o feysydd nag mae pobl yn sylweddoli. Roedd yn bwysig i ni ganfod beth a gredent oedd y gweithgareddau effaith uchel - gweithgareddau oedd â'r potensial i wneud gwahaniaeth go iawn a pharhaus i'w hamgylchedd gwaith.

Beth oedd blaenoriaethau ein haelodau?


Mae tri allan o'r pum blaenoriaeth uchaf mewn meysydd polisi a gaiff eu rheoli gan San Steffan. Felly, gyda'r inc fwy neu lai wedi sychu ar y papurau pleidleisio, gwyddom fod gennym waith i'w wneud gyda'r garfan newydd o Aelodau Seneddol yng nghoridorau San Steffan.


Bydd dylanwadu ar wleidyddion yn rôl allweddol yn llawer o'n gweithgaredd, yma yng Nghymru a hefyd yn San Steffan. Mae'r meysydd blaenoriaeth allweddol eraill yn cynnwys: Rheoleiddio, Cyflawni ar y Cytundeb Cyflenwi Tai a Llywodraethiant i enwi ond rhai.





Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn gydag aelodau, rydym wedi adolygu, mireinio a diwygio'r cynllun yn barod am weithredu - yn wir rydym wedi gwneud cynnydd ar lawer ohono eisoes!


Gydag amgylchedd sy'n newid yn barhaus, mae'n awr yn bwysig ein bod yn adolygu'r blaenoriaethau hyn yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau'n berthnasol. Sut fydd ein haelodau'n gwybod am y cynnydd a wnawn ar eu rhan? Yn ogystal â'r newyddion diweddaraf, byddwn hefyd yn paratoi adroddiadau chwarterol ar gynnydd (http://chcymru.org.uk/en/about-us/corporate-plan-and-member-offer/) fydd yn amlinellu'r hyn yr ydym wedi ei gyflawni, ac yn edrych ymlaen at y gweithgaredd y byddwn yn canolbwyntio arno am y chwarter dilynol.


Gwyddom ei fod yn uchelgeisiol - dywedodd ein haelodau hynny wrthym. Ond gwyddom hefyd fod gennym dîm (http://chcymru.org.uk/comms/CHCMemberOffer2017/whos-who-(cym).html) ymroddedig a thalentog tu ôl i'r llenni i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud yr hyn y dywedwn y byddwn yn ei wneud.


Gallwch weld Cynllun Corfforaethol llawn 2017/18 yma. http://chcymru.org.uk/comms/CHCCorporatePlan2017/landing-page-cym.html
Edwina O'Hart
Cyfarwyddydd Cynorthwyol Cyfathrebu a Gwasanaethau Aelodau