Jump to content

31 Mai 2017

Cynghrair Cartrefi i Gymru yn cynnal Diwrnod Gweithredu Tai cyn Etholiad Cyffredinol 2017

Bydd partneriaid ac aelodau Cartrefi i Gymru yn cymryd rhan mewn Diwrnod Gweithredu ddydd Mercher 31 Mai i godi ymwybyddiaeth o ddau beth y mae'r Gynghrair yn gofyn amdanynt gan ymgeiswyr San Steffan.

Ail-lansiwyd cynghrair Cartrefi i Gymru cyn Etholiad Cyffredinol mis Mehefin, yn dilyn ymgyrch lwyddiannus yn ystod Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2016 i godi safle materion tai datganoledig ar yr agenda gwleidyddol. Bydd ymgyrch Etholiad Cyffredinol 2017 Cartrefi i Gymru yn canolbwyntio ar ddau fater canolog i denantiaid a landlordiaid Cymru a gaiff eu rheoli o San Steffan.

Ar y Diwrnod Gweithredu, bydd partneriaid Cartrefi i Gymru yn galw ar ymgeiswyr yr Etholiad Cyffredinol yn eu hardal i:

- gefnogi system llesiant sy'n sicrhau y gall pawb gael mynediad i gartref fforddiadwy

- cefnogi'r diwydiant adeiladu fel y gall gael mynediad i'r deunyddiau a'r llafur y mae eu hangen i adeiladu cartrefi fforddiadwy

Caiff partneriaid a chefnogwyr eu hannog i drydaru eu darpar ymgeiswyr seneddol neu gysylltu â nhw ar Facebook i'w hysbysu am faterion lleol a chenedlaethol, i wahodd ymgeiswyr i ymweld â'r cynlluniau a phrosiectau; ac i godi ymwybyddiaeth a sicrhau cefnogaeth ar gyfer prif ofynion y gynghrair gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn dilyn yr etholiad. Gall cefnogwyr hefyd drydaru eu cefnogaeth yn uniongyrchol o wefan Cartrefi i Gymru.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: "Ers etholiadau llynedd i'r Cynulliad, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn y tymor hwn o'r Cynulliad ac wedi cyflwyno deddfwriaeth i ddod â'r Hawl i Brynu i ben, ond mae ein ffocws yn awr ar San Steffan.

"Caiff yr Etholiad Cyffredinol ar 8 Mehefin ei weld trwy lens y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rydym eisiau sicrhau y caiff llais cynghrair Cartrefi i Gymru ei glywed. Er bod tai yn fater sydd wedi'i ddatganoli i Fae Caerdydd, mae penderfyniadau yn San Steffan yn dal i ddylanwadu ar yr amgylchedd polisi tai yma yng Nghymru. Dyma pam fod y gynghrair yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn dilyn yr etholiad i gefnogi system llesiant teg a chefnogi'r diwydiant adeiladu. Rydym yn gweithio tuag at darged o 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2021, ac rydym eisiau canolbwyntio ar adeiladu'r economi ar ôl Brexit."

Mae partneriaid cynghrair Cartrefi i Gymru eleni yn cynnwys: Cymdeithas Landlordiaid Preswyl (RLA), Sefydliad Tai Siartredig (CIH) Cymru, Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig (RICS), Sefydliad Brenhinol Cynllunio Trefi (RTPI), Ffederasiwn Adeiladwyr Meistr, a Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi.