Jump to content

27 Mawrth 2020

Cymuned yn dod ynghyd i gefnogi ei gilydd drwy Coronafeirws

Cymuned yn dod ynghyd i gefnogi ei gilydd drwy Coronafeirws
Yn ystod yr argyfwng Coronafeirws (COVID-19), mae cymdeithasau tai ledled Cymru yn gorfod addasu eu gwasanaethau yn gyflym a chanolbwyntio eu sylw ar feysydd blaenoriaeth. Mae Janet Bochel, Cyfarwyddydd Gweithredol Cymdeithas Tai Teulu yn Abertawe, yn dweud wrthym beth y buont yn ei wneud i gefnogi tenantiaid:


“Ein blaenoriaeth fu sicrhau fod ein tenantiaid mwyaf bregus yn cael popeth maent ei angen. Mae hynny wedi golygu cysylltu â phob preswylydd dros 70 oed, tenantiaid sydd â phroblemau iechyd ac unrhyw un sy’n byw mewn llety gwarchod a chynlluniau Gofal Ychwanegol.


Bu’r tîm yn gwirio i wneud yn siŵr y cysylltir gyda thenantiaid yn rheolaidd, nodi pwy sydd eisiau galwadau wythnosol, neu hyd yn oed ddyddiol, ac yna sicrhau fod darpariaethau yn eu lle i wneud yn siŵr fod pawb yn medru cael eu neges o’r siop, eu bod yn gysurus ac yn teimlo’n ddiogel. Maent hefyd wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau eraill i gael y gefnogaeth mae tenantiaid ei hangen.


Bu ein cynllun gofal ychwanegol yn darparu prydau ar glud ac yn trefnu dosbarthu bwyd, sefydlu cyfrifon i lacio baich ariannol ar unrhyw un a all fod yn profi mwy o galedi oherwydd y sefyllfa bresennol.


Mae llawer o’n staff y bu eu swyddi arferol yn llai prysur dros yr ychydig wythnosau diwethaf yn gwirfoddoli eu hamser i helpu ac yn awr yn cael eu hyfforddi i ddarparu gofal sy’n cael ei arwain gan gymorth. Rydym yn gwneud yn siŵr y caiff adnoddau eu rhannu fel bod llai o straen ar y timau sy’n canfod eu hunain gyda llai o gapasiti oherwydd salwch.


Cafodd canllawiau adnoddau hefyd eu llunio ar gyfer tenantiaid a staff am dalu rhent a chael mynediad i fudd-daliadau.


Mae gael cefnogaeth ein timau mewnol lle mae prinder staff hefyd yn golygu ein bod yn gostwng y nifer o bobl newydd mae’n tenantiaid yn gorfod cwrdd â nhw, a all fod yn anodd i bobl gydag salwch meddwl sydd angen mwy o sefydlogrwydd.


Er na welodd neb ohonom gyfnod tebyg i hwn, cawsom ein synnu ar yr ochr orau o ddigon gyda’r ffordd mae tîm Tai Teulu wedi ateb yr her, gan wirfoddoli ar benwythnosau a gyda’r nos i roi cymaint o gefnogaeth i gydweithwyr a thenantiaid ag sydd modd.


Rydym hefyd wedi gweld cymdeithasau tenantiaid yn camu mewn i gefnogi cymdogion sy’n hunanynysu. Mae ymdeimlad go iawn fod y gymuned yn dod ynghyd i gefnogi ei gilydd.”






Adborth tenantiaid:


“Hoffwn ddweud diolch wrth yr holl staff yma, hefyd y staff arlwyo ar y safle. Maent i gyd yn gofalu amdanom yn rhagorol. Roeddwn eisiau gadael i chi wybod faint rwy’n gwerthfawrogi popeth sy’n cael ei wneud i ni yma.”


“Doeddwn i ddim yn disgwyl i chi alw, mae mor braf siarad gyda rhywun a gwybod fod o bwys ganddyn nhw”


“Diolch yn fawr iawn am alw, doeddwn i heb siarad gyda neb ers cwpl o ddyddiau”


“Diolch i chi am feddwl amdanom”


“Rydych yn wirioneddol feddylgar”


“Mae hwn yn gyfnod brawychus, mae’n braf gwybod eich bod yn gofalu amdanom”